Siri Hustvedt | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1955 Northfield, Minnesota |
Man preswyl | Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, awdur ysgrifau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Sorrows of an American, Un été sans les hommes |
Tad | Lloyd Hustvedt |
Priod | Paul Auster |
Plant | Sophie Auster |
Gwobr/au | Gwobr Llyfrgelloedd Québec, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Prix Femina, doctorat honoris causa de l'université Grenoble-III, Gwobr Ewropeaidd l'Essai Charles Veillon, honorary doctorate of Paris Nanterre University |
Gwefan | http://www.sirihustvedt.net/ |
Awdur Americanaidd yw Siri Hustvedt (ganwyd 19 Chwefror 1955) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, nofelydd, ac awdur ysgrifau.
Fe'i ganed yn Northfield, Minnesota yn Unol Daleithiau'r America a mynychodd Goleg Sant Olaf a Phrifysgol Columbia. Priododd Paul Auster ac mae Sophie Auster yn blentyn iddi. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Sorrows of an American a Un été sans les hommes.[1][2][3][4]
Erbyn 2019 roedd Hustvedt yn awdur un gyfrol o farddoniaeth, saith nofel, dau lyfr o draethodau, a sawl gwaith ffeithiol. Mae ei llyfrau'n cynnwys: The Blindfold (1992), The Enchantment of Lily Dahl (1996), What I Loved (2003), y mae hi'n fwyaf adnabyddus amdano, A Plea for Eros(2006), The Sorrows of an American (2008), The Shaking Woman or A History of My Nerves (2010), The Summer Without Men (2011), Living, Thinking, Looking (2012), a The Blazing World (2014). Roedd What I Loved a The Summer Without Men yn werthwyr llyfrau rhyngwladol. Cyfieithwyd ei gwaith i dros dri-deg o ieithoedd.
Yn ferch i'r athro-prifysgol Lloyd Hustvedt, mynychodd Siri ysgol gyhoeddus yn ei thref enedigol Northfield, a derbyniodd radd gan Ysgol yr Eglwys Gadeiriol yn Bergen, Norwy, ym 1973. Dechreuodd ysgrifennu yn dair ar ddeg ar ôl taith deuluol i Reykjavík lle darllenodd amryw o weithiau clasurol. Gwnaeth David Copperfield gan Charles Dickens argraff arbennig arni, a phenderfynodd yn y fan a'r lle ei bod am wneud llenyddiaeth yn yrfa iddi ar ôl gorffen y llyfr.[5]
Graddiodd Hustvedt o Goleg St. Olaf gyda gradd B.A. mewn Hanes ym 1977. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd er mwyn cael mynychu Prifysgol Columbia fel myfyriwr graddedig ym 1978. Roedd ei gwaith cyhoeddedig cyntaf yn gerdd yn The Paris Review. [6][7][8]
Roedd Hustvedt yn byw mewn tlodi yn ystod ei blynyddoedd coleg, ac wedi troi at fenthyciad brys gan y brifysgol er mwyn iddi ddal dau ben llinyn ynghyd.[5]
Cwblhaodd ei PhD mewn Saesneg yn Columbia ym 1986. Roedd ei thraethawd hir ar Charles Dickens, Figures of Dust: A Reading of Our Mutual Friend.
Ymddangosodd casgliad bychan o gerddi, Reading to You, ym 1982 gyda Station Hill Press. Cyhoeddwyd dwy stori o'r pedair a fyddai'n cael eu hailbobi'n nofel gyntaf iddi, sef The Blindfold, mewn cylchgronau llenyddol ac fe'u cynhwyswyd yn ddiweddarach yn Best American Short Stories 1990 a 1991.[9]
Ers hynny mae hi wedi parhau i ysgrifennu ffuglen a chyhoeddi traethodau ar y tir cyffredin rhwng athroniaeth, seicdreiddiad a niwrowyddoniaeth. Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n rheolaidd am gelf weledol. Rhoddodd Hustvedt y drydedd ddarlith Schelling flynyddol ar estheteg yn Academi y Celfyddydau Cain ym Munich.
<ref>
annilys; mae'r enw "g1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
Men jeg bodde et år hos min tante og onkel i Fana da jeg var utvekslingselev ved Bergen Katedralskole.CS1 maint: unrecognized language (link)