Wicked (sioe gerdd)

Wicked
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth Stephen Schwartz
Geiriau Stephen Schwartz
Llyfr Winnie Holzman
Seiliedig ar Yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire Wicked
Cynhyrchiad 2003 San Francisco peilot

2003 Broadway
2005 Taith Genedlaethol yr Unol Daleithiau
2005 Chicago
2006 Universal Studios Japan
2006 West End
2007 Los Angeles
2007 Tokyo
2007 Stuttgart
2008 Melbourne
2009 San Francisco
2009 2il Daith Genedlaethol UDA

Gwobrau Gwobr Drama Desk am Sioe Gerdd Eithriadol
Gwobr Drama Desk Award am Lyfr Eithriadol o Sioe Gerdd
Gwobr Drama Desk am Eiriau Eithriadol
Gwobr Drama Desk am Gerddorfeydd Eithriadol

Sioe gerdd yw Wicked, sy'n seiliedig ar y nofel boblogaidd Wicked: The Life and Times of the Wicked Witch of the West gan Gregory Maguire, sy'n debyg i nofel glasurol L. Frank Baum, The Wonderful Wizard of Oz ond o safbwynt gwrachod Gwlad Oz. Ysgrifennwyd y caneuon a'r geiriau gan Stephen Schwartz a'r llyfr gan Winnie Holzman.

Mae'n adrodd hanes Elphaba, Gwrach Greulon y Gorllewin a'i pherthynas gyda Glinda, Gwrach Dda y Gogledd. (Yn nodiadau'r albwm, esbonia Gregory Maguire ei fod wedi creu'r enw "Elphaba" o lythrennau cychwynnol enw L. Frank Baum.) Mae'r ddwy'n brwydro i ddatblygu eu perthynas er gwaethaf eu gwahaniaethau o ran personoliaethau a safbwyntiau, y ffaith eu bod yn cystadlu am yr un cariad, eu hymatebion i lywodraeth anonest Oz ac yn y pen draw cwymp cyhoeddus Elphaba o'i huchelfan. Mae'r rhan fwyaf o'r plat wedi ei osod cyn i Dorothy gyrraedd o Kansas, a cheir nifer o gyfeiriadau i olygfeydd a deialog enwog o'r ffilm The Wizard of Oz.

Agorodd y sioe ar Broadway, Dinas Efrog Newydd ar 30 Hydref 2003. Cafodd ei gynhyrchu gan Universal Pictures a'i chyfarwyddo gan Joe Mantello, gyda'r llwyfannu cerddorol gan Wayne Cilento.