Virgilio Piñera | |
---|---|
Ganwyd | 4 Awst 1912 Cárdenas |
Bu farw | 18 Hydref 1979, 19 Hydref 1979 La Habana |
Dinasyddiaeth | Ciwba |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, dramodydd, cyfieithydd |
Dramodydd, bardd, awdur straeon byrion, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd Virgilio Piñera (4 Awst 1912 – 18 Hydref 1979) a ystyrir yn un o lenorion pwysicaf Ciwba yn yr 20g. Mae ei ffuglen a'i farddoniaeth yn cyflwyno byd drwy gyfrwng yr absẃrd ac anobaith.
Ganwyd yn Cárdenas yn Nhalaith Matanzas a chafodd ei fagu mewn teulu dosbarth-gweithiol. Peiriannydd rheilffordd oedd ei dad, ac athrawes ysgol oedd ei fam. Astudiodd ym Mhrifysgol La Habana, ond gwrthododd amddiffyn ei draethawd ymchwil. Dyn anodd ei drin oedd Piñera, nad oedd yn hoff o ymaelodi â grwpiau neu fudiadau, a bu'n aml yn dibynnu ar ei deulu a'i gyfeillion am arian.[1]
Cafodd Piñera anghydfod â José Lezama Lima, ac o ganlyniad fe benderfynodd symud i'r Ariannin. Yno, cyfarfu â Jorge Luis Borges a'i gylch, a chyhoeddodd yn y cylchgronau Anales de Buenos Aires a Sur. Daeth yn gyfeillgar â'r llenor Pwylaidd Witold Gombrowicz, yr hwn a gafodd ddylanwad pwysig ar waith Piñera, er enghraifft ei nofel La carne de René (1952). Ymhlith ei weithiau eraill o'r cyfnod hwn mae'r gerdd hir La isla en peso (1943), sy'n ymwneud ag argyfwng diwylliannol Ciwba yn yr 20g, a'r gyfrol o straeon Cuentos fríos (1956). Roedd yn nodedig yn bennaf am ei ddramâu avant-garde, megis Electra Garrigó (1943), Jesús, ac Aire frío (1959).[2]
Dychwelodd Piñera i Giwba yn sgil Chwyldro 1959. Bu'n digio'r awdurdodau Castroaidd yn aml yng Nghiwba am iddo wrthod cydymffurfio ag ideoleg swyddogol y llywodraeth, a chafodd ei garcharu yn 1961 am "droseddau gwleidyddol a moesol", o ganlyniad i'w ysgrifau o blaid hawliau hoywon. Er hynny, enillodd wobr lenyddol bwysicaf y wlad, Gwobr Casa de las Américas, yn 1969 am ei ddrama Dos viejos pánicos.[1] Bu farw yn La Habana yn 67 oed.