Tawel Nos

Y copi gwreiddiol o Stille Nacht, yn llaw y cyfansoddwr Franz X. Gruber.

Carol, neu gân Nadolig, yw Tawel Nos (Stille Nacht yn yr Almaeneg wreiddol).

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn 1818 gan Franz X. Gruber, organydd Eglwys Sant Nicolas yn Oberndorf, Awstria. Ysgrifennwyd y geiriau yn 1816 gan Joseph Mor, offeiriad y plwyf. Cafodd ei chanu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ar 24 Rhagfyr 1818 yn Eglwys Saint-Nicolas.

Geiriau Cymraeg

[golygu | golygu cod]
Tawel nos dros y byd,
Sanctaidd nos gylch y crud;
Gwylio'n dirion yr oedd addfwyn ddau,
Faban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.
Sanctaidd nos gyda'i ser;
Mantell fwyn, cariad per
Mintai'r bugail yn dod i fwynhau
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.
Tawel nos, Duw ei Hun
Ar y llawr gyda dyn;
Cerddi'r engyl, a'r Ne'n trugarhau;
Baban Duw gyda'r llygaid bach cau,
Crist, Tywysog ein hedd;
Crist, Tywysog ein hedd.
Eginyn erthygl sydd uchod am gân. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.