Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf | |
---|---|
Arwyddair | Coron Gwlad Ei Mamiaith |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr. Matthew Evans |
Lleoliad | Heol y Bont, Ystum Taf, Caerdydd, Cymru, CF14 2JL |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1,132 (2017) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas golau a thywyll |
Gwefan | www.glantaf.cymru |
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.
Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Bu Mr Huw Thomas, Mrs Rhiannon Mary Lloyd a Mr Alun Davies yn brifathrawon yn yr ysgol. Y Pennaeth presennol yw Mr. Matthew Evans a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2020 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.[1]
Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd fel yr agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ym mis Medi 2012, a gartrefwyd ar ran o safle Glantaf dros dro, cyn symud i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhenylan ym mis Medi 2013.[2]
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.
Dyma ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol: