Uchelgyhuddiad Bill Clinton

Trafodaethau yn Senedd U.D. yn ystod treial yr Arlywydd Bill Clinton ym 1999, Prif Ustus William Rehnquist yn llywyddu. Mae rheolwyr y Tŷ yn eistedd wrth ymyl byrddau chwarter-gylchol ar y chwith a chwnswler personol yr Arlywydd ar y dde.

Cyhuddiad difrifol yn erbyn 42fed Arlywydd Unol Daleithiau America oedd Uchelgyhuddiad Bill Clinton. Dechreuwyd proses uchelgyhuddo Clinton gan Dŷ'r Cynrychiolwyr ar 19 Rhagfyr 1998, ar ddau gyhuddiad: un o anudon a'r llall o rwystro cyfiawnder.[1]

Deilliodd y cyhuddiadau hyn o gwyn gyfreithiol am gamdriniaeth rywiol a gyflwynwyd yn erbyn Clinton gan Paula Jones. Dyfarnwyd Clinton yn ddieuog o'r cyhuddiadau hyn gan y Senedd ar 12 Chwefror 1999. Methwyd dwy erthygl arall o uchelgyhuddiad – ail gyhuddiad o anudon a chyhuddiad o  gamddefnydd grym –  yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]