William Cecil, barwn Burghley | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1520 Bourne |
Bu farw | 4 Awst 1598, 5 Awst 1598 Westminster |
Man preswyl | Burghley House, Cecil House, Theobalds House |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Lord High Treasurer, Secretary of State of England, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Aelod o Senedd Lloegr 1542-44, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the March 1553 Parliament, Member of the 1555 Parliament, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Lord Lieutenant of Essex, Lord Lieutenant of Lincolnshire, Lord Lieutenant of Hertfordshire |
Cyflogwr | |
Tad | Richard Cecil |
Mam | Jane Heckington |
Priod | Mildred Cooke, Mary Cheke |
Plant | Thomas Cecil, Robert Cecil, Anne Cecil, Iarlles Rhydychen, Elizabeth Cecil |
Llinach | ceciliaid Allt-yr-ynys |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
llofnod | |
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Burghley KG PC | |
---|---|
Arglwydd Uwch-Ganghellor | |
Yn ei swydd Gorffennaf 1572 – 4 Awst 1598 | |
Teyrn | Elisabeth I |
Rhagflaenwyd gan | William Paulet, 1st ardalydd Winchester |
Dilynwyd gan | Thomas Sackville, iarll 1af Dorset |
Lord Privy Seal | |
Yn ei swydd 1590–1598 | |
Teyrn | Elisabeth I |
Rhagflaenwyd gan | Sir Francis Walsingham |
Dilynwyd gan | Robert Cecil, iarll 1af Salisbury |
Yn ei swydd 1571–1572 | |
Teyrn | Elisabeth I |
Rhagflaenwyd gan | Syr Nicholas Bacon |
Dilynwyd gan | Arglwydd Howard o Effingham |
Ysgrifennydd Gwladol | |
Yn ei swydd 22 Tachwedd 1558 – 13 Gorffennaf 1572 | |
Teyrn | Elisabeth I |
Rhagflaenwyd gan | John Boxall |
Dilynwyd gan | Thomas Smith |
Yn ei swydd 5 Medi 1550 – 19 Gorff. 1553 | |
Teyrn | Edward VI Jane |
Rhagflaenwyd gan | Nicholas Wotton |
Dilynwyd gan | John Cheke |
Manylion personol | |
Ganwyd | William Cecil 13 Medi 1520[1] Bourne, Swydd Lincoln Lloegr |
Bu farw | 4 Awst 1598 "Cecil House" Westminster, Llundain | (77 oed)
Man gorffwys | Eglwys St Martin, Stamford Stamford, Swydd Lincoln, Swydd Lincoln 52°38′56″N 0°28′39″W / 52.6490°N 0.4774°W |
Priod | Mary Cheke (m. 1543) Mildred Cooke |
Plant | Thomas Francisca Anne William (b-d.1559) William (g-m.1561) Robert Elizabeth |
Rhieni | Richard Cecil Jane Heckington |
Cartref | "Burghley House" "Cecil House" "Theobalds House" |
Uchelwr o Loegr oedd William Cecil, barwn 1af Burghley KG PC (13 Medi 1520 – 4 Awst 1598), a phrif gynghorydd Elisabeth I, brenhines Lloegr, am y rhan fwyaf o'i theyrnasiad. Bu'n Ysgrifennydd Gwladol Lloegr ddwywaith: 1550–53 a 1558–72 ac yn Arglwydd Uwch-Ganghellor o 1572 ymlaen. Derbyniodd nifer o'r deitlau a'r swyddi hyn gan Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd o Sais Albert Pollard: "O 1558 ymlaen am ddeugain mlynedd, mae bywgarffiad Cecil yn debyg iawn i fywgraffiad y Frenhines Elizabeth, ac felly hanes Lloegr".
Ceir digon o brofion o ddiddordeb parhaol yr arglwydd Burghley yn ei gysylltiadau Cymreig. Er enghraifft, bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry, gŵr o Frycheiniog, gael bod yn un o swyddogion tŷ'r dywysoges Elisabeth yn 1560 — daeth Parry yn brif swyddog (‘Comptroller’) y dywysoges; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morys Clynnog a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain (Mai 1567) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael ei hesgymuno o'r eglwys.
Cafodd ddau fab: Thomas a Robert, ac er mai Thomas oedd yr hynaf, nid oedd ganddo ddigon o grebwyll gwleidyddol (yn ôl William) "i reoli cwrt tenis heb sôn am wlad!" Rhoddwyd cartre'r teulu i Thomas, a phwer gwleidyddol i'r mab ieuengaf - Robert. Bu farw ar 4 Awst 1598, a'i gladdu yn Eglwys St Martin, Stamford.