"Llun teulu" NATO: pennau gwladwriaethol a llywodraethol o'r holl 32 o aelod-wladwriaethau NATO, yn ogystal ag Ysgrifennydd Cyffredinol NATO. Rhes gefn (o'r chwith i'r dde): Edgars Rinkēvičs, Arlywydd Latfia; Gitanas Nausėda, Arlywydd Lithwania; Luc Frieden, Prif Weinidog Lwcsembwrg; Milojko Spajić, Prif Weinidog Montenegro; Dick Schoof, Prif Weinidog yr Iseldiroedd; Hristijan Mickoski, Prif Weinidog Gogledd Macedonia; Jonas Gahr Støre, Prif Weinidog Norwy; Andrzej Duda, Arlywydd Pwyl; Luís Montenegro, Prif Weinidog Portiwgal; Klaus Iohannis, Arlywydd Rwmania; Peter Pellegrini, Arlywydd Slofacia. | |
Enghraifft o'r canlynol | NATO summit |
---|---|
Dechreuwyd | 9 Gorffennaf 2024 |
Daeth i ben | 11 Gorffennaf 2024 |
Rhagflaenwyd gan | 2023 Vilnius summit |
Olynwyd gan | 2025 The Hague summit |
Lleoliad | Washington |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd 34ain Uwchgynhadledd NATO o Ddydd Mawrth 9 Gorffennaf i Ddydd Iau 11 Gorffennaf 2023 yn Washington, D.C., prifddinas Unol Daleithiau America. Nodai 75 mlynedd ers sefydlu'r cynghrair milwrol gan Gytundeb Gogledd yr Iwerydd ym 1949.
Yn ogystal â phennau aelod-wladwriaethau NATO, gwahoddwyd hefyd gweinidogion tramor Armenia, Aserbaijan, a Georgia, dirprwy brif weinidog Awstralia, prif weinidogion Japan a Seland Newydd, arlywyddion De Corea ac Wcráin, ac i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf ers i Sweden ymaelodi â NATO ym Mawrth 2024, a'r uwchgynhadledd olaf i'w chadeirio gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol Jens Stoltenberg. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf i'w mynychu gan Keir Starmer, a benodwyd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig pedwar diwrnod cyn dechrau'r cyfarfod.
Un o brif ddatblygiadau'r uwchgynhadledd oedd cynllun i ddanfon taflegrau pellgyrhaeddol o'r Unol Daleithiau i'r Almaen am y tro cyntaf ers diwedd y Rhyfel Oer.[1]