Shaheen Jafargholi | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1997 Abertawe, Cymru |
Label recordio | Island Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr, actor teledu |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Mae Shaheen tuma Jafargholi (ganed 23 Ionawr 1997) yn actor a chanwr Cymreig-Iranaidd o Abertawe, Cymru. Daeth yn enwog ar ôl iddo ganu ar y gyfres deledu Britain's Got Talent yn y DU.
Rhieni Shaheen yw Karen Thomas, sy'n Gymraes, ac Iraj Jafargholi, ymgynghorydd cyfrifiadurol Iranaidd. Mae ei rieni wedi gwahanu.[1] Roedd yn ddisgybl ym Ysgol Gymunedol Dylan Thomas [2] a mynychodd Ysgol Berfformio Mark Jermin ar ddyddiau Sadwrn. Gwelwyd Jafargholi ar raglen ddogfen BBC Cymru o'r enw Starstruck a oedd yn dilyn hynt a helynt plant yr ysgol berfformio am chwe mis.
Chwaraeodd Jafargholi ran y cymeriad Troy (cymydog Jason) yn y gyfres deledu i blant Grandpa In My Pocket.[3]. Mae ef hefyd wedi actio yn y rhaglen deledu Torchwood yn y rhifyn "Greeks Bearing Gifts", yn chwarae cymeriad Danny - plentyn y gwallgofddyn o dad[4] yn ogystal â chymryd rhan yn y gyfres deledu meddygol Casualty, lle chwaraeodd rhan Christy Skinner, claf a oedd yn ddioddef o'r rhug.[5] Aeth Jafargholi ar daith hefyd gyda "Thriller - Live" lle chwaraeodd rhan Michael Jackson ifanc.[6]
Perfformiodd Jafargholi hefyd yng nghyngerdd deyrnged Michael Jackson yn Los Angeles ar 7 Gorffennaf 2009.[7]
Yn Ebrill 2016, cyhoeddwyd ei fod am ymuno â'r opera sebon Eastenders mewn rhan rheolaidd.[8] Yn dilyn stori am droseddau cyllyll, bu farw ei gymeriad yn Mai 2018 wedi cael ei drywanu gan gang. Ar 1 Awst 2018, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno â chast Casualty fel y nyrs Marty Kirkby.[9]
Blwyddyn | Gwaith | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2004 | Casualty | Christy Skinner | Teledu; rhaglen "Inside Out" |
2006 | Torchwood | Danny | Teledu; rhaglen "Greeks Bearing Gifts" |
2009 | Grandpa in My Pocket | Troy | BBC; Rhan achlysurol |
2016–2018 | EastEnders | Shakil Kazemi | Rhan rheolaidd (159 pennod) |
2018- | Casualty | Marty Kirkby | Rhan rheolaidd |