William Nathaniel Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 1858 Llandybïe |
Bu farw | 24 Mai 1934 Llanwrtyd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, arwerthwr |
Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Roedd William Nathaniel Jones, (20 Mawrth 1858 - 24 Mai 1934), oedd yn cael ei adnabod gan amlaf fel W. N. Jones yn arwerthwr, swyddog milwrol gwirfoddol ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caerfyrddin rhwng 1928 a 1929. [1]
Ganwyd W N Jones yn nhafarn y Raven Inn, Llandybïe yn fab i William Jones, Arwerthwr ac Elizabeth (née Francis), tafarnwraig, ei ail wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Crist Cwmaman ar 13 Chwefror 1859 [2]. Er iddo gael ei fedyddio yn Eglwys y plwyf roedd yn aelod selog gyda'r Wesleaid, yn bregethwr cynorthwyol i'r enwad ac yn oruchwyliwr cylchdaith Wesleaidd Llandybie. Bu'n un o'r cynrychiolwyr lleyg Cymreig i Gynhadledd Methodistiaid Prydain Fawr ar sawl achlysur [3]
Pan oedd tua 3 mlwydd oed bu farw ei dad, ail briododd ei fam a gŵr o'r enw Thomas Bullen.
Ar ôl cael addysg elfennol leol ymadawodd Jones a'r ysgol pan oedd tua 12 mlwydd oed.
Priododd Jones, ym 1881 a Margaret Jane, merch Thomas Francis, Llandeilo, a bu iddynt ddau fab a merch a oroesodd a dau blentyn arall a fu farw yn eu plentyndod. [4]
Wedi ymadael a'r ysgol cafodd Jones ei swydd gyntaf fel bachgen y post yng ngwaith tunplat yn Llansawel. Ar ôl hynny bu'n gweithio am gyfnod i gwmni rheilffordd y Great Western. Pan fu farw tad Jones ym 1861 aeth ei fusnes arwerthu i'w fab hynaf Herbert Nathaniel Jones(1837-1880), hanner brawd William Nathaniel. Pan fu farw Herbert ym 1880 etifeddodd William y busnes.
Daeth yn arwerthwr llwyddiannus iawn, o'r elw cafodd o'i fusnes arwerthu buddsoddodd yng ngwaith tunplat Tir-y-dail, agorodd pwll glo Tir-y-dail a phrynodd gwaith dur Birchgrove Abertawe.[6] Bu'n sefydlydd a chyfarwyddwr gwaith nwy Rhydaman. Daeth yn hynod gyfoethog![7]
Chwaraeodd Jones ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Roedd yn Ynad Heddwch,[8] roedd yn Lefftenant-cyrnol ym Mataliwn Gwirfoddolwyr Sir Gaerfyrddin [9], roedd yn aelod o fyrddau llywodraethol nifer o sefydliadau addysg gan gynnwys Ysgol, Llandybïe, Ysgol Ganolradd, Llandeilo a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. [3]. Roedd yn aelod o fwrdd carthffosiaeth Dyffryn Aman, [10] yn gadeirydd ysbyty iechyd meddwl Sir Gaerfyrddin ac yn aelod o bwyllgor tloty'r sir.
Bu'n aelod o Gyngor Trefol Dyffryn Aman ac yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin o'i sefydlu hyd ei farwolaeth, gan wasanaethu fel ei gadeirydd ym 1897. Gan fod 1897 yn flwyddyn jiwbilî diemwnt y Frenhines Fictoria gafodd Jones gynrychioli'r sir yn y dathliadau ym Mhalas Buckingham.[3] Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1924.[11]
Ym 1926, ymunodd Syr Alfred Mond,[12] AS Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin, a'r Blaid Geidwadol. Dewiswyd Jones i fod yr ymgeisydd Rhyddfrydol i'w herio yn yr etholiad Cyffredinol nesaf. Beth bynnag, ni fu'n rhaid i Jones aros tan yr etholiad cyffredinol nesaf gan fod Mond wedi ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1928 gan achosi isetholiad yng Nghaerfyrddin. Llwyddodd Jones i gadw'r sedd i'w blaid o drwch y blewyn. Dim ond 47 pleidlais oedd rhyngddo ef a'r ymgeisydd Lafur Daniel Hopkin.
Isetholiad Caerfyrddin 1928
Nifer y pleidleiswyr 37,482 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | William Nathaniel Jones | 10,201 | 35.5 | ||
Llafur | Daniel Hopkin | 10,154 | 35.4 | ||
Ceidwadwyr | Syr Courtenay Cecil Mansel | 8,361 | 29.1 | ||
Mwyafrif | 47 | 0.1 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 30,316 | 76.6 | |||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Yn etholiad cyffredinol 1929 bu Hopkin a'r Blaid Lafur yn fuddugol a chollodd Jones ei sedd ar ôl dim ond blwyddyn o wasanaeth fel Aelod Seneddol.
Bu farw yn sydyn wrth fynd i dal trên yn Llanwrtyd yn 76 mlwydd oed. [13] Claddwyd ei weddillion ym mynwent plwyf Llandybïe.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Alfred Mond |
Aelod Seneddol | Olynydd: Daniel Hopkin |