Stefan Żeromski

Stefan Żeromski
FfugenwMaurycy Zych, Józef Katerla, Stefan Iksmoreż Edit this on Wikidata
Ganwyd14 Hydref 1864 Edit this on Wikidata
Kielce Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, dyddiadurwr, dramodydd, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Spring to Come Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
PartnerOktawia Żeromska Edit this on Wikidata
PlantAdam Żeromski, Monika Żeromska Edit this on Wikidata
LlinachQ63531310 Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadlywydd Urdd Polonia Restituta, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, awdur straeon byrion, a dramodydd Pwylaidd yn yr iaith Bwyleg oedd Stefan Żeromski (14 Hydref 186420 Tachwedd 1925) sydd yn nodedig am ei nofelau naturiolaidd sydd yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol.

Ganed i deulu tlawd, o dras uchelwrol, yn Strawczyn, Teyrnas Pwyl, yn Ymerodraeth Rwsia. Methodd ennill ei ddiploma o'r ysgol uwchradd, felly bu'n rhaid iddo astudio yn y brifysgol filfeddygol yn Warsaw. Gweithiodd yn diwtor mewn plastai cefn gwlad ac yna yn llyfrgellydd cynorthwyol yn y Swistir. Dychwelodd i Wlad Pwyl i weithio yn Llyfrgell Zamoyski yn Warsaw o 1897 i 1904. Ymsefydlodd yn Nałęczów ym 1905, ac ymgyrchodd dros addysg boblogaidd. Fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau Rwsiaidd ym 1908. Symudodd i Baris o 1909 i 1912 cyn dychwelyd i Warsaw, ac yno bu farw yn 61 oed.[1]

Bu sawl esiampl o'i ffuglen, gan gynnwys ei ddau gasgliad cyntaf o straeon byrion a gyhoeddwyd ym 1895, yn ymwneud â chymdeithas Gwlad Pwyl yn sgil Gwrthryfel Ionawr 1863 yn erbyn y Rwsiaid. Dychwelodd at y thema honno yn ei stori fer "Echa leśne" (1905) a'r nofel delynegol Wierna rzeka (1912). Mae ei nofel gyntaf, y nofel hunangofiannol Syzyfowe prace (1897), yn portreadu profiad disgyblion Pwylaidd o Rwsieiddio diwylliannol yn yr ysgol. Ymhlith ei nofelau eraill mae Uroda życia (1913), Ludzie bezdomni (1900), Popioły (3 cyfrol, 1904), a Przedwiośnie (1925). Ysgrifennodd hefyd ddramâu, gan gynnwys Uciekła mi przepióreczka (1924).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Stefan Żeromski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2020.