![]() | |
Math | ynys, atyniad twristaidd, Cofeb Genedlaethol yr Unol Daleithiau ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | UTC−05:00, UTC−04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Heneb Cerflun Rhyddid ![]() |
Sir | New Jersey, Manhattan, Hudson County ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1.5 acre, 27.5 acre ![]() |
Uwch y môr | 2 metr ![]() |
Gerllaw | Bae Efrog Newydd Uchaf ![]() |
Cyfesurynnau | 40.6994°N 74.0397°W ![]() |
Rheolir gan | National Park Service ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site, America's Most Endangered Historic Places, America's Most Endangered Historic Places ![]() |
Manylion | |
Ynys fechan ym mae Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Ynys Ellis. Fe'i enwyd ar ôl y Cymro Samuel Ellis.[1]
Gwasanethai Ynys Ellis fel canolfan i "brosesu" mewnfudwyr i'r Unol Daleithiau ar ddiwedd y 19g a degawdau cyntaf yr 20g. Arwynebedd yr ynys ydy 27.5 erw (11.1 ha).
Ganwyd Samuel Ellis yn Wrecsam yn 1712. Priododd Anne Evans yn 1734 cyn symud i ardal Manhatthan, Efrog Newydd. Roedd Ellis yn gweithio fel masnachwr yn Efrog Newydd adeg Chwyldro America. Prynodd yr ynys yn 1774.
Ynys y Cimychiaid neu Oyster Island oedd enw'r ynys ar y pryd. Defnyddiwyd yr ynys gan bysgotwyr, yn enwedig i ddal cimychiaid. Adeiladodd Ellis dafarn ar gyfer y pysgotwyr. Bu farw Ellis yn 1794 ac ei ddymuniad oedd pasio perchnogaeth yr ynys i'w ŵyr cyntaf, plentyn ei ferch Catherine Westervelt, a'i enw fyddai Samuel Ellis. Yn anffodus bu farw'r plentyn yn ifanc iawn a daeth yr ynys wedyn yn ôl i feddiant Catherine. Ceisiodd Catherine werthu yr ynys ond nid oedd diddordeb, felly arhosodd yn y teulu.
Yn 1808 fe brynwyd yr ynys gan Lywodraeth America am $10,000. O fewn dwy flynedd fe'i drawsnewidiwyd yn amddiffynfa filwrol oedd yn cynhyrchu arfau.
Erbyn 1892, ddaeth yr ynys yn fynedfa i fewnfudwyr a symudai i America i gael bywyd newydd.