Delwedd:Nahal prat2.jpg, Israel Hiking Map עין קלת.jpeg Nant Nahal Prat | |
Math | afon, nant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Palesteina |
Uwch y môr | 700 metr |
Cyfesurynnau | 31.84°N 35.41°E |
Tarddiad | Hizma, Neve Yaakov, Almon |
Aber | Afon Iorddonen |
Llednentydd | Nachal Michmas, Nahal Zimri |
Dalgylch | 130 cilometr sgwâr |
Hyd | 29 cilometr |
Arllwysiad | 0.017 metr ciwbic yr eiliad |
Dyffryn gyda nant ddofn yw Wadi Qelt (Arabeg: وادي القلط; ) neu Qilt a Kelt, a elwid gynt yn Naḥal Faran (Nant Pharan) yn y Lan Orllewinol, Palesteina. Mae'r nant yn tarddu ger Jeriwsalem ac yn llifo i Afon Iorddonen ger Jericho, ychydig cyn iddi aberu yn y Môr Marw .
Mae'r wadi (sef gair Hebraeg Arabeg am nant) a'i amgylchedd naturiol a'i safleoedd archaeolegol yn denu twristiaid, yn enwedig y cyfoeth o adar sydd ar hyd ei glannau.
Mae gan y nant sy'n llifo tua'r dwyrain i lawr y dyffryn yn torri trwy garreg calchfaen Mynyddoedd Jwdea, dri tharddiad, sef tair nant fechan:
1 Ayn Farah yr un fwyaf ym mhen y dyffryn ;
2. Ayn Fawar yn y canol; a
3. nant y Qelt, ychydig ymhellach i lawr.[1]
Mewn Arabeg mae gan bob rhan ei henw ei hun: Wadi Fara ar gyfer y rhan uchaf, Wadi Fawar ar gyfer yr un ganol, a Wadi Qelt ar gyfer y rhan isaf.[1]
Mae Wadi Qelt yn gartref i amrywiaeth unigryw o fflora a ffawna.
Cydnabyddir pwysigrwydd y safle 15,000 hectar gan y cofrestriad 'Ardal Adar o Bwys' (IBA) a roddwyd gan BirdLife International oherwydd ei fod yn cynnal poblogaethau o Eryrdylluan Ewrop, y fwltur griffon, yr eryr Bonelli a'r chudyll coch bach.[2]
Mae'r Wadi wedi'i chysylltu â'r Perath Beiblaidd a grybwyllir yn Jeremiah 13:5, yn ol rhai.[3]
Dywed traddodiad bod Joachim tad y Forwyn Fair wedi gweddïo yn Wadi Qelt i gael ei fendithio â phlentyn. Mae Ogof Santes Anne, lle bu meudwyon tan ychydig ddegawdau yn ôl, yn gysylltiedig â'r traddodiad hwn.
Mae Mynachlog San Siôr,[3] hefyd wedi'i chysylltu â'r traddodiad Marian, wedi'i hadeiladu yn y clogwyni wadi ychydig i fyny'r afon o Ogof Santes Anne.
Mae Qubur Bani Isra'in yn strwythurau cerrig mawr iawn o'r Oes Efydd, sy'n codi o lwyfandir creigiog sy'n edrych dros Wadi Qelt.[4]
Cafwyd hyd i sawl dyfrbont ar hyd y nant, gyda'r hynaf yn dyddio i'r cyfnod Hasmonaidd (2g CC).[1] Roedd y dyfrbontydd yn cludo dŵr o dair nant, i lawr i wastadedd Jericho.[5]
Safai palasau gaeaf brenhinoedd Hasmonaidd a Herod Fawr ym mhen isaf y dyffryn, lle mae'n cyrraedd Gwastadedd Jericho.[6] Credir bellach bod strwythur o fewn palasau gaeaf brenhinol Hasmonaidd, yn ol yr archaeolegydd, Ehud Netzeryn synagog, ac fe'i adnabyddir heddiw fel Synagog Wadi Qelt, un o'r synagogau hyna'r byd.[7][8] Yn ol haneswyr eraill, nid synagog mohono.
Mae Wadi Qelt yn cynnwys mynachlogydd a hen leoliadau Cristnogol.[1] Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd anheddiad mynachaidd cyntaf anialwch Jwdeaidd, y Pharan lavra, gan Sant Chariton y Cyffeswr tua diwedd y 3g yn Wadi Qelt uchaf,[9] ardal a adwaenir i'r Eglwys Uniongred Roegaidd fel Dyffryn Pharan.
Sefydlwyd Mynachlog Saint George gan John o Thebes tua 480 OC, a daeth yn ganolfan ysbrydol bwysig yn y 6g o dan Saint George o Choziba . Byddai meudwyon sy'n byw mewn ogofâu mewn clogwyni cyfagos yn cwrdd yn y fynachlog i gael offeren wythnosol a phryd cymunedol.[10]
Cloddiwyd mynachlog Bysantaidd arall ar y safle a elwir yn Arabeg fel Khan Saliba.[11] Adeiladwyd Mynachlog Sant Adda o'r 5g yno "oherwydd yno yr arhosodd ac wylodd am iddo golli Paradwys" (Epiphanius).[11] Daeth archeolegwyr o hyd i fosaigau Bysantaidd coeth ar hen safle'r bererindod.[12][13]
Meddiannwyd yr ardal gan Israel ym 1967 .
Ar 20 Rhagfyr, 1968, lladdwyd is-gapten-Cyrnol Zvi (Tzvika) Ofer, cadlywydd uned elitaidd Haruv, cyn-Lywodraethwr Milwrol Nablus a derbynnydd medal falchder Israel, wrth ymladd yn Wadi Qelt wrth geisio ymlid arabiaid oedd wedi croesi'r Iorddonen.[14]
Cyhoeddodd Israel rannau uchaf y wadi fel ardal warchodedig o dan yr enw Gwarchodfa Natur Ein Prat.[1]
Mae llawer o Wadi Qelt yn llwybr poblogaidd i gerddwyr Palesteinaidd ac Israelaidd. Mae'n bosib cerdded yr holl ffordd o dref Hizma i Jericho, taith o 25 cilometr a disgyniad o 850m.[15]
Defnyddir y wadi gan lawer o fugeiliaid Bedwin. Mae rhai Bedwiniaid a thrigolion Jericho hefyd yn ennill eu bywoliaeth ger Mynachlog San Siôr, trwy gynnig reidiau asyn i bererinion a gwerthu diodydd a chofroddion iddynt.[16][17][18]