Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2.92 km² |
Gerllaw | Sianel San Siôr |
Cyfesurynnau | 51.7375°N 5.295°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Ynys Sgomer[1] (Hen Norseg a Saesneg: Skomer) yn ynys tua thri chilometr sgwâr oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man nythu i nifer fawr o adar y môr, ac mae yn warchodfa rheolwyd gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ac yn eiddo i Cyngor Cefn Gwlad Cymru.[2]
Ymhlith y pwysicaf o'r rhain mae Aderyn drycin Manaw; credir fod tua 250,000 o barau yn nythu ar Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm gerllaw, tua hanner poblogaeth y byd. Ni welwch Adar drycin Manaw yn ystod y dydd; maent yn dychweyd o’r m Môr gyda’r nos ac yn mynd yn ôl cyn y bore er mwyn osgoi’r gwylanod cefnddu. Mae hefyd tua 10,000 o barau o'r Pâl yn nythu ar Sgomer a Sgogwm rhwng Ebrill a Gorffennaf, a niferoedd sylweddol o nifer o rywogaethau eraill, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion, morloi llwydion, llursod, mulfrain, Adar drycin y graig, Hwyaid gwylltion, hwyaid llydanbig, hwyaid yr eithin, Adar drycin, ieir ddŵr, Pibyddion y mawn, Pibyddion y coed, gylfinirod, piod y môr, tylluanod clystog, gwylanod coesddu, cogau, telorion y gors, tingochiaid du, creciau’r eithin, gwybedogion brith, llinosod pengoch, brain coesgoch a chwningod. Yn ogystal â glöynod byw, mae gwyfynnod sinabar a gwyfynnod byrned. Mae Clychau’r gog yn ystod y gwanwyn a Gludlys yn yr haf. Mae Clustog Fair yn gyffredin.[3]
Mae hefyd un mamal unigryw ar yr ynys, y llygoden bengron Sgomer (Myodes glareolus skomerensis). Mae gwardeiniaid yno yn yr haf, ond nid oes poblogaeth barhaol wedi bod yno ers 1958. Gellir gweld olion hen dai a chylch cerrig ar yr ynys.
Mae canolfan ymwelwyr ar yr ynys, gyda llety i’r rhai sydd yn aros dros nos. Mae fferi’n dod o Martin’s Haven sawl gwaith bob dydd, heblaw am dydd Llun, os bydd y tywydd yn ei chaniatáu.[2]