![]() | |
Enghraifft o: | Tour de France ![]() |
---|---|
Math | 2.UWT ![]() |
Rhan o | UCI World Tour 2012 ![]() |
Dechreuwyd | 30 Mehefin 2012 ![]() |
Daeth i ben | 22 Gorffennaf 2012 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2011 ![]() |
Olynwyd gan | 2013 Tour de France ![]() |
Yn cynnwys | 2012 Tour de France, Prologue, 2012 Tour de France, Stage 1, 2012 Tour de France, Stage 2, 2012 Tour de France, Stage 3, 2012 Tour de France, Stage 4, 2012 Tour de France, Stage 5, 2012 Tour de France, Stage 6, 2012 Tour de France, Stage 7, 2012 Tour de France, Stage 8, 2012 Tour de France, Stage 9, 2012 Tour de France, Stage 10, 2012 Tour de France, Stage 11, 2012 Tour de France, Stage 12, 2012 Tour de France, Stage 13, 2012 Tour de France, Stage 14, 2012 Tour de France, Stage 15, 2012 Tour de France, Stage 16, 2012 Tour de France, Stage 17, 2012 Tour de France, Stage 18, 2012 Tour de France, Stage 19, 2012 Tour de France, Stage 20 ![]() |
Gwefan | http://www.letour.fr/indexTDF_us.html ![]() |
![]() |
Tour de France 2012 oedd 99fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 30 Mehefin 2012 gyda chymal cyntaf yn Liège, Gwlad Belg a gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.
Cafodd y llwybr ei gyhoeddi ar gam gan yr ASO ar eu gwefan ar 10 Hydref 2011.[1] Cadarnhaodd yr ASO y llwybr yn y cyflwyniad swyddogol ar 18 Hydref.[2]
Roedd y llwybr yn cynnwys 101.1 km a gwblhawyd ar ffurf treial amser[3] ac ond tri chymal yn gorffen i fyny allt: La Planche des Belles Filles (cymal 7), La Toussuire - Les Sybelles (cymal 11) a Peyragudes (cymal 17).
Ymwelwyd â'r Col du Grand Colombier am y tro cyntaf yn hanes y Tour de France. Cafodd yr esgyniad ei ddefnyddio'n gynharach yn y Critérium du Dauphiné, Tour de l'Avenir ac yn gyson yn y Tour de l'Ain. Esgynnwyd hefyd mynyddoedd cyfarwydd y Col de la Madeleine a'r Col de la Croix de Fer (y ddwy yn Hors catégorie) wrth i'r ras deithio drwy'r Alpau. Ar y daith drwy'r Pyreneau, esgynnwyd y Col de Tourmalet, Col d'Aubisque, Col d'Aspin ar Col de Peyresourde; a phob un o'r pedwar yn ystod cymal 16. Roedd cyfanswm o 25 esgyniad yng nghategori 1, 2, a HC yn cyfrif ar gyfer pwyntiau yng nghystadleuaeth brenin y mynyddoedd.
Roedd gan pob un o 18 o dimau ProTeam yr UCI yr hawl, ac roedd yn ofynnol iddynt, gymryd rhan yn y ras. Cafodd pedwar tîm UCI Professional Continental eu gwahodd yn ogystal, un Iseldiraidd a tair Ffrengig.[4]
†: Timau proffesiynol cyfandirol a wahoddwyd
Roedd Cadel Evans am amddiffyn ei deitl fel enillydd y Tour y flwyddyn gynt. Nid oedd Andy Schleck, enillydd 2010 (wedi i Alberto Contador gael ei ddi-gymhwyso am ddefnyddio cyffuriau), a ddaeth yn ail yn 2011, yn gallu cychwyn y Tour wedi iddo dorri ei asgwrn sacraidd yn ei belfis yn y Critérium du Dauphiné.[5] Ni fyddai cyn enillydd 2007, Alberto Contador, a ddi-gymhwyswyd wedi 2010, yn cymryd rhan oherwydd ei fod yn dal wedi ei wahardd rhag cystadlu ar y pryd.
Roedd cyn-enillwyr eraill Grand Tour a gychwynnodd y Tour de France yn 2012 yn cynnwys: Denis Menchov (2009 Giro d'Italia a 2005 a Vuelta a España 2007), Alexander Vinokourov (Vuelta a Espana 2006), Alejandro Valverde (Vuelta a España 2009), Vincenzo Nibali (Vuelta a España 2010), Juan José Cobo (Vuelta a España 2011), Ivan Basso (Giro d'Italia 2006 a Giro d'Italia 2010), Michele Scarponi (Giro d'Italia 2011) a Ryder Hesjedal (Giro d'Italia 2012).[6][7][8]
Yn ôl nifer y feirniaid, y prif ffefryn oedd y reidiwr Prydeinig Bradley Wiggins.[9][10] Roedd Wiggins, a orffennodd yn bedwerydd yn 2009, ac yn drydydd yn Vuelta a España 2011, wedi dangos ei gyflwr yn dda drwy gydol 2012, gan ennill rasus cymalog nodweddiadol Paris-Nice, Tour de Romandie a'r Critérium du Dauphiné. Cysidrwyd y cyn-reidiwr trac i fod yn un o dreialwyr amser gorau'r peleton, ac roedd y cyfanswm uchel o gilomedrau ar ffurf treialon amser yn Tour 2012 yn fantais iddo.
Enillodd Bradley Wiggins (Team Sky) ddosbarthiad cyffredinol y ras, 3' 21" yn glir o'i gyd-aelod tîm Chris Froome. Daeth y ddau yn Brydeinwyr cyntaf erioed i orffen yn nhri safle uchaf y ras ers sefydliad y ras 109 mlynedd ynghynt. Gwisgwyd y crys melyn gan Fabian Cancellara (RadioShack-Nissan) o'r Swistir, a enillodd y prologue.[11] Cipiodd Wiggins, a ddaeth yn ail yn y prologue, y crys melyn ar gymal 7, y cymal mynyddig cyntaf, cymal a enillwyd gan Froome,[12] a deliodd ar y safle drwy gydol gweddill y ras, gan ennill y ddau dreial amser hir, a heb golli unrhyw amser i'w brif wrthwynebwyr yn y mynyddoedd. Daeth Froome yn ail yn y ddau dreial amser, ac roedd ochr yn ochr, neu ychydig o flaen Wiggins yn y cymalau mynyddig. Yr Eidalwr Vincenzo Nibali (Liquigas-Cannondale) a orffennodd yn y drydydd safle, yr unig reidiwr i gadw fyny gyda'r ddau yn gyson yn y mynyddoedd.
Enillwyd y crys gwyrdd am y dosbarthiad bwyntiau gan gyd-aelod tîm Nibali, y Slofaciwr Peter Sagan. Enillodd Sagan dri cymal, a bu'n ail neu'n drydydd mewn pedwar cymal arall. Enillwyd dau gymal hefyd gan y sbrintiwr Almaenig André Greipel (Lotto-Belisol), a phencampwr y byd Mark Cavendish, Prydeiniwr arall ar Team Sky, ond roeddent yn llai cyson yn sbrintiau eraill y ras. Thomas Voeckler, y Ffrancwr ar Team Europcar, a gipiodd dosbarthiad Brenin y Mynyddoedd, wedi iddo gipio dau gymal mynyddig a bod y cyntaf i groesi copa saith mynydd yn olynol. Yr Americanwr Tejay van Garderen (BMC Racing Team), a ddaeth yn bumed yn y dosbarthiad cyffredinol, a enillodd y crys gwyn fel y reidiwr ifanc gorau. Cipiodd RadioShack-Nissan y dosbarthiad timau, a gwobrwywyd Chris Anker Sørensen fel y reidiwr mwyaf brwydrol.
Cymal | Dyddiad | Dechrau – Gorffen | Pellter | Math | Enillydd | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
P | 30 Mehefin | Liège – Liège | 6.4 km | ![]() |
Treial amser unigol | ![]() | |
1 | 1 Gorffennaf | Liège – Serain | 198 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
2 | 2 Gorffennaf | Visé – Tournai | 207.5 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
3 | 3 Gorffennaf | Orchies – Boulogne-sur-Mer | 197 km | ![]() |
Cymal mynyddig canolig | ![]() | |
4 | 4 Gorffennaf | Abbeville – Rouen | 214.5 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
5 | 5 Gorffennaf | Rouen – Saint-Quentin | 196.5 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
6 | 6 Gorffennaf | Épernay – Metz | 207.5 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
7 | 7 Gorffennaf | Tomblaine – La Planche des Belles Filles | 199 km | ![]() |
Cymal mynyddig canolig | ![]() | |
8 | 8 Gorffennaf | Belfort – Porrentruy | 157.5 km | ![]() |
Cymal mynyddig canolig | ![]() | |
