Roy Lichtenstein | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Lichtenstein, Roy ![]() |
Ganwyd | 27 Hydref 1923 ![]() Efrog Newydd, Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw | 15 Medi 1997 ![]() Manhattan, Q20218880 ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, academydd, cynllunydd llwyfan, lithograffydd, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gwneuthurwr printiau, arlunydd graffig, drafftsmon, artist, arlunydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Girl with Ball, Girl with Hair Ribbon, Takka Takka, Look Mickey, Blam, Engagement Ring, Ten Dollar Bill, Electric Cord, I Can See the Whole Room...and There's Nobody in It!, Times Square Mural ![]() |
Arddull | bywyd llonydd ![]() |
Mudiad | celf bop ![]() |
Priod | Dorothy Lichtenstein, Isabel Sarisky ![]() |
Plant | Mitchell Lichtenstein, David Lichtenstein ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Rhufain, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, Y Medal Celf Cenedlaethol ![]() |
Roedd Roy Fox Lichtenstein (27 Hydref 1923 – 29 Medi 1997) yn arlunydd Americanaidd. Yn y 1960au, gydag Andy Warhol, Jasper Johns, a James Rosenquist, fe ddaeth yn un o brif enwau'r mudiad celfyddyd bop.[1] Wrth ddefnyddio stribed comig a’r byd hysbysebu fel ysbrydoliaeth, roedd ei waith yn finiog a manwl, yn ddogfennu y gymdeithas o'i amgylch gyda hiwmor, parodi ac eironi.[2][3]
Ganwyd yn Efrog Newydd i deulu Iddewig dosbarth canol, roedd ei dad yn werthwr tai.[4] Raddiodd o Brifysgol Ohio ym 1949, roedd ei waith cyntaf yn arddull Mynegiadaeth haniaethol (Abstract expressionism) yn un o'r mudiadau celfyddydol mwyaf ddylanwadol yn yr Unol Daleithiau ar y pryd gydag enwogrwydd artistiaid fel Jackson Pollock a Mark Rothko.[4]
Ar ddiwedd y 1950au fe ddechreuodd arbrofi gyda delweddau oddi ar bapur lapio gwm cnoi a delweddau cowbois y Gorllewin Gwyllt gan yr arlunydd Frederic Remington.
O 1961 ymlaen, fe ganolbwyntiodd ar gynhyrchu darluniau yn seiliedig ar gartwnau, stribedi comig a hysbysebion poblogaidd – a alwyd ymhen amser yn gelfyddyd bop. Fe chwyddodd y delweddau i lenwi cynfasau mawrion gan beintio amlinellau du gydag ochrau miniog a’u llenwi gyda lliwiau llachar. Un o nodweddion Lichtenstein oedd ei ddefnydd o ddotiau mawr i gyfleu'r broses argraffu 'hanner tôn', ond pob un wedi'i beintio â llaw gyda chymorth stensil.
Ym 1961 arddangoswyd ei waith yn oriel enwog Leo Castelli, Efrog Newydd ac fe ddaeth Lichtenstein i sylw'r byd celf. Y flwyddyn ganlynol fe gynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf i artist unigol yn yr oriel ac fe werthwyd pob un darlun cyn yr agoriad.[4] Pan arddangoswyd yn gyntaf, fe heriodd rhai beirniad wreiddioldeb waith Lichtenstein, gan ddweud ei fod yn 'di-chwaeth' ac yn 'wag'. Gofynnodd bennawd mewn un erthygl yng nghylchgrawn Life os oes Lichtenstein yr 'arlunydd gwaethaf yn America?'[5]
Ar 15 Mai 2013 fe werthwyd Woman with flowered hat yn Christie's Efrog Newydd am $56.1 miliwn.[6] Un o ddarluniau enwocaf Lichtenstein yw Whaam!, 1963 sydd heddiw i weld yn Oriel y Tate Modern yn Llundain. Mae'r darlun steil cartŵn yn dangos awyren rhyfel yn saethu roced tuag at awyren arall, gyda ffrwydrad coch a melyn a'r geiriau "Whaam!". Mae bocs gyda'r geiriau "I pressed the fire control... and ahead of me rockets blazed through the sky...". Mae'r llun yn 'triptych' (dros dri chynfas), 1.7 x 4.0 m.
Dechreuodd Lichtenstein arbrofi gyda cherfluniau yn tua 1964 gan gyd weithio gyda cheramigwr mae cerfluniau mawr ganddo i'w weld yng nghanol sawl dinas yn cynnwys Barcelona.[7] Nes ymlaen yn y 60au symudodd i ffwrdd o waith yn seiliedig ar stribedi cartwn yn cynhyrchu cyfres yn barodïau o waith meistri fel Cézanne, Mondrian, Vincent van Gogh a Picasso cyn cyfres o strôc frwsh cartwnaidd.[8]
Mae dylanwad ei waith i’w weld yn eang ar ddylunio graffeg a hysbysebion cyfoes, gyda chopiau o'i steil yn ymddangos trwy'r byd ar gyrsiau T ffasiynol a chloriau recordiau. Cydnabyddir Whaam! a Drowning Girl fel gwaith mwyaf adnabyddus Lichtenstein,[9][10][11] gyda Oh, Jeff...I Love You, Too...But... yn drydydd.[12] Ystyrir Drowning Girl, Whaam! a Look Mickey ei waith mwyaf dylanwadol.[13]