Palas ffilm yw'r Theatr Tsieineaidd Grauman, a elwir hefyd y Theatr Tsieineaidd TCL am resymau hawliau enwi), ar y "Walk of Fame" enwog ym 6925 Hollywood Blvd. yn Hollywood, Los Angeles.
Comisiynwyd y Theatr Tsieineaidd wreiddiol yn dilyn llwyddiant Theatr yr Aifft Grauman gerllaw, a agorodd ym 1922. Mae'r ddau yn yr arddull pensaernïaeth a elwir yn Adfywiad Egsotig.[1] Cafodd ei hadeiladu gan bartneriaeth o dan arweiniad Sid Grauman dros 18 mis, gan ddechrau ym mis Ionawr 1926. Agorodd y theatr 18 Mai 1927, gyda noson agoriadol The King of Kings gan Cecil B. DeMille.[2] Ers hynny mae wedi bod yn gartref i lawer o berfformiadau cyntaf, gan gynnwys lansiad Star Wars ym 1977,[3] yn ogystal â phartïon pen-blwydd, dathliadau busnes, a thair seremoni Gwobrau Academi. Ymhlith nodweddion mwyaf nodedig y theatr yw'r blociau concrit a osodir yn y cwrt blaen, sy'n cynnwys llofnodion, olion traed, ac olion llaw enwogion byd ffilm poblogaidd o'r 1920au hyd heddiw.
Fe'i henwyd yn Theatr Tsieineaidd Grauman yn wreiddiol, yna cafodd ei ailenwi yn Theatr Tsieineaidd Mann ym 1973; parhaodd yr enw tan 2001, ac wedi hynny dychwelodd i'w enw gwreiddiol. Ar Ionawr 11, 2013, prynodd gwneuthurwr electroneg Tsieineaidd Corfforaeth TCL hawliau enwi'r adeilad.[4]
Yn 2013, dechreuodd y theatr partneriaeth gydag IMAX i drosi'r tŷ yn theatr IMAX. Mae'r gan y theatr nawr gynhwysedd eistedd o 932 person, ac yn cynnwys un o'r sgriniau ffilm mwyaf yng Ngogledd America.
Ar ôl ei lwyddiant gyda Theatr yr Aifft, prynodd Sid Grauman a Charles E. Toberman prydles hirdymor ar 6925 Hollywood Blvd., a oedd safle plas Bushman.[5] Mewn gwerthfawrogiad, gosodwyd plac ar du blaen y theatr er barch i Bushman.
Fe gontractiodd Toberman y cwmni Meyer & Holler, dylunydd y Theatr yr Aifft, i ddylunio "theatr debyg i balas" gyda dyluniad Tsieineaidd. Ariannodd Grauman gost $2.1 miliwn y theatr.[5] Y prif bensaer oedd Raymond M. Kennedy o'r cwmni Meyer & Holler.
