![]() | |
Enghraifft o: | papur wythnosol, papur newydd ![]() |
---|---|
Golygydd | Thomas Gee ![]() |
Cyhoeddwr | Thomas Gee ![]() |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Mawrth 1857 ![]() |
Cysylltir gyda | Mathonwy Hughes, Emyr Price, Gwilym R. Jones ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1857 ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Dinbych ![]() |
Perchennog | Thomas Gee ![]() |
Lleoliad yr archif | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein, British Newspaper Archive ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Rhagflaenydd | Yr Amserau ![]() |
Papur newydd wythnosol, rhyddfrydol Cymraeg a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, Amserau Cymru a gyhoeddwyd yn Lerpwl, yn 1859 gan y cyhoeddwyr Gwasg Gee i greu Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.
Daeth Baner ac Amserau Cymru yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.
Y llenor T. Gwynn Jones oedd is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[1]
Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[2] cyn ei ail-fedyddio'n Y Faner Newydd tua 1997.[3]