Salvador Garmendia

Salvador Garmendia
GanwydSalvador Garmendia Graterón Edit this on Wikidata
11 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Barquisimeto Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mai 2001 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Man preswylCaracas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, awdur plant, colofnydd, nofelydd, sgriptiwr, cyfarwydd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Y Wobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Premio Juan Rulfo Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr ffilm a theledu o Feneswela oedd Salvador Garmendia (11 Mehefin 192813 Mai 2001).

Roedd yn hanu o Barquisimeto yn nhalaith Lara yng ngorllewin Feneswela.

Ysgrifennodd y nofelau Los pequeños seres (1959), Día de cenizas (1963), Los habitantes (1968), ac El Capitán Kid (1988), gweithiau sy'n efelychu'r nouveau roman Ffrangeg o ran technegau'r adroddiant. Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Crónicas sádicas (1990) a Cuentos cómicos (1991). Yn ogystal â'i lyfrau ffuglen, mae'n nodedig am ysgrifennu sgriptiau telenovelas yn y 1970au. Ysgrifennodd hefyd y ffilmiau Fiebre (1975), Juan Tapocho (1977), a La Gata Borracha (1983). Enillodd y Wobr Lenyddol Genedlaethol yn 1972, a Gwobr Juan Rulfo yn 1989 am ei lyfr Tan desuda como una piedra.[1]

Bu farw o gymhlethdodau o ganser a chlefyd y siwgr yn Caracas yn 72 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Raymond Leslie Williams, "Garmendia, Salvador (1928–2001)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Medi 2019.
  2. (Saesneg) "Salvador Garmendia Dies at 72", Associated Press (14 Mai 2001). Adalwyd ar 3 Medi 2019.