Zephaniah Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1795 Argoed |
Bu farw | 8 Mai 1874 Launceston |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | glöwr |
Un o arweinwyr Terfysg Casnewydd yn 1839 oedd Zephaniah Williams (1795 - 8 Mai 1874). Yn enedigol o Argoed, Sir Fynwy. Cafodd peth addysg a hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn Nantyglo.
Dyn annibynnol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y siartwyr yn Ne Cymru.
Arweiniodd torf o ddynion o ardal Nantyglo i lawr i Gasnewydd, ac at Westy'r Westgate ble roedd rhai o hoelion wyth y siartwyr wedi eu dal gan dros 30 o filwyr. Ei gyd-arweinwyr oedd John Frost a William Jones (Siartydd). Yn ôl rhai haneswyr, dyma'r gwrthryfel mwyaf a chryfaf yng ngwledydd Prydain yn y 19g.[1].
Cafodd ef a'r ddau arweinydd arall eu dedfrydu i'w crogi a'i chwarteru ar 16eg o Ionawr 1840, ond ar ôl protest gryf iawn, newidiwyd hyn i alltudiaeth i Van Diemen's Land (Tasmania, heddiw) yn Awstralia.
Ar un cyfnod, gwyddom iddo gynllunio i ddianc o'r cyfandir ond cafodd bardwn amodol yn 1854 yn gadael iddo fyw unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Penderfynodd aros yn Tasmania a daeth ei wraig a'i blant i fyw gyda fe. Wrth ddarganfod glo a'i fwyngloddio gwnaeth ffortiwn wrth sefydlu masnach lo Tasmania.
Bu farw'n ŵr cefnog iawn yn Launceston, Tasmania ym Mai, 1874.