Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Caneris, Cofis | ||
Sefydlwyd | 1937 | ||
Maes | Yr Ofal (Dal 600 sedd) | ||
Cadeirydd | Paul Evans | ||
Rheolwr | Richard Davies (ei llysenw yw "Fish") | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 5. | ||
|
Clwb pêl-droed o dref Caernarfon, Gwynedd ydy Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon (Saesneg: Caernarfon Town Football Club) sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, sef prif adran bêl-droed Cymru.
Roedd clwb pêl-droed yn bodoli yng Nghaernarfon yn nyddiau cynnar y gamp yng Nghymru a chwaraeodd clwb o dref Caernarfon yn rownd gyntaf cystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877 gan golli yn erbyn clwb o Fangor ac ym 1888, clwb o Gaernarfon oedd y clwb Cymreig cyntaf i gystadlu yng Nghwpan FA Lloegr pan gollodd Caernarvon Wanderers 1-10 yn erbyn Dinas Stoke[1].
Llwyddodd clwb Carnarvon Ironopolis, oedd yn chwarae yng Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru[2] i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru ym 1900[3] ac ym 1902[4].
Yn dilyn ffrae gyda'r gynghrair, aeth Ironoplois i'r wal ym 1903 gyda rhai o'r chwaraewyr yn sefydlu clwb Carnarvon Colts gydag eraill yn ymuno â Carnarvon RWF (Royal Welsh Fusiliers)[5]. Roedd y ddau glwb yn chwarae yng Cynghrair Sir Caernarfon a'r Cylch|Nghynghrair Sir Caernarfon a'r Cylch ac yn chwarae eu gemau cartref ar yr Oval[6].
Ym 1906 unodd y clybiau er mwyn ffurfio Carnarvon United.
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfiwyd Carnarvon Athletic fel tîm proffesiynol a llwyddodd y clwb i ennill Cynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1926-27 a 1929-30[5] a chyrraedd Ail Rownd Cwpan FA Lloegr ym 1929-30 cyn colli ar ôl gêm ail gyfle yn erbyn Bournemouth[1] ond erbyn 1930 roedd y clwb wedi mynd i'r wal[5].
Cafodd y clwb presennol, ei ffurfio ym 1937 gan grŵp o gefnogwyr pêl-droed oedd am weld clwb yn dychwelyd i'r dref a cafodd y clwb newydd ei le yng Cynghrair Cymru (Y Gogledd)[7]. Ar ôl ennill y Gynghrair ym 1977-78[8] a 1978-79[9] cafodd y clwb ganiatad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ymuno â Chynghrair Sir Gaerhirfryn ym 1980-81[10].
Ar ôl ennill Cynghrair Sir Gaerhirfryn ym 1981-82 cafodd Caernarfon eu hethol yn aelodau o Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr ar gyfer tymor 1984-85 gan ymuno â Bangor a'r Rhyl fel cynrychiolwyr Cymreig yn y Gynghrair[11]. Ym 1986-87 gorffennodd Caernarfon yn drydydd yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr[11] yn ogystal â chyrraedd Trydedd Rownd Cwpan FA Lloegr gyda buddugoliaethau dros Sir Stockport a Chaerfrog cyn colli yn erbyn Barnsley mewn gêm ail chwarae[5].
Wedi sefydlu Cynghrair Cymru ym 1992 ceisodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru orfodi'r clybiau oedd yn chwarae yng Nghynghreiriau Lloegr i ddychwelyd i Gymru[12]. Gwrthododd Caernarfon, ynghyd â Bae Colwyn, Bangor, Casnewydd, Tref Merthyr, Y Barri, Y Drenewydd ac Y Rhyl gan apelio yn erbyn y penderfyniad.
Yn dilyn yr apêl ym mis Chwefror 1992, cafodd Tref Merthyr yr hawl i barhau yng nghynghreiriau Lloegr gan eu bod un rheng yn is na'r Gynghrair Bêl-droed ond gwrthodwyd yr hawl i'r saith clwb arall rhag chwarae gemau yng nghynghreiriau Lloegr yng Nghymru[12][13]. Penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ddychwelyd i Gymru[12] ond penderfynodd Caernarfon symud i chwarae eu gemau cartref 105 o filltiroedd o'r dref yn Curzon Ashton ger Manceinion[13].
Ym mis Mai 1994 penderfynodd Caernarfon, Bae Colwyn a Chasnewyd fynd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i'r Uchel Lys a cafodd y tri chlwb ddychwelyd i chwarae eu gemau cartref yng Nghymru ond er ennill eu hachos ym mis Gorffennaf 1995 penderfynodd Caernarfon ymddiswyddo o Gynghrair Undebol Gogledd Lloegr a dychwelyd i chwarae ym mhyramid Cymru[13].
Ar ôl dychwelyd i Gymru cafodd Caernarfon eu lle yng Nghynghrair Cymru ar gyfer tymor 1995-96 gan orffen y tymor yn y 6ed safle. Ym 1999 dioddefodd y clwb drafferthion arianol enbyd welodd y garfan gyfan o chwaraewyr yn gadael y clwb a gorffennodd y clwb ar waelod y gynghrair a disgyn i'r Gynghrair Undebol[5].
Er camu yn syth yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru y tymor canlynol, roedd mwy o drafferthion arianol i ddod[5] ac yn 2008-09 disgynodd y clwb yn ôl i'r Gynghrair Undebol gyda gwaeth i ddod y tymor canlynol wrh i Gaernarfon ddisgyn i drydedd adran y pyramid Cymreig a Chynghrair Undebol Arfordir y Gogledd[14].
Yn 2012-13 llwyddodd Caernarfon i sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol wrth orffen y tymor fel pencampwyr Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd[15].
Tymor | Safle | Gwylwyr Cyfartaledd | Cwpan Cymru |
---|---|---|---|
18-19 | 5ed | 872 | Rownd yr wyth olaf |
19-20 | 5ed | 663 | (Covid) |
20-21 | 9fed | (Covid) | (Covid) |
21-22 | 4ydd | 528 | Pedwerydd rownd |
22-23 | 9fed | 485 | Trydydd rownd |
23-24 | 5ed | 576 | Ail rownd |
Ail-ffurfiwyd academi'r clwb yn 2013 gan Haydn Jones. Derbyniodd yr academi statws Academi Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer tymor 2020/2021.