Widad Kawar | |
---|---|
Ffugenw | وداد قعوار |
Ganwyd | وداد جليل زند 1931 Tulkarm |
Bedyddiwyd | 1931 |
Dinasyddiaeth | Palesteina |
Addysg | gradd meistr, gradd baglor |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymchwilydd, llenor, hanesydd celf, casglwr |
Cartre'r teulu | Tulkarm |
Mudiad | scientism |
Plant | Mary Kawar |
Gwobr/au | Order of Al-Hussein for Distinguished Contributions, Gwobr y Tywysog Claus, Order of President Mahmoud Abbas |
Gwefan | http://www.tirazcentre.org |
Mae Widad Kawar ( Arabeg: وداد قعوار; g. yn Tulkarm yn 1931),[1] yn gasglwr rhyngwladol o fri, o dras Iorddonen a Phalesteinaidd, yn enwedig arteffactau celfyddydol ethnig a diwylliannol. Mae ganddi gasgliad helaeth o ffrogiau, gwisgoedd, tecstilau a gemwaith a ddatblygodd dros y 50 mlynedd diwethaf, gan geisio gwarchod diwylliant sydd wedi'i wasgaru i raddau helaeth gan wrthdaro Israel.[2] Gelwir Kawar yn Umm l'ibas al-falastini - "mam gwisgoedd Palesteina".
Ganwyd Kawar yn ninas Tulkarm i deulu Cristnogol yn ninas Tulkarm.[3] Roedd ei thad Jalil yn athro ac yn bennaeth system ysgolion ieuenctid yn llywodraeth Mandad Prydain ym Mhalestina. Astudiodd ym Mhrifysgol America yn Beirut.[4][5]
Sicrhaodd Kawar bod ei chasgliad ar gael i'r cyhoedd drwy arddangosfeydd bydeang o wisgoedd Palesteinaidd. Sgwennodd lawer o lyfrau ar frodwaith Palesteina a sefydlodd Oriel Brodwaith Diwylliannol. Yn ddiweddar, cydweithiodd â Margaret Skinner ar A Treasure of Stitches: Palestinian Embroidery Motifs, 1850–1950 (Rimal / Melisende).[6]
Ar hyn o bryd mae Widad yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Ymchwil Dwyreiniol America. Sefydlodd Ganolfan Tiraz yn y 2010au, sy'n rhedeg amgueddfa fach yn Aman, gan gartrefu ei chasgliad ac sy'n ymroddedig i warchod traddodiadau diwylliannol Gwlad Iorddonen a Phalesteina.