Shefali Chowdhury | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mehefin 1988 Dinbych |
Man preswyl | Birmingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Adnabyddus am | Harry Potter and the Goblet of Fire |
Taldra | 1.63 metr |
Actores o Gymru yw Shefali Chowdhury (ganwyd 20 Mehefin 1988) sydd o dras Bangladeshi. Caiff ei hadnabod am chwarae rôl Parvati Patil yn nghyfres ffilmiau Harry Potter, heblaw am Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (2004), lle caiff y rôl ei chwarae gan Sitara Shah.
Chowdhury yw'r ieuengaf o bump, a ganwyd hi yn Ninbych, Cymru. Mae ei rhieni yn dod o Fangladesh, a symudon nhw i Brydain yn 1980. Pan roedd hi'n chwech oed, symudodd i Firmingham, Lloegr.
Adnabyddir Chowdhury am ei pherfformiad fel Parvati Patil ym mhedair o ffilmiau Harry Potter, gan ddechrau yn 2005 yn Harry Potter and the Goblet of Fire. Cafodd hi'r rôl pan roedd hi'n ei blwyddyn olaf yn Ysgol Waverley ym Mirmingham. Mae hi a Afshan Azad, (a oedd yn chwarae rôl efaill Chowdhury Padma Patil) yn dal i fod yn ffrindiau da, yn ôl Azad.[1]
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2005 | Harry Potter and the Goblet of Fire | Parvati Patil | |
2007 | Harry Potter and the Order of the Phoenix | ||
2009 | Harry Potter and the Half-Blood Prince | ||
2015 | I Am the Doorway | Ffilm fer | |
Heist: Jane | Ffilm fer |