Sw Caer

Sw Caer
Mathsŵ Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1931 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUpton-by-Chester Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd125 acre Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2267°N 2.8842°W Edit this on Wikidata
Cod postCH2 1EU Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganGeorge Mottershead Edit this on Wikidata
Dau okapi prin yn Sw Caer
Glöyn byw Morffo Glas
Asennau gwyllt

Sw neu ardd swolegol a leolir ger dinas Caer yn Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Sw Caer (Saesneg: Chester Zoo). Fe'i agorwyd yn 1931 gan George Mottershead a'i deulu, gan ddefnyddio fel ei fan cychwyn anifeiliaid o sw arall yn Shavington. Mae'n un o'r sŵau mwyaf yng ngwledydd Prydain gyda 111 acer (0.45 km²) o dir ar gyfer y sŵ ei hun a chyfanswm o 400 acer (1.6 km²) o dir i gyd.

Mae Sw Caer yn cael ei redeg gan Gymdeithas Swolegol Gogledd Lloegr, elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 1934. Dyma brif atyniad bywyd gwyllt Prydain yn 2007, gyda dros 1.3 miliwn o ymwelwyr. Yn yr un flwyddyn cafodd ei enwi gan Forbes fel un o'r pymtheg sŵau gorau yn y byd. Mae'n denu llawer o ymwelwyr o Ogledd Cymru.

Crewyd gwarchodfa natur to mewn i’r sw i warchod bywyd gwyllt cynhenid Prydain.[1]

Mae sawl ynys tu mewn y sw sy’n dangos bywyd gwyllt yr ynysoedd Panay, Papua Gini Newydd, Bali, Sumatra, Sumba a Sulawesi. Dangosir bywyd gwyllt Madagasgar hefyd.[2]

Mae gan y sw Reilffordd ungledrog.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato