Beirdd y Llynnoedd

Beirdd y Llynnoedd
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Grŵp o feirdd Saesneg a oedd yn weithgar yn hanner cyntaf y 19g oedd Beirdd y Llynnoedd (Saesneg: Lake Poets). Roeddent yn aelodau pwysig o'r Mudiad Rhamantaidd mewn llenyddiaeth Saesneg. Rhoddwyd yr enw i'r grŵp gan y cylchgrawn The Edinburgh Review yn 1817 oherwydd ei gysylltiad ag Ardal y Llynnoedd, yng ngogledd Lloegr, lle'r oedd nifer ohonynt yn byw.

Y tri aelod mwyaf nodedig y grŵp oedd William Wordsworth, Samuel Taylor Coleridge, a Robert Southey. Roeddent yn gysylltiedig â nifer o feirdd ac awduron eraill, gan gynnwys Dorothy Wordsworth, Charles Lamb, Mary Lamb, Charles Lloyd, Hartley Coleridge, John Wilson, a Thomas De Quincey.

Dove Cottage, Grasmere, Ardal y Llynnoedd, cartref William and Dorothy Wordsworth, 1799–1808, a chartref Thomas De Quincey, 1809–1820