Math | former region of Morocco |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Sous, Afon Massa, Afon Draa |
Prifddinas | Agadir |
Daearyddiaeth | |
Sir | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 70,880 km² |
Cyfesurynnau | 30.43°N 9.6°W |
MA-13 | |
Un o 16 rhanbarth Moroco yw Souss-Massa-Draâ (Arabeg: سوس ماسة درعة). Fe'i lleolir yng nghanolbarth Moroco. Mae ganddo arwynebedd o 70,880 km² a phoblogaeth o 3,113,653 (cyfrifiad 2004). Agadir yw'r brifddinas.
Mae Souss-Massa-Draâ yn rhanbarth mawr sy'n ymestyn o lan Cefnfor Iwerydd yn y gorllewin hyd at y Sahara a'r ffin ag Algeria yn y dwyrain. Siaredir Tamazight, un o'r ieithoedd Berber, gan nifer o'r trigolion.
Ers 2005, Wali (llywodraethwr) Souss-Massa-Draâ yw Rachid Filali.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys y taleithiau a préfectures a ganlyn :