Euplagia quadripunctaria | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Arctiidae |
Genws: | Euplagia |
Rhywogaeth: | E. quadripunctaria |
Enw deuenwol | |
Euplagia quadripunctaria (Poda, 1761) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr Dyfnaint, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod Dyfnaint; yr enw Saesneg yw Jersey Tiger, a'r enw gwyddonol yw Euplagia quadripunctaria.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop ac Asia Leiaf.
52–65 milimetr (2.0–2.6 mod) ydy lled ei adenydd agored ac mae'n hedfan yn y dydd rhwng Gorffennaf a Medi, yn ddibynol ar ei union leoliad.[3]
Ymhlith y bwyd mae'n ei fwyta mae: danadl poethion (Urtica) a mafon cochion (Rubus),[4] dant y llew (Taraxacum), Lamium, eiddew isel (Glechoma), Senecio, Plantago, Borago, letys (Lactuca),[5] a hemp (Eupratoria).[3]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr Dyfnaint yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.