The Sound of Music | |
Cerddoriaeth | Richard Rodgers |
---|---|
Geiriau | Oscar Hammerstein II |
Llyfr | Howard Lindsay Russel Crouse |
Seiliedig ar | Maria von Trapp's autobiography
The Story of the Trapp Family Singers |
Cynhyrchiad | 1959 Broadway 1961 West End |
Gwobrau | Tony Award for Best Musical |
Sioe gerdd ydy The Sound of Music. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Richard Rodgers, a'r geiriau gan Oscar Hammerstein II. Ysgrifennwyd y llyfr gan Howard Lindsay a Russel Crouse. Mae'r sioe yn seiliedig ar atgofion Maria von Trapp, The Story of the Trapp Family Singers. Mae caneuon y sioe gerdd yn cynnwys "The Sound of Music", "Edelweiss", "My Favorite Things", "Climb Ev'ry Mountain" a "Do-Re-Mi".
Agorodd y cynhyrchiad Broadway gwreiddiol ym mis Tachwedd 1959 ac ers hynny cafwyd nifer o gynhyrchiadau gwahanol ohonol. Cafodd ei wneud yn ffilm gerddorol ym 1965 ac enillodd Wobr yr Academi. The Sound of Music oedd y sioe gerdd olaf i'w hysgrifennu gan Rodgers and Hammerstein; bu farw Hammerstein o gancr naw mis wedi i'r sioe agor ar Broadway.
Agorodd cynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o'r sioe ar 15 Tachwedd 2006 yn y Palladium yn Llundain. Yn wreiddiol y bwrdiad oedd cael seren Hollywood, Scarlett Johansson i chwarae'r prif gymeriad, Maria von Trapp ond methwyd dod i gytundeb. O ganlyniad, castiwyd rôl Maria drwy rhaglen deledu realiti yn y DU o'r enw How Do You Solve A Problem Like Maria? Cynhyrchwyd y sioe dalentau gan Andrew Lloyd Webber a chyflwynwyd y rhaglen gan y cyflwynydd / digrifwr Graham Norton. Y beirniaid oedd David Ian, John Barrowman a Zoe Tyler. Dewiswyd Connie Fisher gan i cyhoedd fel enillydd y sioe. Ar ddechrau 2007, dioddefodd Fisher annwyd trwm a methodd a pherfformio am bythefnos. Er mwyn atal cymhlethdodau yn y dyfodol, dewiswyd Aoife Mulholland, (cyd-gystadleuydd ar "How Do You Solve A Problem Like Maria?") fel Maria arall. Perfformiodd hi fel Maria ar nosweithiau Llun ac yn y matinee ar ddydd Mercher. Chwaraeodd Lesley Garrett rhan y Brif Leian. Disgwylir i'r cynhyrchiad ddod i ben ar 21 Chwefror 2009.