Thomas De Quincey | |
---|---|
Ganwyd | 15 Awst 1785 Manceinion |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1859 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, newyddiadurwr, llenor, nofelydd, cyfieithydd, hunangofiannydd, rhyddieithwr, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, athronydd |
Tad | Thomas Quincey |
Mam | Elizabeth Penson |
Plant | Paul Frederick de Quincey, Florence Elizabeth De Quincey |
llofnod | |
Llenor o Sais oedd Thomas De Quincey (15 Awst 1785 – 8 Rhagfyr 1859). Ei gampwaith ydy Confessions of an English Opium-Eater (1821), atgof am bleser a phoen cymryd opiwm. Mae’r llyfr bellach yn cael ei weld fel clasur a'r cofiant cyffuriau neu lyfr Beatnic cyntaf. [1]
Ganwyd ym Manceinion. Masnachwr cyfoethog oedd ei dad, a fu farw pan oedd ei blant yn ieuainc, gan adael i'w weddw £1600 y flwyddyn i fyw arnynt. Ar ôl derbyn ei addysg mewn dwy neu dair o ysgolion, aeth Thomas yn 1803 i Rydychen. Yno y dechreuodd fwyta opiwm, arferiad a wnaeth niwed dirfawr i'w feddwl, i'w gorff, ac i'w amgylchiadau.
Gadawodd y brifysgol yn 1808, a threuliodd ysbaid o amser yn crwydro hyd Loegr a Chymru. Aeth i breswylio yn Llynnoedd Cumberland, ac yno cafodd gymdeithas awduron enwocaf yr oes. Nid ymroddod De Quincey i lenyddiaeth, oddi eithr er mwyn difyrrwch, nes oedd efe yn ddeugain oed, pryd y gorfu arno, er mwyn ymgynnal, ysgrifennu i'r London Magazine. Yn y cyhoeddiad hwnnw y darfu iddo gyhoedi ei waith amlycaf, Confessions of an Opium Eater. Parhaodd i ysgrifennu o hynny allan ar bob pwnc, ac mewn sawl arddull. A mỳn llawer mai efe, gan eithrio'r Albanwr John Wilson, oedd y cylchgronwr mwyaf gorchestol yng Ngwledydd Prydain.
Nodir ar gyfrif ei asbri a'i wreiddioldeb, ynghyd â rhwysg a mawredd ei ddychymyg, ac y mae ei arddull hefyd yn ddiguro mewn eglurder ac ystwythder. Dygodd hefyd lenyddiaeth yr Almaen i sylw darllenwyr Saesneg trwy ei gyfieithiadau, rhai blynyddoedd cyn i Carlyle ei gwneuthur hi mor adnabyddus.
Yn 1832, aeth De Quincey i'r Alban ac ymsefydlodd yn agos i Gaeredin, lle y bu yn fawr ei barch hyd ei farwolaeth. Cyhoeddwyd ei weithiau mewn 16 o gyfrolau (1862–71) gan A.&C. Black. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohono mewn dwy gyfrol (1877) gan Alexander Hay Japp dan yr enw H. A. Page.
Ganwyd Thomas Quincey yn ardal Greenhay, Manceinion. Cafodd y rhagddodiad De ei ychwanegu at ei enw gan ei fam pan oedd Thomas tua 11 oed. Bachgen henffel a sensitif oedd Thomas a ymddieithriodd oddi wrth ei deulu. Cafodd ei fwlio gan ei frawd hŷn, a bu farw ei dad a dwy o'i chwiorydd, gan waethygu gofidion ei ieuenctid.[2]
Symudodd y teulu i Gaerfaddon ac yno mynychodd Thomas yr ysgol ramadeg nes iddo gael ei daro ar ddamwain yn y pen gan gansen yr athro. Roedd Thomas yn edmygwr o'r Lyrical Ballads (1798), casgliad o gerddi gan William Wordsworth a Samuel Taylor Coleridge, a phenderfynodd bod yn rhaid iddo gwrdd â Wordsworth. Dihangodd yn 17 oed ar ymgais i ganfod y bardd, gan grwydro Cymru am gyfnod cyn iddo rhoi'r gorau i'w chwilfa. Yn 1802–03 bu'n byw dan gochl yn Llundain, heb yr un geiniog, ac yn treulio'i ddyddiau yng nghwmni putain ifanc o'r enw Ann.[2]
Bu cymod rhyngddo â'i deulu yn 1803, ac aeth i Goleg Caerwrangon, Rhydychen. Yn ei ddyddiau yn y brifysgol roedd yn llyfrbryf hynod o chwilfrydig ac yn gwmpasog ei ddiddordebau, gan ddarllen yn ddwfn ar bynciau hanes, economeg, seicoleg, a metaffiseg.[3] Ysgrifennodd llythyrau at Wordsworth tra'n fyfyriwr, ac yn 1807 llwyddodd o'r diwedd i ymweld â'r bardd yn ei gartref, Town End (yn ddiweddarach Dove Cottage), yn Grasmere ym Mro'r Llynnoedd. Daeth De Quincey yn gyfeillgar â Wordsworth a'i deulu, a chyda Coleridge, a bu'n rhentu Town End sawl gwaith rhwng 1809 a 1833.[3]
Priododd Margaret Simpson yn 1817, a chawsant wyth o blant. Ysgrifennodd nifer fawr o ysgrifau, ond dim ond ychydig a gyhoeddwyd.[3] Daeth yn olygydd y Westmorland Gazette, papur newydd lleol Torïaidd, yn 1818. Dechreuodd gyhoeddi erthyglau am opiwm, athroniaeth Almaenig, a llofruddiaethau yn Ewrop, Ymddiswyddodd o'r Gazette wedi deunaw mis.[2] Bu'n wynebu trafferthion ariannol felly cyn iddo gyhoeddi'r Confessions.
