Aelod o Sejm Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Member of the Sejm of the Polish People's Republic
Adnabyddus am
Medallions
Tad
Wacław Nałkowski
Gwobr/au
Medal y 10fed canmlwyddiant pobol y Pwyl, Palmwydd Aur Polònia, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Gorchymyn Baner Lafur Dosbarth Cyntaf, Croes Aur am Deilyngdod, City of Łódź Award
llofnod
Awdures doreithiog Pwylaidd oedd Zofia Nałkowska (10 Tachwedd1884 - 17 Rhagfyr1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, dyddiadurwr, newyddiadurwr, bardd ac awdur ysgrifau. Gwasanaethodd fel aelod o Academi Llên Bwylaidd (1933-1939) yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Fe'i claddwyd ym Mynwent Filwrol Powązki, Warsaw.
Fe'i ganed yn Warsaw ar 10 Tachwedd1884 i deulu deallusol a oedd yn ymwneud â materion fel cyfiawnder cymdeithasol. Astudiodd yn y Uniwersytet Latający, sef prifysgol tanddaearol, answyddogol yn y cyfnod pan oedd Rwsia wed goresgyn y wlad. Wedi i Wlad Pwyl ddychwelyn yn wladwriaeth annibynnol, fe'i cydnabuwyd fel un o awduron benywaidd gorau'r wlad.[1][2][3][4][5][6]
Llwyddiant llenyddol cyntaf Nałkowska oedd Romans Teresy Hennert (Rhamant Teresy Hennert) (1923) a dilynwyd hyn gan sawl nofel boblogaidd: Medallions, Granica (1935), Węzły życia (1948) a Medaliony (1947).
Yn ei gwaith, aeth Nałkowska i'r afael â phynciau anodd, dadleuol a beiddgar.
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y 10fed canmlwyddiant pobol y Pwyl, Palmwydd Aur Polònia, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Cadlywydd gyda Seren Urdd Polonia Restituta, Swyddog yn Urdd y Polonia Restituta, Gorchymyn Baner Lafur Dosbarth Cyntaf, Croes Aur am Deilyngdod, City of Łódź Award .
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014