Yn ystod y gwaith adeiladu, cyflogwyd Jean Klossner i ffurfio concrit caled iawn ar gyfer cwrt blaen y theatr. Mae'r theatr yn enwog am gael olion traed, olion llaw, a llofnodion wedi gwasgu yn y concrit.[6]
Mae yna nifer o straeon yn bodoli i egluro gwreiddiau'r olion traed. Mae cyfrif swyddogol y theatr yn priodoli Norma Talmadge fel ysbrydoliaeth y traddodiad pan gamodd hi i mewn i'r concrit gwlyb ar ddamwain.[7] Fodd bynnag, mewn cyfweliad byr ar 13 Medi 1937 ar Lux Radio Theatre, adroddodd Grauman fersiwn arall o sut y cafodd y syniad i roi printiau llaw a thraed yn y concrit. Dywedodd ei fod yn "ddamwain pur. Cerddais yn syth ynddo. Tra roeddem yn adeiladu'r theatr, ar ddamwain nes i gamu mewn rhywfaint o goncrit meddal. Felly, es i at Mary Pickford ar unwaith. Rhoddodd Mary ei throed ynddo."[8]
Mae cyfrif arall gan Klossner yn adrodd bod Klossner wedi llofnodi ei waith wrth ymyl y ciosg poster ar y dde, a bod Grauman ac ef a ddatblygodd y syniad bryd hynny.[9] Mae ei lofnod a'i ôl-law, wedi dyddio i 1927, yn parhau heddiw. Ym 1949, newidiodd stori Klossner i ddweud taw Grauman gwnaeth camu i'r concrit gwlyb ar ddamwain.[10]
Cafodd Theatr Tsieineaidd ei datgan yn dirnod hanesyddol a diwylliannol ym 1968, ac mae wedi mynd trwy amryw o brosiectau adfer yn y blynyddoedd ers hynny. Prynodd Ted Mann, perchennog cadwyn theatrau Mann Theatres (a gŵr yr actores Rhonda Fleming) y Theatr Tsieineaidd ym 1973. O bryd hynny tan 200, fe'i gelwid yn Theatr Tsieineaidd Mann.[11] O 1986 tan 2011 newidiodd berchnogion nifer o weithiau.[12][13][14][15][16][17][18]
Mae tu allan y theatr i fod i edrych yn debyg i bagoda Tsieineaidd coch anferth. Mae'r dyluniad yn cynnwys draig Tsieineaidd ar draws y ffasâd, gyda dau lew Brenhinlin Ming yn gwarchod y brif fynedfa, a silwetau dreigiau bach ar hyd ochrau'r to copr. Y syniad oedd rhoi ymdeimlad o China, rhywbeth nad oedd y mwyafrif o Americanwyr yn gwybod fawr ddim amdani.[19] Mae'r awditoriwm wedi'i adfer yn llwyr, ynghyd â llawer o'r tu allan.
Cynhaliodd y Theatr Tsieineaidd seremonïau Gwobrau Academi 1944, 1945, a 1946; maent bellach yn cael eu cynnal yn Theatr Dolby gyfagos, a elwid gynt yn Theatr Kodak.[20]
Mae bron i 200 o olion dwylo, olion traed a llofnodion enwogion Hollywood yng nghoncrit cwrt blaen y theatr. Fairbanks a Pickford oedd y cyntaf, a chafodd ei wneud ar 30 Ebrill 1927.[21]
Mae hefyd nifer o amrywiadau o'r traddodiad hwn. Mae'r rhain yn cynnwys gwasgnodau sbectol Harold Lloyd, sigâr Groucho Marx, 'dreadlock' Whoopi Goldberg, y ffyn hyd a ddefnyddir gan sêr Harry Potter Daniel Radcliffe, Rupert Grint ac Emma Watson, proffil wyneb John Barrymore (yn adlewyrchu ei lysenw "The Great Profile"), a choesau Betty Grable. Gadawodd sêr ffilmiau'r gorllewin gwyllt William S. Hart a Roy Rogers gwasgnodau o'u drylliau. Gadawodd Herbie, Volkswagen Beetle, gwasgnodau ei deiars. Gadawodd gwasgnodau carnau "Tony", ceffyl Tom Mix, "Champion", ceffyl Gene Autry, a "Sbardun", ceffyl Roy Rogers, yn y concrit wrth ymyl printiau'r sêr a'u marchogodd yn y ffilmiau.[22][23]
Er 2011, mae nifer enfawr o seremonïau concrit wedi digwydd. Cafwyd nifer ohonynt eu talu gan y stiwdios ffilm am resymau cyhoeddusrwydd. Fe wnaeth un o berchnogion presennol y theatr, Donald Kushner, gydnabod hwn a chyfeirio atynt fel ffug seremonïau.[24] Mae'r mewnlifiad hwn wedi bod yn destun pryder i arbenigwyr ffilm a haneswyr, yn ogystal â bod yn gamarweiniol i ffans. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd mewn blociau concrit, mae'r rhai a roddir yn y cwrt blaen yn dal i gael eu dewis gan bwyllgor arbennig sy'n dewis enwogion yn seiliedig ar eu cyfraniadau i sinema Hollywood.