Dechreuodd De Quincey gymryd opiwm pan oedd yn y brifysgol yn 1804, i liniaru poen gwayw yn ei wyneb. Erbyn 1813 fe oedd yn gaeth i'r cyffur, ac yn ddibynnol arno am weddill ei oes. Cedwai costrel o lodnwm wrth ei ochr trwy'r dydd, a fe fu'n cynyddu'r dos yn raddol er mwyn ei daflu i freuddwydion opiwm.
Cyhoeddwyd Confessions of an English Opium-Eater yn gyntaf yn ddi-enw mewn dwy ran yn y London Magazine yn 1821. Fe'i argraffwyd ar ffurf llyfr yn 1822. Nid yw'n hawdd disgrifio ffurf lenyddol y gwaith: cyfuniad ydyw o atgofion cyffesol, traethiad cynhyrfus o brofiad yr un sy'n cymryd opiwm, a datgeliad newyddiadurol o ddrwg cymdeithasol y cyffur.[4] Nod honedig yr awdur oedd i rybuddio'r darllenydd rhag cymryd y cyffur, drwy gyflwyno disgrifiadau arddulliol o hynt ei ddibyniaeth, o synfyfyrdodau iwfforig i hunllefau arswydus.
Yn rhan un o’r llyfr mae De Quincey yn teithio i ogledd Cymru gan aros gyda Mrs Betty "housekeeper to the Bishop of B—". Mae’n debyg Bangor, oedd y “B_” a William Cleaver oedd yr archesgob. Mae’r archesgob yn cwyno am De Quincey gan feddwl ei fod yn dwyllwr da i ddim ac yn gorfodi Mrs Betty i ddweud wrth De Quincey i adael. [5][6]
Mae De Quincey wedyn yn symud ymlaen i "Llan-y-styndw (or some such name), in a sequestered part of Merionethshire" gan aros y tro yma gyda chriw o bobl ifanc cyfeillgar a charedig. Pedwar o chwiorydd a thri o frodyr "They spoke English, an accomplishment not often met with in so many members of one family, especially in villages remote from the high road". Roedd rhieni’r Cymry ifanc wedi mynd i gyfarfod blynyddol y Methodistaidd yng Nghaernarfon. Ond mae De Quincey yn gadael Llanystumdwy pan mae’r rhieni’n dod yn ôl "The parents returned with churlish faces, and “Dym Sassenach” (no English) in answer to all my addresses". Mae De Quincey wedyn yn teithio i Lundain gan gael ei hun yn ddigartref ac heb fwyd. Mae disgrifiadau ei brofiadau opiwm yn rhan ddau o’r llyfr. [7]
Ysgrifennodd De Quincey rhagor am ei freuddwydion opiwm yn yr ysgrif "Suspiria de Profundis" a gyhoeddwyd yn Blackwood's Magazine yn 1845. Ychwanegodd rhai o'r disgrifiadau hyn at adargraffiad y Confessions a gyhoeddwyd yn 1856, ynghyd ag atgofion eraill am ei fagwraeth ym Manceinion a'i gyfnod yn llanc yn Llundain.[3]
Ei ysgrif feirniadol bwysicaf ydy "On the Knocking at the Gate in Macbeth", a gyhoeddwyd yn y London Magazine yn 1823, sy'n rhoi cipolwg ar seicoleg y ddrama Macbeth gan Shakespeare. Cyhoeddwyd sawl ysgrif hunangofiannol gan De Quincey yn Tait's Magazine o 1834 i 1840, a elwir Lake Reminiscences. Nid oedd Wordsworth a'r beirdd eraill a ymddengys yn yr atgofion yn hoff o'r ffordd cawsant eu portreadu gan De Quincey.[3]
Aeth De Quincey i Gaeredin yn 1826, gan adael ei wraig a'u plant yn Grasmere. O ganlyniad, bu Margaret yn dioddef o iselder ysbryd, ac o'r diwedd cytunodd De Quincey i symud ei holl deulu i Gaeredin yn 1830. Er ei lwyddiant fel cylchgronwr ac enwogrwydd y Confessions, gwnaethai'r opiwm ddifrod mawr i'w iechyd ac roedd at ei glustiau mewn dyled.[8] Aeth De Quincey yn unig ac yn fwyfwy rhyfedd wedi marwolaeth ei wraig o deiffws yn 1837. Dwy flynedd ar hugain yn ddiweddarach, fe fu farw yng Nghaeredin yn 74 oed.