Stuart Whitman | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1928 San Francisco |
Bu farw | 16 Mawrth 2020 o canser y croen Montecito |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Actor Americanaidd oedd Stuart Maxwell Whitman (1 Chwefror 1928 – 16 Mawrth 2020). Roedd yn fwyaf adnabyddus fel seren ffilmiau antur.
Cafodd ei eni yn San Francisco, yn fab i Cecilia (née Gold) a Joseph Whitman.[1] Roedd yn ddisgybl mewn 26 o ysgolion gwahanol oherwydd bod ei rieni wedi teithio llawer. Ymunodd â Byddin yr Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2]
Roedd un y sêr yn y ffilm The Longest Day, gyda Richard Burton a Donald Houston.
Roedd yn briod deirgwaith ac roedd ganddo bump o blant.