Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Margaret Atwood |
Cyhoeddwr | McClelland & Stewart |
Gwlad | Canada |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1985 |
Genre | ffeministiaeth, Neo-Malthusianism, ffuglen hanesyddol, gwyddonias, ffuglen ddystopaidd |
Cyfres | The Handmaid's Tale |
Rhagflaenwyd gan | Bodily Harm |
Olynwyd gan | Cat's Eye |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Lleoliad y gwaith | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae The Handmaid's Tale yn nofel dystopaidd[1] gan yr awdures o Ganada Margaret Atwood[2][3] a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1985. Lleolir y nofel yn y dyfodol agos yn Lloegr Newydd, mewn gwladwriaeth grefyddol totalitaraidd, ddim yn annhebyg i ddwyflwyodraeth Gristnogol, sydd wedi disodli llywodraeth yr Unol Daleithiau.[4] Mae'r nofel yn canolbwyntio ar daith y lawforwyn Offred. Mae ei henw'n deillio o'r ffurf feddiannol o "Fred"; lle mae morynion yn cael eu gwahardd rhag defnyddio eu henwau genedigol, ac yn hytrach yn cael enwau sydd yn adleisio'r dyn, neu feistr, y maent yn eu gwasanaethu.
Mae The Handmaid's Tale yn archwilio themâu o fenywod mewn darostyngiad mewn cymdeithas batriarchaidd a'r gwahanol ffyrdd y mae'r menywod hyn yn ymgeisio i ennill eu unigolyddiaeth a'u hannibyniaeth. Mae teitl y nofel yn adleisio rhannau o straeon Geoffrey Chaucer gan gynnwys rhannau o The Canterbury Tales, sef cyfres o straeon cysylltiedig ("The Merchant's Tale", "The Person Tale", ac ati.).
Mae The Handmaid's Tale wedi ei strwythuro i ddwy ran - y nos, a digwyddiadau amrywiol eraill. Gall y nofel hon gael ei dehongli fel naratif dwbl, sef hanes Offred a hanes y morynion. Mae'r adrannau yn ystod y nos yn seiliedig yn unig ar Offred, ac mae'r adrannau eraill (siopa, ystafell aros, yn y cartref, ac ati.) yn straeon sy'n disgrifio bywyd pob dydd pob morwyn, er o safbwynt Offred. Mewn llawer o'r adrannau hyn, mae Offred yn neidio rhwng y presennol a'r gorffennol wrth iddi ailadrodd y digwyddiadau sy'n arwain at golli hawliau menywod ac at fanylion presennol y bywyd y mae hi bellach yn byw.
Enillodd The Handmaid's Tale y wobr gyntaf yn Governor General's Award ym 1985 a Gwobr Arthur C. Clarke ym 1987; fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobr Nebula ym 1986, y Booker Prize ym 1986, ac ym 1987, Gwobr Prometheus. Mae'r llyfr wedi ei addasu i ffilm 1990, 2000 opera yn 2000, cyfres deledu, a chyfryngau eraill.
Mae The Handmaid's Tale wedi ei osod yng Ngweriniaeth Gilead, sydd yn unbennaeth ddwyflwyodraeth filwrol a ffurfiwyd o fewn ffiniau o'r hyn a oedd gynt yn yr Unol Daleithiau o America.
Gan ddechrau gyda llwyfannu ymosodiad sy'n lladd yr Arlywydd a'r rhan fwyaf o'r Gyngres, daw mudiad Adferwrol Cristnogol ffwndamentalaidd sydd yn galw ei hun yn "Sons of Jacob" i lansio chwyldro ac atal yr Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau o dan yr esgus o adfer trefn. Maent yn gyflym yn cael gwared ar hawliau merched, yn bennaf oherwydd cofnodion ariannol yn cael eu storio yn electronig a'u labelu yn ôl rhyw. Daw'r drefn newydd, y Weriniaeth Gilead, yn gyflym i atgyfnerthu ei grym, gan gynnwys goddiweddyd yr holl grwpiau crefyddol cyn-presennol, gan gynnwys Cristnogaeth, ac ad-drefnu cymdeithas yn ôl model hierarchaidd milwrol newydd o ffanatigaeth crefyddol a chymdeithasol a ysbrydolwyd o'r Hen Destament ymysg ei ddosbarthiadau cymdeithasol newydd. Yn y gymdeithas hon, mae hawliau dynol wedi eu cyfyngu'n ddifrifol a hawliau merched yn cael eu cwtogi'n llym.Er enghraifft, mae gwahardd ar fenywod i ddarllen, ac mae unrhyw un a gaiff ei ddal mewn gweithredoedd cyfunrywiol yn cael ei grogi yn enw "bradwriaeth-ryw".
Mae'r hanes yn cael ei dweud yn y person cyntaf gan fenyw o'r enw Offred. Mae'r cymeriad yn un o ddosbarth o ferched sydd â system atgenhedlu iach, mewn cyfnod o ddirywiad mewn cyfraddau geni o ganlyniad i gynyddiad mewn anffrwythlondeb. Mae'r merched yma'n cael eu neilltuo'n erbyn eu hewyllys i gynhyrchu plant ar gyfer y dosbarth llywodraethol ac yn cael eu hadnabod fel "llawforynion", yn seiliedig ar hanes Rachel a'i llawforwyn Bilha yn y Beibl. Mae Offred disgrifio ei bywyd yn ystod ei thrydedd aseiniad fel llawforwyn, yn yr achos hwn i Fred Waterford (y cyfeirir ato fel "The Commander"). Yn gymysg â'i naratifau o brofiadau ei bywyd presennol mae ôl-fflachiau trafodaethau am ei bywyd cyn ac yn ystod dechrau'r chwyldro, pan mae hi'n sylweddoli ei bod wedi colli pob annibyniaeth i ei gŵr, yn eu ymgais aflwyddiannus i ddianc i Ganada, ac yn olaf ei thrwytho i fywyd fel llawforwyn gan fenywod a elwir yn "Aunts" a hyfforddwyd gan y llywodraeth.
Mae Offred yn disgrifio strwythur cymdeithas Gilead, gan gynnwys y gwahanol ddosbarthiadau o ferched ac yn eu bywydau o fewn y ddwydlwyodraeth newydd. Caiff merched eu gwahanu'n gorfforol, gan lliw ddillad—glas, coch, gwyrdd, streipiau a gwyn—i ddynodi dosbarth cymdeithasol a'u sefyllfa neilltuol, o'r safle uchaf i'r isaf. Caiff gwragedd y rheolwyr "The Commanders" eu gwisgo mewn glas, llawforynion mewn coch, Marthas (cogyddion a morwynion) yn wyrdd. Dillad streipiedig ar gyfer yr holl fenywod eraill (a elwir yn "Econowives") sydd yn ei hanfod i wneud popeth o fewn bywyd y cartref. Mae merched ifanc, di-briod yn cael eu gwisgo mewn gwyn.
