Romain Feillu

Romain Feillu
Ganwyd16 Ebrill 1984 Edit this on Wikidata
Châteaudun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra174 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau62 cilogram Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://romain.feillu.free.fr/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auFortuneo-Oscaro, HP BTP-Auber 93, Agritubel, Vacansoleil-DCM Edit this on Wikidata
Saflecycling sprinter Edit this on Wikidata

Seiclwr proffesiynol o Ffrainc ydy Roman Feillu (ganed 16 Ebrill 1984). Ganwyd yn Châteaudun, ac mae'n frawd hŷn i Brice Feillu sydd hefyd yn seiclwr proffesiynol. Mae'n reidio dros dîm Agritubel ers 2005.[1]

Dechreuodd ei yrfa proffesiynol fel reidiwr hyfforddedig (stagiaire) gydag Agritubel yn 2005. Fe roddodd argraff dda ar reolwyr y tîm, gan ennill cyntundeb gyda'r tîm yn y flwyddyn ganlynol. Enillodd y Grand Prix Tours a'r Tour de la Somme yn 2006. Yn 2007, enillodd gymal o'r Tour de Luxembourg a'r Circuit de l'Aulne. Cystadlodd hefyd yn y Tour de France am y tro cyntaf, gan orffen yn y deg uchaf mewn sbritiau grŵp dair gwaith. Tynnodd allan o'r ras wedi cymal 8, sef yr ail gymal mynyddig. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd y Tour of Britain a'r Paris-Bourges.

Yn 2008, enillodd y Circuit de l'Aulne. Gwisgodd Feillu y Crys Melyn am y tro cyntaf ar ôl cymal 4 Tour de France 2008, gan ennill y Crys Gwyn yr un adeg.

Canlyniadau

[golygu | golygu cod]
2006
1af Grand Prix Tours
1af Tour de la Somme
2007
1af Circuit de l'Aulne
1af Cymal 3, Tour de Luxembourg
1af Tour of Britain
1af Paris-Bourges
10fed Paris-Tours (UCI ProTour)
2008
1af Circuit de l'Aulne
1af Dosbarthiad cyffredinol ar ôl Cymal 4, Tour de France
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc ar ôl Cymal 4, Tour de France
2009
Tour de Picardie
1af Cymal 2
1af Dosbarthiad pwyntiau
1af Dosbarthiad reidiwr ifanc
3ydd Route Adélie
3ydd Cymal 2, Tour de France

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Team biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-14. Cyrchwyd 2009-07-11.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: