Una Stubbs | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mai 1937 Welwyn Garden City |
Bu farw | 12 Awst 2021 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor llwyfan, actor ffilm, actor |
Priod | Nicky Henson, Peter Gilmore |
Plant | Christian Henson, Joe Henson |
Roedd Una Stubbs (1 Mai 1937 – 12 Awst 2021) yn actores o Loegr, personoliaeth teledu, a dawnsiwr. Daeth yn adnabyddus am ei rhannau yn y ffilm Summer Holiday (1963), yn serennu Cliff Richard, a'r gyfres gomedi Till Death Us Do Part . Chwaraeodd hi llawer o rannau nodedig eraill ar teledu, yn cynnwys Modryb Sally yn Worzel Gummidge a Mrs Hudson yn Sherlock.
Cafodd Stubbs ei geni yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford,[1] yn ferch i Clarence Reginald Stubbs a'i wraig Angela (ganed Rawlinson)[2] Roedd hi'n or-wyres i'r pensaer Ebenezer Howard.
Priododd Stubbs yr actor Peter Gilmore ym 1958; ysgarodd ym 1969. Priododd ei ail ŵr, yr actor Nicky Henson ond ysgarodd ym 1975. Bu iddynt ddau fab: y cyfansoddwr Christian Henson a'r cerddor Joe Henson.[3] Bu farw yng Nghaeredin yn 84 mlwydd oed, wedi rhai misoedd o salwch.[4]