Mae'r Commander yn swyddog uchel yng Ngilead. Er bod ei gysylltiad â Offred i fod yn gyfyngedig i'r "seremoni", sef defod o gyfathrach rywiol gyda'r bwriad o feichiogi ym mhresenoldeb ei wraig, mae'n dechrau perthynas anghyfreithlon gyda Offred. Cyfarfodydd dirgel yn digwydd yn ei swyddfa adref, lle yw gwraig y Commander yn cael mynd i fewn. Mae'r ystafell yn cael ei lenwi â llyfrau ac yn cael ei ystyried yn lle preifat i ddyn y tŷ. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae'n ceisio ennill ei ymddiriedaeth drwy siarad a chwarae gemau bwrdd megis Scrabble gyda hi. Mae hefyd yn gadael iddi, ac yn ei gwylio'n darllen, sydd yn drosedd arall, am nad oes gan ferched yr hawl i ddarllen nac ysgrifennu. Mae'r Commander yn cynnig cynhyrchion gwaharddedig megis hen gylchgronau ffasiwn (o'r 1970au), a cholur. Yn olaf, mae'n rhoi dillad isaf iddi ac yn mynd â hi i'r puteindy o'r enw Jesebel sydd yn cael ei redeg gan y llywodraeth. Mae puteindy'n cynnig amrywiaeth i fywyd rhywiol dynion fel, yn ôl y Commander, sy'n angenrheidiol. Yn Jesebel, daw Offred i gyfarfod ei ffrind, Moira, sydd wedi dianc o ganolfan hyfforddi'r llawforynion, ac fe ddaw i ddysgu sut y daeth i fod yno. Yno mae Moira'n esbonio sut y gall ferched herfeiddiol na allai addasu i'r gymdeithas newydd gael cynnig gwaith yn y Jesebel yn hytrach na chael eu gorfodi i weithio yn y Trefedigaethau (Colonies), i lanhau gwastraff ymbelydrol. Mae gan fenywod y puteindai caniatâd i yfed alcohol a chymeryd cyffuriau, sydd yn ryddid yn ôl nodiadau Offred. Er fod yr hawl ganddynt i ddewis eu cwsmeriaid, maent yn cael eu hannog yn erbyn gwrthod cynigion gan ddynion.
Mae gwraig y Commander, Serena Joy, yn elyniaethus. Mae Offred yn ei chofio fel personoliaeth o fewn y cyfryngau Cristnogol a cefnogai cartrefgarwch ac îs-rôl menywod ym mhell cyn Gilead gael ei sefydlu. Serena yn amlwg wedi diflasu ac yn anhapus—ac yn casáu rhannu ei gŵr â llawforwyn. Yn eironig, fodd bynnag, mae gan Serena hefyd ei rhyngweithiad cyfrinachol ag Offred, wrth drefnu am iddi gysgu gyda Nick, gyrrwr personol y Commander, mewn ymdrech i gael Offred yn feichiog. Yn gyfnewid am hyn, mae Serena Joy yn rhoi newyddion am ei merch a llun diweddar. Nid yw Offred wedi gweld ei phlentyn ers iddi hi a'i theulu gael eu dal wrth geisio dianc oddi wrth Gilead.
Ar ôl y cyfarfod cychwynnol Offred â Nick, maent yn dechrau cyfarfod yn fwy aml, a daw hi i ddarganfod ei bod yn mwynhau rhyw gydag ef, er gwaethaf ei syniadau a'i atgofion am ei gŵr. Mae hi'n rhannu gwybodaeth am ei gorffennol a allai fod yn beryglus gydag ef. Trwy ei phartner siopa, dynes o'r enw Ofglen, mae Offred yn dysgu wrthiant Mayday, sef rhwydwaith tanddaearol yn gweithio i ddymchwel Gweriniaeth Gilead. Yn fuan ar ôl diflaniad Ofglen (datgelir yn ddiweddarach fel hunanladdiad), daw gwraig y Commander i ddarganfod tystiolaeth am berthynas rhwng Offred a'r Commander, a daw Offred i gysidro hunanladdiad.
Ar ddiwedd y llyfr mae Offred yn dweud wrth Nick ei bod hi yn meddwl ei bod hi'n feichiog. Yn fuan wedyn, caiff ei tywys i ffwrdd gan yr heddlu cudd, yr Eyes of God, a'u gelwir yn anffurfiol fel yr "Eyes". Cyn iddi gael ei roi mewn fan mawr du, mae Nick yn dweud wrthi fod y dynion hyn yn rhan o wrthwynebiad Mayday ac iddi ymddiried ynddo. Nid yw Offred yn gwybod os yw Nick yn aelod o Mayday neu yntau'n un o'r Eyes yn honni bod yn aelod o'r gwrthwynebiad, ac mae'n ansicr os fyddai gadael yn arwain at ddianc neu gael ei chipio. Mae'n mynd i mewn i'r fan gyda dyfodol ansicr.
Mae'r nofel yn cloi gyda diweddglo metaffuglennol sydd yn esbonio fod digwyddiadau'r nofel yn digwydd yn fuan ar ôl dechrau'r hyn a elwir yn "Gyfnod Gilead". Mae'r diweddglo'n "drawsgrifiad rhannol o drafodion y Ddeuddegfed Symposiwm ar Astudiaethau Gileadaidd" a ysgrifennwyd yn 2195 a gynhaliwyd gan yr Athro Maryann Crescent Moon. Yn ôl "prif siaradwr" y symposiwm, yr Athro James Darcy Pieixoto, mae ef a'i gydweithiwr, yr Athro Knotly Wade wedi darganfod hanes Offred wedi ei recordio ar dapiau casét. Maent yn trawsgrifio'r tapiau, ac yn eu galw ar y cyd "the handmaid's tale". Trwy dôn a gweithredoedd y gweithwyr proffesiynol yn yr adran olaf y llyfr, mae byd academia yn cael ei amlygu a'i feirniadu, mae Pieixoto yn trafod ei dîm yn chwilio am y cymeriadau a enwir yn yr Hanes (Tale), a sut mae'n amhosibl profi dilysrwydd y tapiau.[5]
Fodd bynnag, mae bodolaeth o dapiau yn awgrymu bod Offred wedi dianc a goroesi am o leiaf ychydig o amser, ac felly fel yr oedd yr Eyes a fu i'w chasglu, mewn gwirionedd, yn rhan o Mayday. Mae'r diweddglo hefyd yn awgrymu yn dilyn cwymp Gweriniaeth Dwyflwyodraeth Gilead, daw'r gymdeithas i fod yn fwy cyfartal, er nid yr Unol Daleithiau a oedd wedi bodoli'n flaenorol, yn ailymddangos, gyda hawliau llawn i ferched yn dychwelyd a rhyddid crefydd.
Offered yw'r prif gymeriad ac adroddwr. Cafodd ei labelu'n "ferch hoedennaidd pan sefydlwyd Gilead am ei bod wedi priodi dyn a oedd wedi ysgaru. Bu i bob ysgariad gael ei ddileu gan y llywodraeth newydd, a olygai fod ei gŵr bellach yn cael ei ystyried yn dal yn briod i'w wraig gyntaf, yn gwneud Offred yn odinebwraig. Wrth geisio dianc o Gilead, fe'i gwahanwyd oddi wrth ei gŵr a'i mherch. Mae hi yn rhan o'r genhedlaeth gyntaf o ferched Gilead, y rhai sydd yn cofio'r amseroedd cyn-Gilead. Wrth brofi'n ffrwythlon, mae hi'n cael ei hystyried yn nwydd bwysig ac yn ei gosod fel llawforwyn yng nghartref y Commander Fred Waterford a'i wraig Serena Joy, i ddwyn plant ar eu cyfer (credir fod Serena Joy yn anffrwythlon).[6]
Enw caethweisiol yw Offred sy'n disgrifio ei swyddogaeth: hi yw " o Fred" (h. y., mae hi'n perthyn i Fred, ei rheolwr, ac yn cael ei ystyried yn gordderch). Yn y nofel, Dywed Offred nad yw yn gordderch, ond offeryn; "groth â dwy goes". Nid yw enwau'r llawforwynion yn dweud dim am boy yw'r merched yn wirioneddol; eu hunig hunaniaeth yw fel eiddo'r Commander. Mae "Offred" hefyd yn chwarae ar y gair (Saesneg) "offered", fel yn "a gynigir fel aberth", yn ogystal â chwarae ar y geiriau "off-red", gan gyfeirio at lliw gwisg y llawforynion ac at eu rhwystredigaethau gyda'i sefyllfa neilltuol.[7]
Mae'r merched mewn hyfforddiant i fod yn llawforynion yn sibrwd eu henwau ar draws eu gwelyau yn y nos. Yr enwau yw "Alma. Janine. Dolores. Moira. June," ac yn ddiweddarach maent i gyd yn cael eu cyfrif am ac eithrio June. Yn ogystal, mae un o'r Modrybedd ("Aunts") yn dweud wrth y llawforynion-mewn-hyfforddiant i roi'r gorau i "mooning and June-ing".[8] O hyn a chyfeiriadau eraill, mae rhai darllenwyr wedi casglu mai ei henw genedigol yw "June".[9] Mae Miner yn awgrymu bod "June" yn ffugenw. Gan mai "Mayday" yw enw gwrthwynebiad, gallai June fod yn dyfeisiad gan y prif gymeriad. Cynhelir cynhadledd Nunavit a gwmpesir yn y diweddglo ym mis Mehefin.[10] Pan fu i Hulu TV ddatgan mai new go iawn Offred oedd June, ysgrifennodd Atwood nad ei bwriad gwreiddiol oedd i awgrymu mai new go iawn Offred oedd June "ond mae'n cyd-fynd, felly, mae darllenwyr yn cael eu croesawu i hynny os ydynt yn dymuno".
Mae'r Commander yn dweud ei fod yn rhyw fath o wyddonydd a oedd yn flaenorol yn cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i ymchwil i'r farchnad, cyn-Gilead. Yn ddiweddarach, mae'n tybiwyd, ond nid yw'n cael ei gadarnhau, y gallai fod wedi bod yn un o benseiri'r Weriniaeth a'i ddeddfau. Yn ôl pob tebyg, ei enw cyntaf yw "Fred", ond gall hyn hefyd fod yn ffugenw.
Mae'n cymryd than mewn gweithrgareddau deallusol gwaharddedig ag Offred, megis chwarae Scrabble, ac yn ei chyflwyno i glwb cyfrinachol sy'n gwasanaethu fel puteindy ar gyfer swyddogion uchel eu swydd. Mae Offred yn dysgu fod y Commander wedi cael perthynas tebyg gyda'i lawforwyn flaenorol, ac iddi ladd ei hun pan oedd fu i Serena Joy ddid i wybod am hyn. Yn yr diweddglo mae'r ysgolheigion yn dyfalu bod un o ddau ffigwr, y ddau yn allweddol wrth sefydlu Gilead, efallai wedi bod yn Fred, yn seiliedig ar ei enw cyntaf. Awgrymir yn gryf mai dyn o'r enw Frederick R. Waterford oedd y Commander a gafodd ei ladd mewn ddarddeliad yn fuan ar ôl i Offred gael ei chymeryd i ffwrdd, wed ei gyhuddo o lochesu asiant y gelyn.
Mae Serena Joy yn gyn - efengylwraig teledu ac yn wraig i'r Commander yn y ddwyflwyodraeth ffwndamentalaidd. Cymerwyd ei phŵer a'i hadnabyddiaeth gyhoedus gan y wladwriaeth, ac mae'n ceisio cuddio'i hanes fel ffigwr teledu. Mae Offred yn nodi adnabod gwraig ei meistr gan ddwyn i gof ei gweld ar y teledu pan oedd hi'n ferch fach yn gynnar ar foraeau Sadwrn wrth aros am y cartwnau i ddechrau. Credir ei bod yn anffrwythlon (er bod yr awgrym yn cael ei wneud mai'r Commander sydd yn anffrwythlondd, mae deddfau Gileadean yn priodoli anffrwythlondeb i fenywod yn unig), mae hi'n cael ei gorfodi i dderbyn defnyddio llawforwyn. Mae hi'n dal dig ar y ffaith fod raid iddi gymeryd rhan yn y ddefod ffrwythlondeb misol. Mae hi'n taro bargen gyda Offred i drefnu iddi gael rhyw gyda Nick er mwyn dod yn feichiog. Yn ôl yr Athro Pieixoto yn y diweddglo, mai ffugenwau yw "Serena Joy" neu "Pam"; fe awgrymir mai enw go iawn y cymeriad i fod yw Thelma.
Cymydog i Offred yw Ofglen ac yn gymrawd Lawforwyn. Mae hi'n gweithio mewn partneriaeth gyda Offred i wneud y siopa dyddiol. Nid yw llawforynion byth yn cael eu gadael ar ben ei hunain ac mae disgwyl iddynt arolygu ymddygiad ei gilydd. Mae Ofglen yn aelod o wrthsafiad Mayday. Yn wahanol i Offred, mae hi'n feiddgar. Mae hi'n lladd ysbïwr Mayday fyddai fel arall yn cael ei arteithio a'i ladd er mwyn arbed ef y boen o farwolaeth dreisgar. Mae Offred yn cael arddeall pan fydd i Ofglen ddiflannu, mae hyn oherwydd ei bod wedi cyflawni hunanladdiad cyn y gall y llywodraeth fynd â hi i'r ddalfa oherwydd ei aelodaeth i'r gwrthwynebiad, o bosibl, i osgoi rhoi i ffwrdd unrhyw wybodaeth.
Mae llawforwyn newydd, hefyd a elwir yn Ofglen, yn cymryd lle Ofglen, ac yn cael ei neilltuo fel partner siopa Offred. Mae hi'n bygwth Offred yn erbyn unrhyw syniad o wrthiant, ac yn torri protocol drwy ddweud wrthi beth ddigwyddodd i'r Ofglen flaenorol.
Nick yw gyrrwr y Comander, sy'n byw uwchben y garej. Mewn trefniant gan Serena Joy, mae'n dechrau perthynas rywiol ag Offred i gynyddu ei siawns o feichiogi. os byddai Offred yn methu dod yn feichiog â'r Commander, byddai'n cael ei datgan yn anffrwythlon ac fe gai ei chludo i ddiffeithwch ecolegol y Trefedigaethau. Daw Offred i ddechrau datblygu teimladau tuag at Nick. Mae Nick yn gymeriad amwys, a dyw Offred ddim yw'n gwybod os ye'n deyrngarol tuag at y plaid neu'n ran o ymwrthedd, er ei fod yn nodi ei hun fel y cyntaf. Mae'r diweddglo'n awgrymu ei fod mewn gwirionedd yn rhan o'r gwrthwynebiad, a gynorthwyir Offred i ddianc o dŷ'r Commander.
Mae Moira wedi bod yn ffrind agos i Offred ers coleg. Fel lesbiad, mae hi wedi gwrthsefyll homoffobia cymdeithas Gilead. Caiff Moira ei chymeryd i fod yn Lawforwyn yn fuan ar ôl Offred. Mae hi'n dianc wrth ddwyn dillad a phás Modryb, ond daw Offred o hyd iddi'n ddiweddarach yn gweithio fel putain ym mhuteindy'r blaid. Cafodd ei dal a dewisodd y puteindy yn hytrach na chael ei hanfon at y Trefedigaethau.
Luke oedd gŵr Offred cyn ffurfiad Gilead. Roedd o wedi ysgaru ei wraig gyntaf â'i phriodi hi. O dan llywodraeth Gilead, caiff pobi ysgariad eu dileu'n ôl weithredol, gan arwain at Offred yn cael ei ystyried yn odinebwraig a'u mherch yn anghyfreithlon. Cafodd Offred ei gorfodi i fod yn Lawforwyn ac mae ei mherch yn cael ei rhoi i deulu deyrngarol. Ers eu ymgais i ddianc i Ganada, nid yw Offred wedi clywed gan Luke. Yn ddiweddarach yn y gyfres deledu, fe ddatgelir fod Luc yn dal yn fyw.
Pieixoto yw'r "cyd-darganfyddwr [gyda'r Athro Knotly Wade] o dapiau Offred". Yn ei gyflwyniad yn y gynhadledd academaidd, mae'n sôn am "y 'Problemau Gwirio wrth Gyfeirio at The Handmaid's Tale'Nodyn:'". Felly, Pieixoto yw'r person sy'n ailadrodd hanes Offred, ac felly'n gwneud y naratif yn hyd yn oed fwy annibynadwy nag yr oedd yn wreiddiol.
Mae'r nofel wedi'i osod mewn dyfodol amhenodol, damcanwyd i fod o gwmpas y flwyddyn 2005,[11] gyda dwyflwyodraeth ffwndamentalaidd yn rheoli tiriogaeth a arferai fod yn yr Unol Daleithiau, ond sydd rwan yn Weriniaeth Gilead. Mae unigolion yn cael eu gwahanu yn ôl categori ac yn gwisgo yn ôl eu swyddogaethau cymdeithasol. Mae codau gwisgo cymhleth yn chwarae rôl allweddol wrth osod rheolaeth gymdeithasol o fewn y gymdeithas newydd ac yn fodd i wahaniaethu rhwng pobl yn ôl rhyw, galwedigaeth, a cast.
Mae hyn yn digwydd yn yr hyn a oedd unwaith yn y Sgwâr Harvard yng nghymdogaeth Cambridge, Massachusetts;Mccarthy, Mary (1986-02-09). "No Headline - The New York Times". Nytimes.com. Cyrchwyd 2018-04-26.[12] Astudiodd Atwood yn Radcliffe College, a leolir yn yr ardal hon.
Yng Ngilead, mae cyrff merched ffrwythlon yn wleidyddol ac maent yn cael eu rheoli. Mae poblogaeth Gogledd America yn gostwng wrth i fwy o ddynion a menywod fod yn anffrwythlon (er yng Ngilead, yn ôl y gyfraith, dim ond menywod a all achosi anffrwythlondeb). Mae triniaeth Gilead o ferched yn seiliedig ar dehongliadau cul ffwndamentalaidd o'r Beibl, sy'n golygu bod menywod yn eiddo ac yn israddol i'w gŵyr, tadau, neu bennaeth yr aelwyd. Nid ydynt yn cael i wneud unrhyw beth a fyddai'n rhoi unrhyw bŵer iddynt neu unryw annibyniaeth iddynt o'r system hon. Nid les ganddynt hawl i bleidleisio, dal swydd, darllen, na meddu ar arian, neu fod yn berchen ar unrhyw beth, ymhlith nifer o gyfyngiadau eraill.
Mae dyfyniad penodol o'r Handmaid's Tale yn crynhoi hyn: "Nid yw Gweriniaeth Gilead, meddai Modryb Lydia, yn gwybod am ffiniau. Mae Gilead o fewn i chi" (HT 5.2). Mae hyn yn disgrifio sut nad oes unrhyw ffordd o osgoi ffiniau cymdeithasol menywod yn y wladwriaeth newydd. Mae Llawforynion, sydd ddim yn cael priodi, yn cael aseiniadau dwy flynedd gyda 'chommander', ac yn colli eu henw eu hunain: maent yn cael eu galw "O'u [enw eu commander cyntaf]", megis prif gymeriad y nofel, sy'n adnabyddus yn unig fel Offred. Pan fydd llawforwyn yn cael ei symud, bydd ei henw'n newid hefyd. Caiff eu hunaniaethau gwreiddiol o'r amser cyn y chwyldro eu hatal, er eu bod wedi cael eu hail-addysgu fel llawforynion, maent yn rhannu eu henwau gwreiddiol ymysg ei gilydd yn llechwraidd.
Yn y llyfr hwn, mae'r llywodraeth yn ymddangos i fod yn gryf er "does neb yn Gilead yn ymddangos i fod yn gredwr wir yn y chwyldro" (Beauchamp). Nid yw'r Commanders, yn cael eu portreadu trwy Capten Fred, yn cytuno â'u athrawiaethau eu hunain. Mae'r Commander yn cymryd Offred ar un adeg i buteindy er mwyn cael rhyw gyda hi mewn lleoliad anffurfiol ar wahân i'r Seremoni. Mae'r gwragedd, sydd yn cael eu portreadu trwy Serena Joy, cyn efengylwraig teledu, yn anufuddhau i'r rheolau a nodir gan eu gwŷr. Mae Serena yn ysmygu siagrennau o'r farchnad ddu ac yn mynegi'r syniad gwaharddiedig y gall dynion fod yn anffrwythlon, a chynlluniau i gael Offred ddod y feichiog gan ei gyrrwr.
Datgannwyd gan Bruce Miller, cynhyrchydd gweithredol cyfres deledu'r The Handmaid's Tale gyda golwg ar lyfr Atwood, yn ogystal â'i gyfres o, fod Gilead yn "gymdeithas sy'n seiliedig ar fath o gamddarlleniad wrthnysig o gyfreithiau a chodau'r Hen Destament". Mae'r awdur yn esbonio bod Gilead yn ceisio ymgorffori "delfrydiaeth iwtopaidd" yn bresennol yng nghyfundrefnau'r 20g, megis Cambodia a Romania, yn ogystal ag yn gynharach ym Mhiwritaniaeth Lloegr Newydd. Bu i Atwood a Miller datgan and oedd y bobl a redai Gilead "yn wirioneddol Gristnogol".[13] Nid oes gan y grŵp sy'n rhedeg Gilead, yn ôl Atwood, "..ddiddordeb gwirioneddol mewn crefydd; ond yn hytrach mewn grym." Yn wir, yn ei gweddïau i Dduw, mae Offred, wrth adlewyrchu ar Gilead, yn gweddïo "dydw i ddim yn credu am ennyd bod yr hyn sy'n mynd ymlaen allan yna yw'r hyn yr Ydych yn ei olygu.... Mae'n debyg y dylwn i ddweud fy mod yn maddau i bwy bynnag wnaeth hyn, a beth bynnag maent yn ei wneud yn awr. Byddaf yn ceisio, ond nid yw'n hawdd."[14] Mae Margaret Atwood, ar ysgrifennu hyn, yn dweud fod gan "Offred ei hun ei fersiwn breifat o Weddi'r Arglwydd ac yn gwrthod i gredu bod y drefn hon wedi ei gorfodi gan Dduw cyfiawn a thrugarog."[15]
Mae'r eglwysi Cristnogol hynny nad ydynt yn cynnal camau gweithredu o Feibion Jacob yn cael eu dymchwel yn systematig, ac nid yw'r bobl sy'n dilyn Gilead byth yn cael eu gweld yn mynychu eglwys.[16] Fe elwir enwadau Cristnogol, gan gynnwys y Crynwyr, Bedyddwyr a'r Pabyddion, yn benodol yn elynion i Feibion Jacob.[17] Caiff lleianod sy'n gwrthod trosi gael eu hystyried yn "Unwomen" ac fe gaent eu halltudio i'r Trefedigaethau, oherwydd eu hamharodrwydd i briodi a gwrthod (neu anallu) i ddwyn plant. Caiff offeiriaid sy'n amharod i droi eu crogi oddi wrth y Wal. Mae Atwood yn rhoi'r Crynwyr yn erbyn y gyfundrefn drwy eu cael i helpu'r gorthrymedig, - rhywbeth mae hi'n teimlo y byddent yn ei wneud mewn gwirionedd: "Mae'r Crynwyr wedi mynd yn dan-ddaearol, ac yn gweithredu ffordd cudd i ddianc i Ganada, fel—yr wyf yn amau y byddent yn ei wneud."
Caiff Iddewon eu henwi fel eithriad ac yn cael eu dosbarthu'n Feibion Jacob. Mae Offred yn sylwi fod Iddewon a wrthodai i droi yn cael caniatâd i ymfudo i Israel, ac mae'r rhan fwyaf yn dewis gadael. Fodd bynnag, yn y Diweddglo, mae'r Athro Pieixoto yn dangos bod llawer o'r ymfudwyr Iddewig yn cael ei taflu i'r môr oddi ar y llongau penodol a benodwyd i'w cludo i Israel, o ganlyniad i breifateiddio "rhaglen y dychweliad" a rhaglen ymdrech cyfalafwyr i wneud yr elw mwyaf. Sonnir Offred am lawer o Iddewon a ddewisodd i aros ac yn gyfrinachol, parhäodd i ymarfer Iddewiaeth gael eu dal a'u dienyddio.
Gelwir Americanwyr Affricanaidd, sef y brif grŵp ethnig nad ydynt yn wyn yn y gymdeithas hon, yn Blant Ham. Mae darllediad o deledu'r wladwriaeth yn sôn eu bod wedi cael eu symud yn llu i " Famwledydd Cenedlaethol" yn y Midwest, sy'n awgrymu'r mamwledydd cyfnod yr apartheid a sefydlwyd yn Ne Affrica.
Mae'r ddau ryw yn cael eu rhannu'n llym. Mae cymdeithas Gilead yn gwerthfawrogi atgynhyrchu gan ferched gwyn yn fwy na neb arall. Caiff merched eu categoreiddio "yn hierarchaidd yn ôl dosbarth o statws a gallu i atgenhedlu" yn ogystal â "chodau lliw trawsenwol yn ôl eu swyddogaeth a'u llafur" (Kauffman 232). Mae'r Commander yn mynegi'r farn gyffredinol fod merched yn cael eu hystyried yn feddyliol ac yn emosiynol yn israddol i ddynion.
Caiff merched eu gwahanu yn ôl ddillad, a dynion hefyd. Gyda'r eithriad prin, mae dynion yn gwisgo dillad milwrol neu parafilwrol. Caiff pob dosbarth o ddynion a menywod eu diffinio gan y lliwiau maent yn eu gwisgo (fel yn nofel dystopaidd Aldous Huxley, Brave New World), gan dynnu ar symbolaeth a seicoleg lliw. Mae pob unigolion is-statws yn cael eu rheoleiddio gan y côd gwisg.Caiff pob "di-berson" eu halltudio i'r "Trefedigaethau". Mae pob merch anffrwythlon, neu di-briod yn cael eu hystyried i fod yn ddi-personau. Mae dynion a merched yn cael eu hanfon yno'n gwisgo gwisgoedd llwyd.
Mae rhanniad llafur ymhlith merched yn cynhyrchu rhywfaint o ddrwgdeimlad. Mae Marthas, Gwragedd a Econowives yn gweld Llawforynion yn amlgymharus ac yn cael eu dysgu i'w gwawdio. Mae Offred yn galaru fod merched o'r grwpiau amrywiol hyn wedi colli eu gallu i empatheiddio â'u gilydd. Maent yn cael eu rhannu yn eu gormes.
Caiff dynion eu dosbarthu i bedwar prif gategori:
Caiff dynion sy'n cymryd rhan mewn gwrywgydiaeth, neu sy'n gysylltiedig â gweithredoedd cyffelyb gael eu datgan yn "rhyw-fradwyr"; maent naill ai yn cael eu crogi neu eu hanfon i'r Trefedigaethau i farw'n araf.
Yn y gymdeithas hon, mae namau geni wedi dod yn fwyfwy cyffredin.
Mae dau brif gategori o blant dynol:
Mae'r "Seremoni" yn weithred rywiol di-briodasol er mwyn atgynhyrchu. Mae'r ddefod yn ofynnol ar y Lawforwyn i orwedd ar ei chefn rhwng coesau'r Wraig yn ystod y weithred rhywiol fel pe baent yn un person. Mae raid i'r Wraig wahodd y Lawforwyn i rannu ei rym yn y ffordd hon; mae llawer o Wragedd yn ystyried hyn yn fychaniaeth ac yn sarhaus. Mae Offred yn disgrifio'r seremoni:
“ | My red skirt is hitched up to my waist, though no higher. Below it the Commander is fucking. What he is fucking is the lower part of my body. I do not say making love, because this is not what he's doing. Copulating too would be inaccurate, because it would imply two people and only one is involved. Nor does rape cover it: nothing is going on here that I haven't signed up for.[18] | ” |
Yng nghymdeithas ffug ffwndamentalaidd y nofel, mae anffrwythlon yn air "waharddedig".
“ | Atwood | ” |
Yn y gymdeithas hon, nid oes y fath beth fel dyn anffrwythlon mwyach. Yn y diwylliant hwn, mae merched yn naill ai'n yn ffrwythlon neu anffrwythlon, yr olaf o'r rhain yn cael eu datgan i fod yn "unwomen" ac yn cael eu hanfon at y trefedigaethau gyda gweddill yr "unwomen" i wneud gwaith bywyd-fygythiol hyd nes eu marwolaeth, sydd, ar gyfartaledd, mewn tair blynedd.
Mae Atwood yn pwysleisio sut mae newidiadau yn y cyd-destun yn effeithio ar ymddygiad ac agweddau, drwy ailadrodd yr ymadrodd "Cyd-destyn yw popeth" trwy gydol y nofel, yn sefydlu y argymhelliad fel motiff.[19] Mae chwarae gêm o Scrabble gyda'i Chommander yn dangos yr allwedd i arwyddocâd y newidiadau yn "cyd-destun"; ar un tro "y gêm i hen ddynion a merched", a daeth gwahardd ar chwarae'r gêm i merched, ac felly yn "ddymunol".[20] Trwy byw mewn cymdeithas foesol anhyblyg, daw Offred i weld y byd mewn ffordd wahanol yn gynharach. Mynegai Offred syndod ar sut "Mae wedi cymeryd ychydig o amser i newid ein meddyliau am bethau".
“ | Atwood | ” |
Bu gwisgo dillad sy'n datgelu tipyn o groen a cholur bod yn rhan o'i bywyd blaenorol, ond pan mae hi'n gweld twristiaid Siapaneaidd yn gwisgo yn y ffordd honno, mae hi bellach yn teimlo fod y merched yn gwisgo'n amhriodol.[21]
Mae Offred yn gallu darllen ond ddim yn medru cyfieithu'r ymadrodd "nolite te bastardes carborundorum" sydd wedi ei gerfio i wal y cwpwrdd yn ei hystafell wely bach; mae hyn yn Ladin-ffug (wireb) a gyfieithai i "Peidiwch â gadael i'r bastards eich cael chi i lawr".[22] Mae arwyddocâd yr ymadrodd hwn yn cael ei ddwysau gan y sialensiau mae'r llyfr wedi ei wynebu, gan greu "Mise en abyme" fel y prif gymeriad ac yn ddarllenydd i ddehongli testunau chwyldroadol.
Mewn cyfweliadau a thraethodau mae Atwood wedi trafod dosbarthiad generig The Handmaid's Tale fel "ffuglen wyddonol" neu "ffuglen ddamcaniaethol".
Medd enillwr gwobr ffuglen wyddonol Hugo, David Langford mewn colofn: "The Handmaid's Tale enillodd y wobr Wobr Arthur C. Clarke gyntaf ym 1987. Mae hi wedi bod yn ceisio byw hyn i lawr byth ers hynny." Mae'n dweud:
“ | Atwood prefers to say that she writes speculative fiction—a term coined by SF author Robert A. Heinlein. As she told the Guardian, "Science fiction has monsters and spaceships; speculative fiction could really happen." She used a subtly different phrasing for New Scientist, "Oryx and Crake is not science fiction. It is fact within fiction. Science fiction is when you have rockets and chemicals." So it was very cruel of New Scientist to describe this interview in the contents list as: "Margaret Atwood explains why science is crucial to her science fiction." ... Play it again, Ms Atwood—this time for the Book-of-the-Month Club: "Oryx and Crake is a speculative fiction, not a science fiction proper. It contains no intergalactic space travel, no teleportation, no Martians." On BBC1 Breakfast News the distinguished author explained that science fiction, as opposed to what she writes, is characterized by "talking squids in outer space".[3] | ” |
Wrth wahaniaethu rhwng y labelau'r genre ffuglen wyddonol a ffuglen ddamcaniaethol, cydnabyddir Atwood y gall pobl eraill ddefnyddio'r termau am yn ail. Ond mae hi'n nodi ei ddiddordeb yn y math hwn o waith mewn archwilio themâu mewn ffyrdd na all "ffuglen realistig" ei wneud.
