Ryan Davies

Ryan Davies
Ganwyd22 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Glanaman Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ebrill 1977 Edit this on Wikidata
o asthma Edit this on Wikidata
Buffalo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, canwr, cyfansoddwr, athro, actor teledu Edit this on Wikidata

Digrifwr, canwr ac actor o Gymro oedd Ryan Davies (22 Ionawr 193722 Ebrill 1977), dyn a'i wreiddiau yng Nglanaman, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru cyn ei farwolaeth annhymig.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ym mhentre Glanaman yn Sir Gaerfyrddin yn fab i William Thomas Davies a Nans Davies (gynt Llywelyn). Pan oedd yn 10 oed, symudodd ei deulu i Llanfyllin, Powys. Roedd ei rieni wedi eu cyflogi i redeg hen wyrcws Llanfyllin, Y Dolydd wedi iddo gael ei addasu i fod yn gartref gofal, ei dad yn Feistr a'i fam yn Fetron.[1] Roedd ei dad wedi gweithio mewn sawl sefydliad a chartref plant gyda'r awdurdodau lleol. Roedd W.T. Davies yn bysgotwr, naturiaethwr a cherddor a bu'n organydd yng Nghapel Moriah gan gyfeilio ac arwain Côr Cymysg Llanfyllin. Roedd Ryan yn canu yng Nghôr Plant Llanfyllin a bu'n perfformio yn Eisteddfod Powys gan adrodd, canu yn unigol a chanu i gyfeiliant y delynores Nansi Richards. Dysgodd Ryan i chwarae'r delyn hefyd.

Aeth Ryan i Ysgol Uwchradd Llanfyllin lle parhaodd i ddangos eu ddoniau, gan chwarae y piano yn y gwasanaeth, canu tenor mewn perfformiad o The Seasons gan Haydn a pherfformio ar lwyfan. Roedd yn hoff o chwaraeon gan chwarae criced i Sir Drefaldwyn ac roedd yn gôl-geidwad i dîm Llanfyllin am gyfnod.[2]

Wedi gadael yr ysgol, gwnaeth dwy flynedd o wasanaeth milwrol gyda'r RAF cyn mynd i hyfforddi fel athro yn Ngholeg Normal Bangor. Aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Ganolog Llefaru a Drama Llundain cyn gweithio am bum mlynedd fel athro ysgol gynradd yn Croydon. Yn Llundain daeth i adnabod y dramodydd Gwenlyn Parry. Gadawodd yr ysgol yn 1965 i fynd yn actor proffesiynol llawn-amser.[3]

Yn perfformio gyda Margaret Williams yn 1967

Ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966 a daeth ei ddawn at sylw cynhyrchwyr radio a theledu. Gwnaeth ei enw ar y rhaglen gomedi sefyllfa Fo a Fe ar BBC Cymru yn rhan yr Hwntw 'Twm Twm'. Parwyd Ryan gyda'r actor Ronnie Williams gan bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru, Meredydd Evans, yn y sioe adloniant Cymraeg Ryan a Ronnie a daeth y ddau yn enwog iawn yn perfformio mewn clybiau ar draws Cymru.

Roedd sioe Ryan a Ronnie mor boblogaidd fel y cafodd ei symud i BBC1 gyda fersiwn yn Saesneg, gan ddod a chynulleidfa llawer ehangach iddynt. Nhw oedd y digrifwyr cyntaf i wneud cyfres deledu yn Gymraeg a Saesneg ac roedd y pâr yn cael eu hystyried fel y Morecambe and Wise Cymreig[4]. Darlledwyd tair cyfres rhwng 1971 ac 1973. Un o sgetsus cofiadwy y gyfres oedd "Our House", lle roedd Ryan yn gwisgo fyny fel 'Mam Gymreig' ystrydebol gyda Ronnie yn chwarae Will, y tad.

Gwahanodd y pâr yn 1975, a'r rheswm swyddogol oedd iechyd Ronnie. Parhaodd Ryan i ymddangos yn helaeth ar deledu gan wneud ymddangosiadau mewn pantomeim adeg y Nadolig yn Theatr y Grand, Abertawe..[5]

Ar yr un pryd, roedd gan Ryan yrfa fel canwr, pianydd a chyfansoddwr caneuon. Mae rhai o'i gyfansoddiadau enwocaf yn cynnwys: "Hen Geiliog y Gwynt", "Nadolig Pwy a Wyr"[6] a "Blodwen a Meri". Ystyrir ei albwm, Ryan at the Rank, yn glasur. Serennodd Ryan fel "2nd Voice" yn y ffilm Under Milk Wood (1972) gyda Richard Burton.

Perfformiwyd un o ganeuon Ryan ei hunan, "Pan Fo'r Nos yn Hir", yn ei angladd.[7] Mae wedi ei recordio gan sawl perfformiwr arall yn cynnwys Rhydian Roberts ar ei albwm 2011 Welsh Songs: Caneuon Cymraeg, a Chor Meibion Whitland ar ei albwm canmlwyddiant "A Hundred Years of Song".[8] Mae caneuon eraill a ysgrifennwyd gan Ryan a ganwyd gyda'i bartner Ronnie wedi ei canu gan artistiaid eraill yn cynnwys "Ti a dy ddoniau" (Jodie Marie)[9] ac "Yn y bore" (Emyr Wyn Gibson & Steve Pablo Jones).

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Ryan ei gariad ers yn blentyn, Irene a chawsant ddau o blant, Bethan ac Arwyn.

Yn 1977 roedd Ryan yn ymweld a ffrindiau yn Buffalo, Efrog Newydd, yn yr Unol Daleithiau, pan gafodd ymosodiad o'r fofga a bu farw. Roedd yn un o berfformwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd, a bu ei farwolaeth sydyn yn ddeugain oed yn ysgytwad fawr yng Nghymru.

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Caneuon a gyfansoddodd

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd detholiad o ganeuon Ryan Davies yn 1983.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Dathlu bywyd Ryan Davies yn y canolbarth , BBC Cymru Fyw, 22 Ebrill 2017. Cyrchwyd ar 7 Mai 2019.
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-09-30. Cyrchwyd 2019-05-07.
  3. (Saesneg) Ryan Davies, Welsh entertainer. BBC (24 Chwefror 2012). Adalwyd ar 7 Mai 2019.
  4. New book highlights life of Ryan and Ronnie - 'The Welsh Morecambe and Wise' (en) , Wales Online, 2 Tachwedd 2014. Cyrchwyd ar 28 Chwefror 2016.
  5. Swansea's Grand Theatre: official website. Accessed 11 Mawrth 2013
  6. Nathan Bevan (28 March 2013). "Ryan Davies' family reunion". WalesOnline. Cyrchwyd 30 December 2018.
  7. Oxford Welsh Male Voice Choir - Recordings Archifwyd 2021-01-19 yn y Peiriant Wayback. Accessed 28 Chwefror 2016
  8. "WHITLAND MALE VOICE CHOIR - CAN MLYNEDD O GAN / A HUNDRED YEARS OF SONG". Sain. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-07. Cyrchwyd 4 March 2017.
  9. "Jodie Marie". S4C (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mawrth 2017.