Thomas Sherlock | |
---|---|
Ganwyd | 1678 Llundain |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1761 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Llundain, Esgob Caersallog |
Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor ac awdur nifer o weithiau diwinyddol oedd Thomas Sherlock (1678 – 18 Gorffennaf 1761).
Ganed ef yn Llundain yn fab i William Sherlock. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Sant Catharine, Caergrawnt. Yn 1714 daeth yn is-ganghellor Caergrawnt, ac yn 1715 yn ddeon Chichester.
Bu ganddo ran amlwg yn y Ddadl Fangoraidd, gan wrthwynebu syniadau Erastaidd Benjamin Hoadly. Dilynodd Hoadly fel Esgob Bangor yn 1728. Trosglwyddwyd ef i Salisbury yn 1734 a daeth yn Esgob Llundain yn 1748.