Pobl frodorol Patagonia yw'r Tehuelche (yr Aónikenk yn y de a'r Günün-A-Küna yn y gogledd). Cyfeirir atynt weithiau fel y Patagones, sef “traed mawr”, gan fforwyr Sbaen, a ddarganfu olion traed y llwyth ar draethau'r wlad.[1] Fodd bynnag, roedd y Patagones yn gwisgo crwyn anifail ar eu traed oedd yn gwneud yr ôl traed yn fwy o faint na thraed yr Ewropeaid.
Roedd rhai 4,000 neu 5,000 ohonyn yn byw yn yr ardal cyn i'r Ewropeaid gyrraedd, ond lleihaodd eu nifer yn gyflym ac yn ôl y Databas Ethnolegol does dim ond 4 o bobl yn siarad yr iaith heddiw.
Yr Ewropeiaid cyntaf i gwrdd â'r Tehuelche oedd y morwyr ar long Ferdinand Magellan ym 1520 a cheir adroddiad amdanynt gan Antonio Pigaffeta, cartograffydd a chroniclydd y daith.
Daethant i gysylltiad â'r Cymry yn y Wladfa yn Nyffryn Camwy o fewn tua blwyddyn i sefydlu'r Wladfa. Ar y cyfan, roedd y berthynas rhwng y Gwladfawyr a'r Tehuelche yn dda iawn; a dysgodd y Tehuelche lawer i'r Cymry am y wlad ac am ddulliau hela brodorol.
Roedd y Tehuelche yn helwyr, ond newidiodd eu ffordd o fyw ar ôl i'r ymsefydlwyr o Ewrop gyrraedd gyda'u ceffylau. Roedden nhw'n symud o gwmpas y wlad yn grwpiau teuluol. Collasant lawer o'u tiroedd yn ystod Concwest yr Anialwch yn y 1870au a'r 1880au.