Vernon Pelling Elliott | |
---|---|
Ganwyd | 27 Gorffennaf 1912 |
Bu farw | 12 Hydref 1996 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr |
Roedd Vernon Pelling Elliott yn faswnydd, cyfansoddwr ac arweinydd, ganwyd ar 27 gorffennaf 1912. Roedd o’n aelod gwreiddiol y Gerddorfa Symphonia, aelod o Grŵp Opera Saesneg Benjamin Britten, arweinydd y Gerddorfa Ffilharmonic Frenhinol ac yn athro yng Ngholeg Cerddoriaeth y Trindod, Llundain.
Gofynnwyd iddo cynorthwyo Oliver Postgate gan gyfansoddi thema baswn ar gyfer Ivor the Engine ym 1959, ac aeth ymlaen i cyfansoddi ar gyfer Noggin the Nog, The Seal of Neptune, Pogles' Wood, Pingwings a’r Clangers. Rhyddhawyd albwm o’i waith ar gyfer Y Clangers gan Recordiadau Trunk yn 2001, ac un am ei waith ar Ivor the Engine a Pogles' Wood yn 2007.[1]
Bu farw ar 12 Hydref 1996.