Crëwyd Barwniaeth Niwbwrch ddwywaith ym Mhendefigaeth Iwerddon, mae'r ddau deitl yn dal i fodoli. Fe'i crëwyd y tro cyntaf 1716 ar gyfer George Cholmondeley, 2il Iarll Cholmondeley yn ddiweddarach. Mae'r Ieirll, ac yn ddiweddarach, yr Ardalyddion, o Cholmondeley yn dal i ddal y Barwniaeth o Niwbwrch, Ynys Môn (gweler Ardalyddiaeth Cholmondeley).
Crëwyd yr ail farwniaeth yn 1776 ar gyfer Syr Thomas Wynn, 3ydd Barwnig Bodfean. Cynrychiolodd ef Sir Gaernarfon, St Ives a Biwmares yn y Tŷ Cyffredin a gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon. Cynyrchiolodd ei fab hynaf, yr ail Farwn, Sir Gaernarfon yn y Senedd. Olynwyd ef gan ei frawd ieuengaf, y trydydd Barwn. Deilir y teitlau gan hen-hen-wyr y trydydd Barwn, sef yr wythfed Barwn ers 2006.
Crëwyd Barwnigaeth Bodfean ger Llanfwrog yn Sir Gaernarfon (Ynys Môn) ym Marwnigaeth Prydain Fawr ar 25 Hydref, 1742 ar gyfer hen-daid y Barwn cyntaf, Thomas Wynn. Cynrychiolodd Sir Gaernarfon yn y Tŷ Cyffredin a bu hefyd yn swyddog yn y llys. Cynrychiolodd ei fab, yr ail Farwnig Caernarfon a Sir Gaernarfon yn y Senedd. Olynwyd ef gan ei fab, y trydydd Barwnig, a gafodd ei wneud yn Farwn 1af Niwbwrch yn 1776.
Hyd 30 Mehefin 2006, nid yw deiliwr presennol y Barwniaeth wedi profi ei olyniad i'r farwnigaeth yn swyddogol ac felly, nid yw ar Gofrestr Swyddogol y Barwnigaeth. Mae hyn o dan arolygiad gan Gofrestrydd y Barwnigaeth.[1]