William Rathbone VI | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1819 Lerpwl |
Bu farw | 6 Mawrth 1902 Lerpwl |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William Rathbone |
Plant | Eleanor Rathbone |
Roedd William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[1] Roedd y ffeminist Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 – 2 Ionawr 1946) yn ferch iddo.
Ganwyd William Rathbone yn Lerpwl yn fab i William Rathbone ac Elizabeth (née Greg) ei wraig. Roedd teulu Rathbone wedi bod yn un ddylynwladol yn natblygiad dinas Lerpwl ers dechrau'r 18g.[2]
Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yn Gateacre, Cheam ac Everton, cyn mynd yn brentis i gwmni marsiandwyr rhyngwladol Nicol, Duckworth & Co yn Lerpwl rhwng 1835 ac 1838. Wedi gorffen ei brentisiaeth aeth i astudio am dymor ym Mhrifysgol Heidelberg. O Heidelberg aeth ar daith trwy'r Eidal ym 1839.
Fe ymbriododd dwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Lucretia Wainwright Gair o Lerpwl. Bu iddynt bump o blant ond bu hi farw o gymhlethdodau esgor yn fuan wedi genedigaeth y pumed plentyn. Ei ail wraig oedd Esther Emily Acheson Lyle (bu farw 1918), merch Acheson Lyle o Derry; bu iddynt chwech o blant.
Ym 1840 aeth Rathbone i weithio fel clerc ym manc masnachol Baring Brothers. Ym mis Ebrill 1841 aeth ar daith fusnes i'r Unol Daleithiau ar ran y banc, cafodd y daith dylanwad mawr ar ei syniadaeth wleidyddol gan ei wneud yn rhydd masnachwr digyfaddawd. Ar ddiwedd 1841 daeth yn bartner yng nghwmni ei deulu Rathbone Brothers & Co gan barhau yn bartner hyd 1885.
Mae William Rathbone yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad i ddatblygu gwasanaethau nyrsio ardal yng Nghymru a Lloegr ac am ei gyfraniad i sefydliadau addysgol.
Pan oedd ei wraig gyntaf, Lucretia, ar ei gwely angau ym 1859 cafodd safon y gofal yr oedd hi'n derbyn gan Mary Robinson, ei nyrs, argraff fawr ar feddwl Rathbone. Roedd am sicrhau bod y fath gofal ar gael i bawb oedd ei angen. Mewn cydweithrediad a Florence Nightingale sefydlodd y Liverpool Training School and Home for Nurses ym 1860 i hyfforddi merched ar gyfer wasanaethu fel nyrsiaid ardal; lledaenodd ei ddulliau o hyfforddi a darparu gofal i ddinasoedd mawr eraill megis Manceinion a Birmingham ac erbyn 1874 i Lundain, lle sefydlwyd y Cymdeithas Genedlaethol ar gyfer darparu Nyrsiaid Hyfforddedig.
Ym 1887 bu Rathbone yn allweddol wrth sefydlu Sefydliad Jiwbilî'r Frenhines Victoria ar gyfer Nyrsiaid a ddaeth wedi hynny yn Sefydliad Nyrsio'r Frenhines, sy'n parhau o hyd. O'r 1860au bu Rathbone yn ymgyrchydd brwd dros wella safon nyrsio mewn tlotai.
Fe fu William Rathbone yn flaengar yn yr ymdrechion i sefydlu Coleg Prifysgol Lerpwl (a agorwyd yn Ionawr 1882), sefydlodd ar y cyd a dau o'i frodyr Cadair y Brenin Alfred mewn llenyddiaeth fodern ac iaith Saesneg; ef oedd llywydd y coleg o 1892. Roedd yn weithgar iawn hefyd yn y mudiad i sefydlu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (a agorwyd Hydref 1884), a bu'n llywydd o 1891. Cymerodd diddordeb byw mewn sicrhau llwyddiant seneddol i Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889.[3]
Rhoddwyd Rhyddid Dinas Lerpwl iddo ym 1891, a derbyniodd gardd LL.D er anrhydedd ym 1895 gan Brifysgol Victoria.
Ym mis Tachwedd 1868 cafodd Rathbone ei ethol fel un o'r tri aelod dros Lerpwl, bu'n AS ar gyfer yr etholaeth hyd 1880. Penderfynodd sefyll dros yr etholaeth dde-orllewin Swydd Gaerhirfryn yn etholiad cyffredinol 1880 ond heb lwyddiant. Cafodd ei ddychwelyd yn y mis Tachwedd dilynol mewn is etholiad ar gyfer Sir Gaernarfon gan gynrychioli’r sedd hyd ei ddiddymiad ym 1885. Ym 1885 daeth yn aelod Rhyddfrydol dros etholaeth Arfon gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1895.[4]
Bu farw yn Greenbank, Lerpwl, ar 6 Mawrth 1902 a chladdwyd ef ym mynwent Toxteth.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Berry Horsfall Samuel Robert Graves |
Aelod Seneddol Dinas Lerpwl 1868 – 1880 |
Olynydd: Edward Whitley Dudley Ryder John Ramsay |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Watkin Williams |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1880 – 1885 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Arfon 1885 – 1895 |
Olynydd: Griffith Caradoc Rees |