Thomas Skevington | |
---|---|
Bu farw | 1533 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | mynach, offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Catholig Bangor |
Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1509 hyd ei farwolaeth oedd Thomas Skevington neu Thomas Skeffington (bu farw 17 Awst 1533).[1]
Roedd Skevington yn Abad Abary Sistersaidd Beaulieu. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor ar 17 Mehefin 1509.
Bu'n gyfrifol am ail-adeiladu Eglwys Gadeiriol Bangor ar raddfa fawr. Mae arysgrif Lladin uwchben drws y twr yn cofnodi fod yr Esgob Skevington wedi ei adeiladu yn 1532, er nad oedd wedi ei orffen pan fu farw Skevington yn 1533.