Ángel Rama | |
---|---|
Ganwyd | Ángel Antonio Rama Facal 30 Ebrill 1926, 2 Mai 1926 Montevideo |
Bu farw | 27 Tachwedd 1983 Mejorada del Campo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, academydd, beirniad llenyddol, Rhufeinydd, actor |
Priod | Ida Vitale |
Plant | Claudio Rama Vitale |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Bardd, dramodydd, a nofelydd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Ángel Rama (30 Ebrill 1926 – 27 Tachwedd 1983) sy'n nodedig fel un o brif ddeallusion a beirniaid diwylliannol America Ladin yn yr 20g.
Ganed ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, i fewnfudwyr o Sbaen. Astudiodd y dyniaethau yn Mhrifysgol y Weriniaeth ac yn 1945 dechreuodd weithio i Agence France-Presse. Cychwynnodd ar ei yrfa lenyddol yn ysgrifennu cerddi, dramâu, a nofelau, a fe'i cydnabyddir yn aelod blaenllaw o La Generación del 45. Sefydlodd Rama a Carlos Maggi y cwmni cyhoeddi Fábula yn 1950, a chyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf dan enw'r wasg honno. Priododd â'r bardd Ida Vitale yn 1950. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y gyfres o lyfrau Biblioteca Artigas o 1951 i 1958, ac yn y swydd honno golygydd 28 cyfrol yn y casgliad Clásicos Uruguayos. Rheolodd y cyfnodolyn Entregas de la Licorne o 1953 i 1956, a chyfrannodd yn aml at y papur newydd El País a'r cylchgrawn dylanwadol Marcha nes i unbennaeth Wrwgwái ei derfynu yn 1974.[1]
Yn 1962, sefydlodd Ángel Rama a'i frawd Germán y cwmni cyhoeddi Arca. Gweithiodd yn Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái o 1949 i 1965, ac addysgodd mewn ysgol uwchradd, yn yr Instituto de Profesores Artigas, ac ym Mhrifysgol y Weriniaeth o 1966 i 1974. Roedd yn aelod o fwrdd golygyddol Casa de las Américas (Ciwba) o 1964 i 1971, pryd ymddiswyddodd mewn ymateb i erledigaeth wleidyddol y bardd Heberto Padilla. Yn sgil ei ysgariad oddi ar Vitale, priododd Rama â'r beirniad celf Marta Traba yn 1969 a symudasant i ynys Puerto Rico. Aethant i Caracas, Feneswela, yn 1974 ac yno sefydlodd y fenter gyhoeddi Biblioteca Ayacucho.[1] Bu'n olygydd cyffredinol ar lyfrau Biblioteca Ayacucho, yn olygydd y cylchgrawn llenyddol Escritura, ac yn academydd ym Mhrifysgol Ganolog Feneswela.
Symudodd yn ddiweddarach i Unol Daleithiau America a fe'i penodwyd yn athro ym Mhrifysgol Maryland yn 1981.[1] Bu'n rhaid iddo adael yr Unol Daleithiau wedi i'r Adran Wladol amau ei fod yn gomiwnydd.[2] Treuliodd diwedd ei oes yn Ewrop, a bu farw mewn damwain awyren ym Madrid, Sbaen, yn 57 oed, yn yr un drychineb a laddodd ei wraig Marta a'r llenorion Jorge Ibargüengoitia o Fecsico a Manuel Scorza o Beriw.