Alexei Shirov | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1972 Riga |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Latfia |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll, awdur ffeithiol |
Priod | Viktorija Čmilytė-Nielsen |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Hamburger SK |
Gwlad chwaraeon | Yr Undeb Sofietaidd, Sbaen, Latfia, Rwsia, Sbaen |
Mae Alexei Shirov (Rwseg: Алексе́й Дми́триевич Ши́ров â aned ar 4 Gorffennaf 1972) yn chwaraewr gwyddbwyll o Latfia a Sbaen. Yn 1994 roedd Shirov yr ail chwaraewr gorau yn y byd.[1]
Enillodd ornest yn erbyn Vladimir Kramnik ym 1998 i gymhwyso i chwarae am bencampwriaeth y byd yn erbyn Garry Kasparov, ond ni chwaraewyd y gêm oherwydd diffyg nawdd.
Daeth Shirov yn brencampwr dan-16 y byd yn ym 1988 a daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Iau y Byd ym 1990 (yn ail ar ol gemau ail-gyfle cyfartal gyda Ilya Gurevich). Yn yr un flwyddyn, enillodd y teitl Uwchfeistr. Mae Shirov wedi ennill nifer o dwrnameintiau rhyngwladol: Biel 1991, Madrid 1997 (rhannu'r lle cyntaf gyda Veselin Topolov), Ter Apel 1997, Monte Carlo 1998, Merida 2000,Twrnamaint Cyflym Er Cof am Paul Keres yn Tallinn (2004, 2005, 2011, [2] 2012, [3] 2013), [4]Pencampwriaeth Agored Canada 2005.
Cyrhaeddodd yr ail safle ar restr graddio FIDE ym mis Ionawr a mis Gorffennaf 1994, y tu ôl i Anotoly Karpov, er fod Garry Kasparov wedi'i eithrio o'r rhestrau hynny ac 'roedd ganddo ef radd uwch. Ym 1998, cododd safle Shirov eto, i rif pedwar yn rhestr graddio y PCA. Ar sail y raddfa hon, fe'i gwahoddwyd i chwarae gornest deg gêm yn erbyn Vladimir Kramnik i ddewis heriwr ar gyfer Pencampwr y Byd y PCA Garry Kasparov. Enilloddd Shirov yr ornest gyda dwy fuddugoliaeth, dim colled a saith gêm gyfartal.[5] Fodd bynnag, ni chynhaliwyd yr ornest hon am na ellid dod o hyd i ddigon o noddwyr ariannol.. Pan chwaraeodd Kaparov Kramnik am Bencampwriaeth y Byd yn 2000, haerodd Shirov fod y gêm yn annilys gan mai ef oedd yr heriwr cywir.[6]
Yn 2000, cyrhaeddodd Shirov rownd derfynol Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd FIDE, pan gollodd 3½–½ i Viswanathan Anand.
Yn 2002, chwaraeodd yn Nhwrnamaint yr Ymgeiswyr i ddewis heriwr ar gyfer Pencampwr y Byd Kramnik. Enillodd ei grŵp o bedwar, ond collodd ei rownd gyn derfynol 2½–½ i’r enillydd terfynol Peter Leko.
Rhwng Mai-Mehefin 2007 chwaraeodd yn Nhwrnamaint Ymgeiswyr Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 2007. Enillodd ei gêm rownd gyntaf yn erbyn Michael Adams (+1−1=4, pan enillodd yn y gemau ail gyfle), ond cafodd ei drechu pan gollodd ei gêm ail rownd i Levon Aronian (+0−1=5). Hyd at 2021 dyma ymddangosiad olaf Shirov mewn Twrnamaint Ymgeiswyr.
Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2007 chwaraeodd Shirov yng Nghwpan Gwyddbwyll y Byd 2007, oedd yn ornest rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd 2010. Cyrhaeddodd y rownd derfynol, ond collodd y rownd honno 2½–1½ i Gata Kamsky.
Ym Mai 2009, enillodd Alexei Shirov yr M-Tel 2009, Twrnamaint Categori 21 y a gynhaliwyd yn Sofio, Bwlgaria .
Ym Medi 2010, cymerodd Shirov ran yn nhwrnamaint rhagarweiniol y Gamp Lawn y Meistri Gwyddbwyll yn Shanghai, lle bu'n erbyn y pedwerydd yn netholion y byd Levon Aronian, y pymed Vladimir Kramnik, a Wang Hao, lle'r oedd y ddau uchaf yn cymhwyso ar gyfer yr uwch dwrnamaint terfynol i'r Gamp Lawn o 9fed i'r 15fed o Hydref yn Bilbao yn erbyn Rhif 1 y byd Magnus Carlsen a Phencampwr y Byd Viswanathan Anand.[7] Ar ôl gemau cyfartal yn ei ddwy gêm gyntaf, enillodd Shirov dair gêm yn olynol, gan gynnwys ei fuddugoliaeth gyntaf dros Kramnik ers 2003.[8] Gan orffen gyda 4½/6 phwynt, enillodd Shirov y twrnamaint, gan gymhwyso ynghyd â Kramnik ar gyfer rownd derfynol y Gamp Lawn.[9]
Ym mis Mai 2011, enillodd Shirov dwrnamaint cryf yn Lublin, Gwlad Pwyl, 3ydd Cofeb Undeb Lubin 2011 gyda sgôr o 5/7. Ym mis Rhagfyr 2011, newidiodd ffederasiynau yn ôl o Sbaen i Latfia.[10]
Ym mis Chwefror 2012, enillodd Shirov Dwrnamaint Gofeb Vivars Giplis yn Riga gydag 8 pwynt allan o 9.[11] Ym mis Mehefin 2012 enillodd Shirov Dwrnamaint Meistri Buenos Aires (categori 13) gyda 5½/7.
Ym mis Awst 2013, chwaraeodd yng Nghwpan y Byd Gwyddbwyll. Enillodd ei gêm rownd gyntaf yn erbyn Hou Yifan, [12] ond collodd ei gêm ail rownd i Wei Yi. Ym mis Awst 2015, enillodd Shirov y 5ed Twrnamaint Agored Prifysgol Dechregol Riga gan orffen ar y blaen i Robert Hovhannisyan er i'r ddau chwaraewr orffen ar 7½/9.[13] Ym mis Mawrth 2017, enillodd Shirov dwrnamaint blitz Er Cof am Mikhail Tal yn Jurmala gan sgorio 9½/11 pwynt.[14]
Ym 2018 a 2019, enillodd y 5ed a'r 6ed Twrnamaint Agored yn Arica.[15]
Ym mis Medi 2020, yn ystod Olympiad Ar-lein 2000 FIDE, enillodd Shirov Wobr Gem Nodedig Gazprom am ei fuddugoliaeth fel Du yn erbyn Danyyil Dvirnyy yn yr Amddiffyniad Slafaidd, gan aberthu'i frenhines mewn ymosodiad ar ochr y frenhines, a gorffennodd gyda sgôr o 13/15 ( +12−1=2) wrth chwarae i dîm Sbaen.[16]
Ym mis Chwefror 2021, enillodd Shirov 3ydd Gŵyl Gwyddbwyll Salamanca gyda sgôr o 6/7.[17]
Rhwng Chwefror a Mawrth 2022, chwaraeodd Shirov yng Ngrand Prix FIDE 2022. Yn y cymal cyntaf, gorffennodd yn bedwerydd ym Mhwll D gan orffen efo 1.5/6. Yn yr ail gymal, 'roeddd yn gyfartal drydydd gyda Vladimir Fedoseev gan orffen efo 2.5/6, a gorffen yn olaf.
Mae Shirov o dras Rwsiaidd. Ym 1994 priododd ag Archentwraig, Verónica Alvarez, symudodd i Tarragona, a daeth yn ddinesydd Sbaen. Roedd yn briod â Viktorija Čmilytė o Lithiwania, sydd hefyd yn Uwchfeistr gwyddbwyll, o 2001 i 2007.[18] Ychydig cyn twrnamaint Shanghai yn 2010, priododd Shirov am y trydydd tro gyda Olga Dolgova.[19] Ar y pryd roedd yn dal i chwarae i Sbaen, ond roedd ganddo ef a'i wraig fflat yn Riga, Latfia.
Mae Shirov yn nodedig am ei arddull ymosodol, sydd wedi arwain at gymariaethau â chyn bencampwr y byd, Mikhail Tal oedd hefyd o Latfia. Bu'n astudio gyda Tal pan oedd yn ifanc.
Nodyn:Chess diagram smallYn ystod Twrnamaint Linares 1998 chwaraeoddd Shirov gyda du yn erbyn Veselin Topolov (â ddaeth yn Bencampwr Fide y Byd yn ddiweddarach) a bu'n fuddugol wrth aberthu ei esgob mewn diweddglo gyda esgob a gwerin:
Mae aberth esgob Shirov (47. . . Eh3!!) yn cael ei ystyried yn un o'r symudiadau gwyddbwyll gorau erioed.[21]