Twm Siôn Cati | |
---|---|
Ffugenw | Twm Shon Catti ![]() |
Ganwyd | 1530, 10 Awst 1532 ![]() Tregaron ![]() |
Bu farw | 1608 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, achrestrydd ![]() |
Hynafiaethydd, arwyddfardd a herwr o Dregaron, Ceredigion, oedd Twm Siôn Cati (1 Awst 1532 neu 1530 - 1609). Ei enw iawn oedd Thomas Jones. Tyfodd gylch o chwedlau a thraddodiadau amdano fel y "Robin Hood" Cymreig; credir erbyn hyn mai apocryffaidd ydynt a bod enw Thomas Jones wedi cael ei ddrysu gyda threiglad amser ag enwau lladron pen ffordd yng Ngheredigion.[1]
Dywedir ei fod yn fab i Cati Jones a Siôn ap Dafydd ap Madog ap Hywel Moetheu o Borth-y-ffynnon ger Tregaron a'i fod "yn dirfeddiannwr parchus, yn hynafieithydd a bardd a ddaeth yn ynad heddwch ac yn Faer tref Aberhonddu."[2]
Cyhoeddwyd nofel Saesneg amdano gan Thomas Jeffery Llewelyn Prichard yn 1828 Adventures and Vagaries of Twm Shôn Catti. Mae T. Llew Jones wedi cyhoeddi tair nofel Gymraeg amdano sef Y Ffordd Beryglus, Ymysg Lladron a Dial o'r Diwedd.
Dengys y pennill hwn cymaint o ofn oedd gan y trigolion lleol ohono:
Mae llefain mawr a gweiddi
Yn Ystrad-ffin eleni,
A'r cerrig nadd yn toddi'n blwm
Gan ofon Twm Siôn Cati.[3]