9 | 9 Gorffennaf | Arc-et-Senans – Besançon | 41.5 | ![]() |
Treial amser unigol | ![]() | |
10 Gorffennaf | Diwrnod gorffwys | ||||||
10 | 11 Gorffennaf | Mâcon – Bellegarde-sur-Valserine | 195.5 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
11 | 12 Gorffennaf | Albertville – La Toussuire/Les Sybelles | 148 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
12 | 13 Gorffennaf | Saint-Jean-de-Maurienne – Annonay/Davézieux | 226 km | ![]() |
Cymal mynyddig canolig | ![]() | |
13 | 14 Gorffennaf | Saint-Paul-Trois-Châteaux – Cap d'Agde | 217 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
14 | 15 Gorffennaf | Limoux – Foix | 191 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
15 | 16 Gorffennaf | Samatan – Pau | 158.5 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
17 Gorffennaf | Diwrnod gorffwys | ||||||
16 | 18 Gorffennaf | Pau – Bagnères-de-Luchon | 197 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
17 | 19 Gorffennaf | Bagnères-de-Luchon – Peyragudes | 143.5 km | ![]() |
Cymal mynyddig | ![]() | |
18 | 20 Gorffennaf | Blagnac – Brive-la-Gaillarde | 222.5 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() | |
19 | 21 Gorffennaf | Bonneval – Chartres | 53.5 km | ![]() |
Treial amser unigol | ![]() | |
20 | 22 Gorffennaf | Rambouillet – Paris (Champs-Élysées) | 120 km | ![]() |
Cymal gwastad | ![]() |
Pan yw un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[13] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
Reidiwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | ![]() ![]() |
Team Sky | 87h 34' 47" |
2 | ![]() |
Team Sky | + 3' 21″ |
3 | ![]() |
Liquigas-Cannondale | + 6' 19″ |
4 | ![]() |
Lotto-Belisol | + 10' 15″ |
5 | ![]() ![]() |
BMC Racing Team | + 11' 04″ |
6 | ![]() ![]() |
RadioShack-Nissan | + 15' 41″ |
7 | ![]() |
BMC Racing Team | + 15' 49″ |
8 | ![]() |
Team Europcar | + 16' 26″ |
9 | ![]() |
Astana | + 16' 33″ |
10 | ![]() |
FDJ-BigMat | + 17' 17″ |
Reidiwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | ![]() ![]() |
Liquigas-Cannondale | 421 |
2 | ![]() |
Lotto-Belisol | 280 |
3 | ![]() |
Orica-GreenEDGE | 268 |
4 | ![]() |
Team Sky | 220 |
5 | ![]() |
Team Sky | 160 |
6 | ![]() ![]() |
Team Sky | 144 |
7 | ![]() |
Team Sky | 126 |
8 | ![]() |
Rabobank | 104 |
9 | ![]() |
Team Saxo Bank-Tinkoff Bank | 102 |
10 | ![]() |
BMC Racing Team | 100 |
Reidiwr | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | ![]() ![]() |
Team Europcar | 135 |
2 | ![]() |
Astana | 123 |
3 | ![]() |
Team Saxo Bank-Tinkoff Bank | 77 |
4 | ![]() |
Team Europcar | 63 |
5 | ![]() |
Movistar Team | 51 |
6 | ![]() |
Team Sky | 48 |
7 | ![]() |
Euskaltel-Euskadi | 43 |
8 | ![]() |
FDJ-BigMat | 40 |
9 | ![]() |
Saur-Sojasun | 38 |
10 | ![]() |
Garmin-Sharp | 34 |
Reidiwr | Tîm | Amser | |
---|---|---|---|
1 | ![]() ![]() |
BMC Racing Team | 87h 45′ 46″ |
2 | ![]() |
FDJ-BigMat | + 6' 13″ |
3 | ![]() |
Rabobank | + 1h 05' 48″ |
4 | ![]() |
Cofidis | + 1h 16' 32″ |
5 | ![]() |
Euskaltel-Euskadi | + 1h 20' 40″ |
6 | ![]() |
Vacansoleil-DCM | + 1h 26' 37″ |
7 | ![]() ![]() |
Liquigas-Cannondale | + 1h 27' 42″ |
8 | ![]() |
Liquigas-Cannondale | + 1h 31' 08″ |
9 | ![]() |
Team Sky | + 1h 41' 39″ |
10 | ![]() |
Team Europcar | + 1h 46' 06″ |
Safle | Tîm | Amser |
---|---|---|
1 | RadioShack-Nissan ![]() |
263h 12' 01″ |
2 | Team Sky | + 5' 54″ |
3 | BMC Racing Team | + 36' 36″ |
4 | Astana | + 43' 35″ |
5 | Liquigas-Cannondale | + 1h 04' 58″ |
6 | Movistar Team | + 1h 08' 19″ |
7 | Team Europcar | + 1h 08' 54" |
8 | Team Katusha | + 1h 12' 49″ |
9 | FDJ-BigMat | + 1h 19' 28″ |
10 | Ag2r-La Mondiale | + 1h 41' 18″ |
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol