Wilfried Bony

Wilfried Bony

2012
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnWilfried Guemiand Bony[1]
Dyddiad geni (1988-12-10) 10 Rhagfyr 1988 (35 oed)
Man geniBingerville, Arfordir Ifori
Taldra1.82m
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolManchester City
Rhif14
Gyrfa Ieuenctid
Cyrille Domoraud Academy
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2008Issia Wazi
2007–2008→ Sparta Prague B (benthyg)14(2)
2008–2011Sparta Prague59(22)
2011–2013Vitesse65(46)
2013–2015Dinas Abertawe54(25)
2015-Manchester City5(1)
Tîm Cenedlaethol
2010–Arfordir Ifori37(13)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 26 Ebrill 2015.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 26 Ebrill 2015

Pêl-droediwr o Arfordir Ifori ydy Wilfried Bony (ganwyd Wilfried Guemiand Bony 10 Rhagfyr 1988) sy'n chwarae i glwb Manchester City yn Uwch Gynghrair Lloegr a thîm pêl-droed cenedlaethol Arfordir Ifori.[2]

Dechreuodd Bony ei yrfa gyda chlwb Issia Wazi yn Uwch Gynghrair Arfordir Ifori a llwyddodd i ddenu sylw Lerpwl lle cafodd gyfnod ar brawf yn 2007. Ond ar ôl methu sicrhau cytundeb, ymunodd Bony â Sparta Prague o'r Weriniaeth Tsiec ar fenthyg cyn sicrhau cytundeb parhaol yn 2008[3].

Ar ôl sgorio 17 gôl yn hanner cyntaf tymor 2010/11[4] gan gynnwys pum gôl mewn chwe ymddangosiad yng Nghynghrair Europa, ymunodd Bony â chlwb Vitesse yn Eredivisie, Yr Iseldiroedd ym mis Ionawr 2011[5].

Yn nhymor 2012/13 llwyddodd i rwydo 31 gôl mewn 30 gêm i fod yn brif sgoriwr yr Eredivisie a chafodd ei urddo fel Chwaraewr y Flwyddyn yn Yr Iseldiroedd cyn ymuno ag Abertawe am £12m - record i'r clwb Cymreig[6] ym mis Gorffennaf 2013.

Ym mis Ionawr 2015 symudodd Bony i Manchester City am ffi o £25m - all godi i £28m, fyddai'n golygu mai Bony fydai'r chwaraewr drytaf erioed o Affrica.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Barclays Premier League Squad Numbers 2013/14". Premier League. 16 August 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-25. Cyrchwyd 17 August 2013.
  2. "Bony's the boy for Swans". swanseacity.net. Swansea City A.F.C. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2013.
  3. "Bony adds weight to Sparta challenge". 2010-11-30. Unknown parameter |Published= ignored (help)
  4. "Cote D'Ivoire Striker Bony Wilfred Joins Vitesse Arnhem - Report". 2011-01-31. Unknown parameter |Published= ignored (help)
  5. "New twist to Andy Carroll's legal battle with agent". 2011-02-02. Unknown parameter |Published= ignored (help)
  6. "Wilfried Bony: Swansea complete club-record £12m signing". 2013-07-11. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Wilfried Bony to Manchester City: Striker joins for reported £28m from Swansea". The Independent. 2015-01-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-22. Cyrchwyd 2015-02-23.



Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.