Wrth honni bod ei gwaith The Handmaid's Tale yn gwaith o ffuglen ddamcaniaethol, ac nid ffuglen wyddonol, mae nofel Atwood yn cynnig golwg ddychanol o gymdeithas, gwleidyddiaeth, a chrefyddol a tueddiadau yn yr Unol Daleithiau o'r 1980au. Ymhellach, mae Atwood yn cwestiynau beth fyddai'n digwydd os bydd y tueddiadau hyn, ac yn enwedig "yr agweddau ffwrdd-a-hi am ferched" yn cael eu cymryd i eu diweddglo rhesymegol.[23] Parhâ Atwood i ddadlau fod yr holl senarios a gynigir yn The Handmaid's Tale wedi digwydd mewn gwirionedd mewn bywyd go iawn—mewn cyfweliad a roddodd hi i Oryx and Crake, medd Atwood "Fel a The Handmaid's Tale, doeddwn i ddim yn ychwanegu dim and oeddem wedi ei wneud eisioes, rydym ni eisoes yn ei wneud, ein bod o ddifrif yn ceisio ei wneud, ynghyd í'r tueddiadau sydd eisoes ar y gweill... Felly, â'r holl bethau hynny yn wir, mae'r cyfanswm o ddyfais pur yn agos i ddim."[24] Mae Atwood hefyd yn adnabyddus am gario o gwmpas toriadau o bapurau newydd i'w amrywiol gyfweliadau i gefnogi sail ei ffuglen mewn gwirionedd.[25] Eglurai Atwood fod The Handmaid's Tale yn ymateb i'r rhai sy'n honni na allai llywodraethau gormesol, totalitaraidd, a chrefyddol sydd wedi cymryd grym mewn gwledydd eraill drwy gydol y blynyddoedd "ddim yn digwydd yma,"—ond yn ei gwaith hi, mae wedi rhoi cynnig i ddangos sut y gall y fath feddiannu efallai chwarae allan.[26]
Cafodd Atwood yr ysbrydoliaeth ar gyfer Gweriniaeth Gilead o'i hamser yn astudio Piwritaniaid America Cynnar tra yn Harvard, pan gafodd hi Gymrodoriaeth Woodrow Wilson. Dadlai Atwood fod y daliadau modern o'r Piwritaniaid—sef eu bod wedi dod i America i ffoi erledigaeth crefyddol yn Lloegr ac yn creu cymdeithas grefyddol oddefgar—yn gamarweiniol, ac yn hytrach, mae eu arweinwyr Piwritanaidd yn awyddus i sefydlu theocratiaeth monolithig lle na fyddai anghydffurfio crefyddol yn cael ei oddef. Mae gan Atwood hefyd gysylltiad personol i'r Piwritaniaid, ac mae'n cysegru'r nofel iw hynafiad Mary Webster, a gafodd ei chyhuddo o ddewiniaeth ym Mhiwritanaith Lloegr Newydd ond iddi oroesi cael ei chrogi.[27] O ganlyniad i natur gymdeithas totalitaraidd Gilead, mae Atwood yn creu'r lleoliad hyn wrth dynnu oddi wrth y "ddelfrydiaeth iwtopaidd" a fu'n bresennol yn rhai o gyfundrefnau'r 20g yn Cambodia a Romania, yn ogystal â'r cynharach ym Mhiwritaniaeth Lloegr Newyddyn. Dadlai Atwood bod gwrthryfel llwyddiannus Gilead, yn The Handmaid's Tale, yn enghraifft lle byddai camddefnyddio crefydd er mwyn cyflawni ei ben ei hun yn dod i ben:[28]
... os ydych yn awyddus i gipio grym yn yr Unol Daleithiau, a ddiddymu'r ddemocratiaeth rhyddfrydol a sefydlu unbennaeth, sut y byddech yn mynd ati i gyflawni hyn? Beth fyddai eich stori ar y clawr? Ni fyddai'n debyg i unrhyw fath o gomiwnyddiaeth neu sosialaeth: byddai'r rhain yn rhy amhoblogaidd...Yn ôl pob golwg bydd gwledydd byth ynffurfio llywodraethau radical ar seiliau nad ydynt yno eisoes. Felly fu i Tsieina ddisodli un wladwriaeth biwrocrataidd gyda gwladwriaeth biwrocratiaeth tebyg mewn enw gwahanol, a bu i'r Undeb Sofietaidd disodli eu heddlu cudd imperialaidd bondigrybwyll gydag un mwy bondigrybwyll hyd yn oed mwy, ac yn y blaen. A felly sylfaen dwfn yr Unol Daleithiau – fel aeth fy meddwl – nid yr hyn oedd yn gymharol ddiweddar o strwythurau'r Oes Oleuol y weriniaeth o'r 18fed ganrif, gyda'u sôn am gyfartalwch a gwahaniad yr eglwys a'r wladwriaeth, ond y theocratiaeth llaw-drom Piwritaniaid Lloegr Newydd o'r 17eg ganrif, gyda'u ragfarn yn erbyn mereched, a byddai angen dim ond y cyfle i gael cyfnod o anhrefn cymdeithasol i ailddatgan ei hun. Fel unrhyw theocratiaeth, byddai'n dewis ychydig o rannau o'r Beibl er mwyn cyfiawnhau ei weithredoedd, a fyddai'n pwyso drwm tuag at yr Hen Destament, a nid tuag at y Newydd.[29]
Medd Atwood, wrth sôn am arweinwyr Gilead:
“ | I don't consider these people to be Christians because they do not have at the core of their behavior and ideologies what I, in my feeble Canadian way, would consider to be the core of Christianity … and that would be not only love your neighbors but love your enemies. That would also be 'I was sick and you visited me not' and such and such …And that would include also concern for the environment, because you can't love your neighbor or even your enemy, unless you love your neighbor's oxygen, food, and water. You can't love your neighbor or your enemy if you're presuming policies that are going to cause those people to die. … Of course faith can be a force for good and often has been. So faith is a force for good particularly when people are feeling beleaguered and in need of hope. So you can have bad iterations and you can also have the iteration in which people have got too much power and then start abusing it. But that is human behavior, so you can't lay it down to religion. You can find the same in any power situation, such as politics or ideologies that purport to be atheist. Need I mention the former Soviet Union? So it is not a question of religion making people behave badly. It is a question of human beings getting power and then wanting more of it.[17] | ” |
Yn yr un modd, mae Atwood hefyd yn datgan fod "Yn y byd go iawn heddiw, mae rhai grwpiau crefyddol yn arwain y gâd ar gyfer diogelu grwpiau sy'n agored i niwed, gan gynnwys merched." Mae Atwood hefyd yn cysylltu'r ffyrdd mae arweinwyr Gilead yn cynnal eu grym ac enghreifftiau eraill o lywodraethau totalitaraidd. Yn ei chyfweliadau, cynnigiodd Atwood Afghanistan fel enghreifft o theocratiaeth grefyddol sy'n gorfodi merched allan o'r byd cyhoeddus ac i'w cartrefi, fel yn Ngilead. Y "llofruddiaeth a gyflawnwyd gan y wladwriaeth fel cosb i anghydffurfwyr" a gafodd ei efelychu'n y Philippinau, ac yn olaf, Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Rwmania, Nicolae Ceaușescu a'i obsesiwn gyda chynyddu'r gyfradd geni a arweiniodd at reoli llym ar ferched beichiog a'r gwahardd ar atal cenhedlu ac ecthylu. Fodd bynnag, eglurai Atwood fod llawer o hyn yn druenus a bod y gweithredoedd hyn nid yn unig yn bresennol yn y diwylliannau a gwledydd eraill, "ond o fewn cymdeithas y Gorllewin, ac o fewn y traddodiad 'Cristnogol' ei hun".
