Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Salman Rushdie |
Cyhoeddwr | Viking Press |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Medi 1988 |
Dechrau/Sefydlu | 1980 |
Genre | magic realist fiction |
Rhagflaenwyd gan | Shame |
Olynwyd gan | Haroun and the Sea of Stories |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pedwaredd nofel Salman Rushdie yw The Satanic Verses, a gyhoeddwyd yn 1988, wedi'i hysbrydoli mewn rhan gan fywyd Muhammad. Cyfeirir y teitl at yr Adnodau Satanaidd, rhyngosodiad honedig yn y Coran fel y disgrifiodd Ibn Ishaq yn ei fywgraffiad ar Fuhammad (y testun hynaf sy'n goroesi). Mae anghydfod mawr ynglŷn â'r Adnodau Satanaidd, a chafodd eu dilysrwydd ei ddadlau gan haneswyr Mwslimaidd ers talwm.[1]
Sbardunodd y nofel llawer o anghydfod yn dilyn ei chyhoeddiad yn 1988, a chredant llawer o Fwslimiaid ei bod yn cynnwys sylwadau cableddus. India oedd y wlad gyntaf i wahardd y llyfr. Datganodd yr Ayatollah Ruhollah Khomeini, Arweinyddd Goruchel Iran ac ysgolhaig Mwslimaidd Shia, ffatwa yn galw ar farwolaeth Rushdie a taw dyletswydd pob Fwslim oedd i ufuddhau, er gwaethaf os oeddent wedi darllen y llyfr.
Ar 14 Chwefror, 1989, darlledwyd y neges ganlynol gan yr Ayatollah ar radio yn Iran:
I inform the proud Muslim people of the world that the author of the Satanic Verses book, which is against Islam, the Prophet and the Qur'an, and all those involved in its publication who are aware of its content are sentenced to death.[2]
Rwyf yn hysbysu'r bobl Fwslimaidd falch y byd bod awdur y llyfr The Satanic Verses, sydd yn erbyn Islam, y Proffwyd a'r Coran, a'r holl rhai sydd yn ymwneud â'i gyhoeddiad ac yn ymwybodol o'i gynnwys yn cael eu dedfrydu i farwolaeth.
O ganlyniad, trywanwyd y cyfieithydd Siapaneg, Hitoshi Igarashi, i farwolaeth ar 11 Gorffennaf, 1991; anafwyd y cyfieithydd Eidaleg, Ettore Capriolo, yn ddifrifol yn yr un mis; a bu William Nygaard, y cyhoeddwr yn Norwy, yn goroesi ymgais i ei lofruddio yn Oslo yn Hydref 1993. Ar 14 Chwefror, 2006, hysbysodd asiantaeth newyddion wladwriaethol Iran bydd y ffatwa yn parhau.[3]
Er yr anghydfod mawr, yn y Deyrnas Unedig derbyniodd y llyfr llawer o gymeradwyaeth feirniadol. Bu yn netholiad terfynol Booker Prize 1988, yn colli i Oscar and Lucinda gan Peter Carey.