Roddy Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1891 Porthmadog |
Bu farw | 22 Chwefror 1970 Sussex |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu, athro |
Actor theatr, ffilm a theledu o Gymru oedd Rhodri Henry "Roddy" Hughes (19 Mehefin 1891 –22 Chwefror 1970) a ymddangosodd mewn dros 80 o ffilmiau rhwng 1932 a 1961.[1]
Ganwyd Hughes ym Mhorthmadog yn fab hynaf y Parchedig Llewelyn Robert Hughes, ficer plwyf Ynyscynhaearn a Maria Elizabeth (née Sweetapple) ei wraig.[2] Roedd ganddo ddau frawd Y Parchedig Ganon Frederick Llewelyn Hughes, Deon Ripon a Hubert Darrell Hughes a laddwyd ym Mesopotamia yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[3] Ym 1898 penodwyd ei dad yn rheithor Llandudno a symudodd y teulu yno i fyw. Cafodd Rhodri Hughes ei addysgu yng Ngholeg Llanymddyfri a Phrifysgol Rhydychen.
Wedi ymadael a'r brifysgol aeth Hughes i weithio fel athro yn Ysgol Malborough House, Hove.[1] Ers ei blentyndod bu Hughes ymwneud â byd y theatr ac adloniant [4]. Roedd yn aelod o Gymdeithas Drama Amatur Llandudno [5] a pharhaodd ei ddiddordeb trwy ei gyfnod fel myfyriwr ac fel athro. Cafodd ei gyflwyno i'r actor a rheolwr theatr Cyril Maud gan Arglwydd Mostyn a Miss Douglas Pennant. Trwy Maud cafodd cyfle i weithio fel dirprwy actor i Charles Windermere o dan yr enw llwyfan Hugh Rhodri.[6] Fel Hugh Rhodri gafodd un rôl actio, fel y saer cloeon yn Sarah Sleeps Out, yn theatr Aldwich ym mis Medi 1916.[7]
Tarddodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei yrfa actio, ymunodd a'r Corfflu Hedfan Brenhinol (adran awyr y fyddin Brydeinig cyn ffurfio'r Awyrlu Brenhinol) ym 1916. Cafodd dadfyddiniad ar sail iechyd ym 1917 gan ei fod yn dioddef yn arw o asthma.[8] Wedi ymadael a'r fyddin ail afaelodd ar ei yrfa actio, ond gan ddefnyddio'r enw Roddy Hughes, gan fod mynychwyr y theatr yn credu bod Hugh Rhodri yn enw Almaeneg.[6]
Wedi hynny bu'n teithio ledled gwledydd Prydain yn chwarae yn y theatrau rhanbarthol mewn dwsinau o ddramâu a chomedïau cerddorol. Ymysg y dramâu cafodd clod am ei berfformiadau ynddynt bu The Lady and the Rose [9] ym 1922; Frederica ym 1933 [10] a Joy Will Come Back ym 1937 [11]. Bu hefyd yn chware'r brif ran ym mherfformiad cyntaf drama Emlyn Williams Druid's Rest rhwng 1943 a 1944.[12]
Ymysg ei ymddangosiadau cyntaf mewn dramâu radio bu Rhondda Roundabout gan Jack Jones ym 1939.[13] Bu ei ran cyntaf ar y teledu yn y cyfnod cyn i deledu'r BBC cau lawr am gyfnod yr Ail Ryfel Byd, mewn perfformiad byw o A Bedfast Prophet gan Ronald Elwy Mitchell a David Rorie ar 17 Awst 1939.[14]
Ymddangosiad ffilm gyntaf Hughes oedd rhan fach yn Reunion (1932), dan gyfarwyddiad Ivar Campbell.[15] Ei ran sylweddol cyntaf oedd yn Lest We Forget. Mae'r ffilm yn adrodd stori am Sais, Cymro, Gwyddel, ac Albanwr sy'n cael eu dal mewn twll cregyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cytuno i aduno ymhen 20 mlynedd - os ydyn nhw dal yn fyw. Ei rôl fwyaf nodedig oedd yn chware rhan Mr. Fezziwig yn Scrooge (1951), addasiad o lyfr Dickens, A Christmas Carol
Ym 1931 priododd Winifred Dorothy Smith merch Harry Smith YH, Wood Green, Swydd Rydychen [16]. Ni fu iddynt blant.