Mae gan Gweriniaeth Gilead drafferth gyda anffrwythlondeb, mae gwneud i Offred wasanaethau fel Llawforwyn yn hanfodol i gynhyrchu plant a thrwy hynny atgynhyrchu'r gymdeithas. Mae Llawforynion eu hunain yn "anghyffyrddadwy", ond mae eu gallu i ddynodi statws yn cyfateb i gaethweision neu weision drwy gydol hanes. Atwood yn cysylltu eu pryderon ā anffrwythlondeb i broblemau bywyd go iawn, fel mae'n byd ni'n ei wynebu, megis ymbelydredd, llygredd cemegol, a chlefyd gwenerol (caiff HIV/AIDS ei grybwyll yn benodol yn y "Nodiadau Hanesyddol yn adran" ar ddiwedd y nofel, a oedd glefyd cymharol newydd ar y pryd oedd Atwood yn ysgrifennu a doedd ei effaith hir dymor ddim yn wyddus). Mae safiad cryf Atwood ar faterion amgylcheddol a sgîl-effeithiau negyddol ar ein cymdeithas wedi cyflwyno ei hun mewn gweithiau eraill, megis ei drioleg MaddAddam, ac yn cyfeirio yn ôl at ei magwraeth gyda biolegwyr a'i chwilfrydedd gwyddonol ei hun.[30]
Cafodd The Handmaid's Tale dderbyniad da gan feirniaid, gan helpu i atgyfnerthu statws Atwood fel awdur amlwg yr 20g. Nid yn unig ystyrwyd y llyfr fel un oedd wedi ei ysgrifennu'n dda a grymus, ond roedd gwaith Atwood yn nodedig am sbarduno dadleuon dwys i mewn ac allan o'r byd academaidd.[31] Mae Atwood yn crybwyll mai dim ond tueddiadau allosodol sydd eisoes yw gweld yn yr Unol Daleithiau ar amser yr ysgrifennu yw Gweriniaeth Gilead, barn a gefnogir gan ysgolheigion eraill sy'n astudio The Handmaid's Tale.[32] Yn wir, mae llawer wedi gosod The Handmaid's Tale yn yr un categori o ffuglen dystopaidd â Nineteen Eighty-Four a Brave New World, gyda nodwedd ychwanegol o wynebu patriarchaeth, categoreiddio mae Atwood wedi ei derbyn ac sy'n cael ei ailadrodd mewn llawer o erthyglau a chyfweliadau.[33]
Hyd yn oed heddiw, mae llawer o adolygwyr yn parhau i ddal nofel Atwood i fod mor ddrwgargoeledig a phwerus ag erioed, yn bennaf oherwydd ei sail mewn ffaith hanesyddol.[34][35] Ac eto pan gyhoeddwyd y nofel gyntaf ym 1985, doedd pob arolygwr ddim mor argyhoeddedig o'r "hanes rhybuddiol" a gyflwynodd Atwood. Er enghraifft, dadlai Mary McCarthy o'i hadolygiad yn y New York Times fod The Handmaid's Tale yn ddiffyg " y synnu i gydnabod" angenrheidiol ar gyfer darllenwyr i weld "ein presennol ein hunain mewn drych camystumiol, a beth efallai y byddwn yn troi i fod os bydd y tueddiadau presennol yn cael eu caniatáu i barhau".[36]
Yn dilyn ymddangosiad y gyfres deledu cyntaf yn 2017, nid oedd llawer o drafod ynghylch y tebygrwydd y gallai gael ei dynnu rhwng y gyfres (a thrwy estyniad, yn y llyfr hwn) â'r gymdeithas Americanaidd yn dilyn ethol Donald Trump a Mike Pence fel Arlywydd yr Unol Daleithiau ac yn Is-Lywydd yr Unol Daleithiau, yn y drefn honno.[37][38]
Mae llawer o'r drafodaeth ynghylch The Handmaid's Tale wedi ei ganoli ar ei gategoreiddio fel llenyddiaeth ffeministaidd. Nid yw Atwood yn gweld Gweriniaeth Gilead fel dystopia ffeministaidd yn unig, gan nad yw pob dyn yn cael mwy o hawliau na menywod. Yn hytrach, mae'r gymdeithas hon yn cyflwyno unbennaeth nodweddiadol: "siâp fel pyramid, gyda'r mwyaf pwerus o'r ddau ryw ar y brig, y dynion yn gyffredinol yn uwch yn eu swydd na merched ar yr un lefel; yna i lawr y lefelau o rym a statws gyda dynion a menywod yn yr un, yr holl ffordd i lawr i'r gwaelod, lle mae'n raid i ddynion ddi-briod wasanaethu yn y rhengoedd yn cael eu gobrwyo â Econowife". Yn ogystal, dadlai Atwood er fod rhai o'r sylwadau sy'n hysbysu cynnwys The Handmaid's Tale allai fod yn ffeministaidd, nid yw ei nofel i fod i olygu "un peth i un person" neu yn gwasanaethu fel neges gwleidyddol—yn hytrach, "astudiaeth o bŵer, a sut mae'n gweithredu a sut y mae'n anffurfio neu siapio'r bobl sy'n byw o fewn y math hwnnw o drefn" yw'r The Handmaid's Tale.
Mae rhai ysgolheigion wedi cynnig y fath ddehongliad ffeministaidd, fodd bynnag, gan gysylltu defnydd Atwood o ffwndamentaliaeth grefyddol yn y tudalennau yn The Handmaid's Tale fel condemnïaeth o'u presenoldeb yn y gymdeithas Americanaidd bresennol.[39][40] Eto i gyd mae eraill wedi dadlau fod The Handmaid's Tale yn beirniadaeth nodweddiadol o syniadau o ffeministiaeth, fel mae nofel Atwood yn ymddangos i gwyrdroi y delfrydau traddodiadol o "ferched yn helpu merched" y mudiad ac yn troi tuag at y posibilrwydd o "y rydwaith fatriarchaidd ... a ffurf newydd o wreig-gasineb: casineb merched yn erbyn merched".[41]
Mae beirniaid eraill nodweddu The Handmaid's Tale fel "ffeministiaeth gwyn", gan nodi bod Atwood yn gwneud i ffwrdd â'r bobl ddu mewn ychydig o linellau trwy symud y "Plant o Ham" tra benthyca'n drwm o brofiad Affro-Americanaidd ac yn ei gymhwyso i ferched gwyn.[42] Mae beirniaid eraill wedi nodi'r tebygrwydd gyda apartheid a'i fod yn camgyfleu sut mae pobl ddu'n gwrthsefyll mewn cyfnodau o argyfwng. Mae'r awdur Mikki Kendall yn ei ddweud am y llyfr,
“ | It requires me to believe that not only are my people gone, but often that they vanished quietly without any real resistance. As if. Like...Black people did not survive slavery, Jim Crow & the War on Drugs to be taken out by a handful of white boys with guns.[43][44] | ” |
Mae nofelau Atwood, ac yn enwedig ei gwaith ffuglennau damcaniaethus The Handmaid'sTale ac Oryx and Crake, yn aml yn cael eu cynnig fel enghreifftiau ar gyfer y rownd derfynol, cwestiwn penagored yn arholiad Llenyddiaeth Saesneg a Chyfansoddiad Lleoliadau Uwch Gogledd America Llenyddiaeth bob blwyddyn.[45] Fel y cyfryw, mae ei llyfrau yn aml yn cael eu neilltuo yn yr ysgolion uwchradd a dosbarthiadau i fyfyrwyr sy'n cymryd y cwrs Gosodiadau Uwch, er gwaethaf themâu aeddfed y gwaith cyflwyno. Mae Atwood ei hun wedi mynegi syndod bod ei llyfrau yn cael eu neilltuo i gynulleidfaoedd ysgolion uwchradd, yn bennaf oherwydd ei haddysg gul yn y 1950au, ond mae hi wedi sicrhau darllenwyr nad yw'r cynnydd hwn mewn sylw gan fyfyrwyr ysgolion uwchradd wedi newid y deunydd mae hi wedi dewis i ysgrifennu am ers hynny.[46]
Mae llawer o bobl wedi mynegi anfodlonrwydd ar bresenoldeb The Handmaid's Tale yn yr ystafell ddosbarth, ac mae'n aml wedi cael ei herio neu ei wahardd dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae rhai o'r heriau hyn wedi dod oddi wrth y rhino sy'n pryderu am y cynnwys rhywioldeb a themâu oedolion a gynrychiolir yn y llyfr. Mae eraill wedi dadlau bod The Handmaid's Tale yn darlunio barn negyddol am grefydd, barn a gefnogir gan nifer o academyddion sy'n cynnig fod gwaith Atwood yn dychanu ffwndamentalwyr crefyddol cyfoes yn yr Unol Daleithiau, gan gynnig beirniadaeth ffeministaidd o beth mae'r tueddiad hwn i'r Dde yn ei gynrychioli.
