Tatsuko Hoshino

Tatsuko Hoshino
Ganwyd15 Tachwedd 1903 Edit this on Wikidata
Fujimi Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1984 Edit this on Wikidata
o canser ar y rectwm Edit this on Wikidata
Kamakura Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Cristnogol y Merched, Tokyo Edit this on Wikidata
Galwedigaethhaiku poet, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hototogisu Edit this on Wikidata
Arddullhaiku Edit this on Wikidata
TadKyoshi Takahama Edit this on Wikidata
PlantTsubaki Hoshino Edit this on Wikidata
PerthnasauHoshino Tenchi Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Hoshino yw'r enw teuluol.

Bardd o Japan oedd Tatsuko Hoshino (星野 立子 Hoshino Tatsuko; 15 Tachwedd 1903 - 3 Mawrth 1984[1][2]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd Haiku (neu 'haicŵ'), yn y cyfnod Shōwa (1926–1989).[3][4][5]

Fe'i ganed yn Kōjimachi, Tokyo, bu farw yn Kamakura, Kanagawa o ganser colorectaidd ac fe'i chladdwyd yn Jufuku-ji, Kamakura.

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cristnogol y Merched, Tokyo.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Roedd yn ferch i'r bardd a'r nofelydd Takahama Kyoshi. Mynychodd yr ysgol baratoadol ar gyfer Prifysgol Gristnogol Menywod Tokyo. Ar ôl priodi ŵyr Hoshino Tenchi, cafodd ei hannog gan ei thad i ddechrau ysgrifennu haicŵs ac yn fuan dangosodd dalent arbennig at y cyfrwng.[2]

Y llenor

[golygu | golygu cod]

Yn 1930 sefydlodd Hoshino gylchgrawn haiku o'r enw Tamamo ar gyfer menywod yn unig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymunodd â chylch llenyddol Hototogisu a rhannodd safle'r bardd haiku benywaidd gyda Nakamura Teijo. Ymunodd Hashimoto Takako a Mitsuhashi Takajo â'r ddau yn ddiweddarach.

Ym 1937, cyhoeddodd Hoshino ei blodeugerdd haiku gyntaf, a ddilynwyd gan gyfrolau eraill gan gynnwys Kamakura, Sasame a Jitsui. Parhaodd ei harddull yn ffyddlon i'r hyn a ddysgodd gan ei thad, a hynny ar ffurfiau traddodiadol, gan ddefnyddio symbolaeth naturiol. Roedd yn hoff iawn o natur ac roedd ganddi gyffyrddiad meddal, benywaidd o ymdrin â bywyd bob dydd.

Ar ôl marwolaeth ei thad, daeth Hoshino yn ddewisydd (golygydd) haiku ar gyfer y papur newydd Asahi Shimbun, a chyfrannodd at golofnau haiku mewn amrywiol bapurau newydd a chylchgronau. Yn ogystal â haiku, cyhoeddodd hefyd ysgrifau ar deithio, gan gynnwys Tamamo haiwa ("Straeon y Grwp Tamamo") a Yamato Seki-Butsu ("Buddhas Carreg Yamato").

Symudodd Hoshino i fyw yn Kamakura, Kanagawa ym 1911 ac yna cyfnod byr yn Tokyo, ond dychwelodd i Kamakura yn 1931, gan gredu ei fod yn lle delfrydol i fagu ei phlant.

Bu farw ym 1984 yn 80 oed. Mae ei bedd yn nheml Jufuku-ji, yn Kamakura.

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Zoku Tatsuko kushū: dai ni. Seishidō, Tokio 1947
  • Sasame, 1950
  • Jissei: kushū. Tamamosha, Tokio 1957
  • Yamato no sekibutsu. Tankōshinsha, Kyoto 1965
  • Kushū shunrai. Tōkyō Bijutsu, Tokio 1969

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Japanese Biographical Index, tud. 217. Walter de Gruyter, 2004. En Google Books. Adalwyd 2017.
  2. 2.0 2.1 Donegan, Patricia (en inglés). Haiku Mind: 108 Poems to Cultivate Awareness and Open Your Heart, tud. 182. Shambhala Publications, 2010. Google Books. 2017.
  3. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Gorffennaf 2024.
  4. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Tatsuko Hoshino". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Tatsuko Hoshino". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.