William Lucas Collins | |
---|---|
Ganwyd | 1815 ![]() Oxwich ![]() |
Bedyddiwyd | 23 Mai 1815 ![]() |
Bu farw | 24 Mawrth 1887 ![]() Lowick ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, llenor, cofiannydd, cyfieithydd, diwinydd, ysgolhaig clasurol ![]() |
Plant | William Collins ![]() |
Offeiriad Eglwys Loegr ac awdur o Gymru oedd William Lucas Collins (23 Mai 1815 – 24 Mawrth 1887).[1]
Ganwyd Collins yn Oxwich, Bro Gŵyr yn blentyn i John Collins, rheithor Llanilltud Gŵyr, ac Elizabeth (née Lucas) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd BA yn y clasuron ym 1838 a gydag MA ym 1840.[2]
Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1840 a rhoddwyd iddo fywoliaeth Cheriton, Abertawe yn yr un flwyddyn gan ddal y fywoliaeth hyd 1867. Gwasanaethodd Collins fel curad Great Houghton, Swydd Northampton (1853-1862), lle bu yn gwasanaethu fel yr arolygydd addysg esgobaethol. Ym 1867 rhoddwyd bywoliaeth Kilsby, Swydd Northampton iddo. Cyfnewidiodd bywoliaeth Kilsby am reithoriaeth Lowick, ger Thrapston, Swydd Northampton ym 1873, a ddaliodd ar y cyd â bod yn ficer Slipton o 1876 ymlaen. O 1870 roedd hefyd yn ganon anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Peterborough.[2]
Priododd Anna Frances, merch John Wood, Berthlwyd, Llandeilo, ym 1840. Roedd yr awdur Clifton Wilbraham Collins [3] a'r awdur a chricedwr William Collins [4] yn feibion iddynt.
Yn ogystal â bod yn glerigwr gwledig cafodd Collins yrfa lenyddol, a ddechreuodd yn fuan ar ôl ei ordeinio pan ddaeth yn gyfrannwr rheolaidd i'r Blackwood's Magazine. Roedd ei erthyglau cynnar yn son am fywyd yn y brifysgol, ond daeth i wneud arbenigedd o erthyglau ar yr ysgolion bonedd hynafol. Anogodd John Blackwood, perchennog y cylchgrawn, ef i ddechrau adolygu; ei adolygiadau craff o nofelau George Eliot oedd ei waith mwyaf arwyddocaol.[2]
Bu Collins hefyd yn olygydd cyfres lyfrau lwyddiannus Gwasg Blackwood's, Ancient Classics for English Readers, gan gynnwys bod yn awdur naw cyfrol o'r gyfres. Ym mysg ei gyfraniadau personol i'r gyfres oedd y cyfrolau ar Iliad, Homer (1870) [5] a Thucydides (1878).[6]
Bu farw yn rheithordy Lowick yn 71 mlwydd oed.