Mae'r Gymdeithas Lyfrgell Americanaidd (ALA) yn rhestru The Handmaid's Tale fel rhif 37 ar y "100 o lyfrau a Heriwyd Fwyaf Aml o 1990-2000".[47] Cymerodd Atwood ran mewn trafodaeth am The Handmaid's Tale mewn testun trafod yr ALA mewn cyfres o'r enw "Un Llyfr, Un Gynhadledd".[48]
Mae rhai cwynion yn cynnwys:
Yn ôl Gohebydd Addysg Kristin Rushowy o'r Toronto Star (16 Ionawr, 2009), yn 2008 bu i riant yn Toronto, Ontario, Canada, ysgrifennu llythyr at brif athro ysgol uwchradd ei fab, yn gofyn i'r llyfr bellach gael ei neilltuo fel llyfr darllen gofynnol, gan nodi bod y nofel yn "rhemp gyda creulondeb tuag at a chamdriniaeth o fenywod (a dynion ar adegau), golygfeydd rhywiol, a dirwasgiad llwm".[50] Dyfynnodd Rushowy ymateb yr Athro ar Saesneg Russell Morton Brown, gynt o Prifysgol Toronto rwan wedi ymddeol, sy'n cydnabod bod:
"Go brin yr ysgrifennwyd The Handmaid's Tale ar gyfer (pobl) 17-mlwydd-oed, ond nid yw llawer o'r pethau yr ydym yn addysgu mewn ysgol uwchradd, megis Shakespeare... Ac maent i gyd yn well allan o'u ddarllen. Mae'nt bron iawn yn oedolion yn barod, ac nid oes pwynt eu maldodi," meddai, gan ychwanegu, "nad ydynt yn cael eu maldodi o ran y cyfryngau torfol heddiw beth bynnag"... Dywedodd fod y llyfr wedi cael ei gyhuddo o fod yn gwrth-Gristnogol ac, yn fwy diweddar, gwrth-Islamaidd oherwydd fod y merched yn goruchddiedig ac fe ganiateir amlwreigiaeth ... Ond bod hynny'n "methu'r pwynt", dywedodd Brown. "Mewn gwirionedd mae'n wrth-ffwndamentaliaeth."
Yn ei hadroddiad cynharach (14 Ionawr 2009), adroddodd Rushowy mai pwyllgor o Bwrdd Ardal Ysgol Toronto oedd yn "adolygu'r nofel". Gan nodi Fod "The Handmaid's Tale yn cael ei restru fel un o'r '100 o lyfrau sydd yn cael ei herio fwyaf aml' rhwng 1990 a 1999 ar wefan Cymdeithas Llyfrgell Americanaidd",medd Rushowy bod Cymdeithas Llyfrgell Canadad yn dweud nad yw 'does dim un enghraifft hysbys o her i'r nofel hon yng Nghanada', ond dywed y llyfr a elwir yn gwrth-Gristnogol a phornograffig gan rieni ar ôl cael ei osod ar y rhestr ddarllen i fyfyrwyr uwchradd yn Nhexas yn y 1990au."[51]
Ym mis Tachwedd 2012, bu dau riant yn Guilford County, Gogledd Carolina yn protestio yn erbyn cynnwys y llyfr ar rhestr ddarllen mewn ysgol uwchradd leol. Fe gyflwynnwyd y llyfr gan y rhieni i fwrdd yr ysgol gyda deiseb a lofnodwyd gan 2,300 o bobl, i annog adolygiad o'r llyfr gan bwyllgor y cyfryngau ymgynghorol. Yn ôl adroddiadau'r newyddion lleol, meddai un o'r rhieni "ei bod yn teimlo fod myfyrwyr Cristnogol yn cael eu bwlio yn y gymdeithas, ac eu bod yn cael eu gwneud i deimlo'n anghyfforddus am eu credoau, gan anghredinwyr. Meddai fod cynnwys ffasiwn lyfrau fel The Handmaid'sTale yn cyfrannu at y anghysur, oherwydd ei barn negyddol ar grefydd ac mae ei agweddau gwrth-feiblaidd tuag at ryw."[52]
Mewn sefydliadau addysg uch, mae athrawon wedi sylweddoli fod The Handmaid's Tale yn ddefnyddiol, yn bennaf oherwydd ei sail hanesyddol a chrefyddol hudolus mae Atwood yn gyflawni. Mae pwyntiau addysgu'r nofel yn cynnwys: cyflwyno gwleidyddiaeth a gwyddorau cymdeithasol i fyfyrwyr mewn ffordd mwy concrid ;[53][54] yn dangos pwysigrwydd darllen er mwyn ein rhyddid, yn deallusol a gwleidyddol;[55] ac yn cydnabod yr "amlygiadau o bŵer mwyaf llechwraidd a threisgar yn hanes y Gorllewin" mewn modd tymus.[56] M ae'rbennod yn dwyn y teitl "Nodiadau Hanesyddol" ar ddiwedd y nofel hefyd yn cynrychioli rhybudd i academyddion sydd yn rhedeg y risg o camddarllen camddeall testunau hanesyddol, gan bwyntio at yr Athro Pieixoto a ddychanwyd fel enghraifft o ysgolhaig a gymerodd drosodd a threchodd naratif Offred gyda'i ddehongliad eu hun.[57]
If you're writing about the future and you aren't doing forecast journalism, you'll probably be writing something people will call either science fiction or speculative fiction. I like to make a distinction between science fiction proper and speculative fiction. For me, the science fiction label belongs on books with things in them that we can't yet do, such as going through a wormhole in space to another universe; and speculative fiction means a work that employs the means already to hand, such as DNA identification and credit cards, and that takes place on Planet Earth. But the terms are fluid. Some use speculative fiction as an umbrella covering science fiction and all its hyphenated forms–science fiction fantasy, and so forth–and others choose the reverse... I have written two works of science fiction or, if you prefer, speculative fiction: The Handmaid's Tale and Oryx and Crake. Here are some of the things these kinds of narratives can do that socially realistic novels cannot do.
Now, in the era of the Trump administration, liberal TV watchers find a perverse sort of comfort in the horrific alternate reality of the Republic of Gilead, where a cabal of theonomist Christians have established a totalitarian state that forbids women to read, sets a secret police to watch their every move and deploys them as slave-concubines to childless elites.
|access-date=
requires |url=
(help)CS1 maint: unrecognized language (link)
Recently, someone said, “Religion doesn’t radicalize people, people radicalize religion.” So you can use any religion as an excuse for being repressive, and you can use any religion as an excuse for resisting repression; it works both ways, as it does in the book. So that was one set of inspirations.CS1 maint: unrecognized language (link)
“ | Gosodwch destun y dyfyniad yma, heb ddyfynodau. | ” |
|deadurl=
ignored (help) Concerns inaugural program featuring Margaret Atwood held in Toronto, 19–25 June 2003.
Mohr, Dunja M. (2005), Worlds Apart: Dualism and Transgression in Contemporary Female Dystopias, Jefferson, NC: McFarland 2005