Charles Homer Haskins | |
---|---|
Ffotograff o'r Athro Charles Homer Haskins ym 1919 | |
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1870 Meadville |
Bu farw | 14 Mai 1937 Cambridge |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | arbenigwr yn yr Oesoedd Canol, hanesydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Fellow of the Medieval Academy of America, doctor honoris causa from the University of Paris, Ehrendoktor der Universität Straßburg |
Hanesydd ac academydd o'r Unol Daleithiau oedd Charles Homer Haskins (21 Rhagfyr 1870 – 14 Mai 1937) sydd yn nodedig fel canoloesydd gwychaf ei oes, ac am ei feistrolaeth ar gymdeithas a diwylliant y Normaniaid yn enwedig.
Ganed ym Meadville, Pennsylvania, ac yn ei flynyddoedd cynnar dysgodd yr ieithoedd Lladin a Groeg. Aeth i Goleg Allegheny ym Meadville yn 12 oed, a throsglwyddodd i Brifysgol Johns Hopkins yn Baltimore, Maryland, i raddio yn 16 oed. Derbyniodd ei ddoethuriaeth ar bwnc hanes o Johns Hopkins ym 1890.[1]
Cychwynnodd ar ei yrfa fel tiwtor ym Mhrifysgol Wisconsin, Madison, a chafodd ei ddyrchafu'n athro llawn o fewn dwy flynedd. Ym 1902, symudodd i Brifysgol Harvard a chafodd ei benodi i sawl cadair athro yn yr adran hanes. Ym 1908 fe'i penodwyd yn ddeon Ysgol Ôl-raddedig y Celfyddydau a'r Gwyddorau,[1] a bu'n arloesol yn y swydd honno wrth lunio'r arfer Americanaidd fodern o addysgu hanes i fyfyrwyr ôl-raddedig.[2] Ym 1911 gweithiodd gyda'r Gymdeithas Hanesyddol Americanaidd i gyflwyno'r adroddiad The Study of History in Secondary Schools.[1]
Yn sgil ei benodi'n yr athro cyntaf i ddal Cadair Henry Charles Lea, proffeswriaeth newydd Harvard ar bwnc hanes canoloesol, daeth Haskins i'r amlwg fel prif hanesydd yr Oesoedd Canol yn yr Unol Daleithiau. Cyhoeddodd sawl cyfrol yn seiliedig ar ei ddarlithoedd a'i erthyglau academaidd, gan gynnwys The Normans in European History (1915) a Norman Institutions (1918). Yn ogystal â'i weithiau am y Normaniaid, nodir Haskins am ei astudiaeth o drosglwyddiad gwybodaeth ac ysgolheictod y Groegiaid a'r Arabaidd i Orllewin Ewrop yn y 12g a'r 13g.
Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd Haskins yn bennaeth ar Adran Gorllewin Ewrop yn y Comisiwn Americanaidd i Drafod Heddwch, a chafodd ran felly yng Nghynhadledd Paris a llunio Cytundeb Versailles. Ei brif gyfraniad oedd ei gynllun i sefydlu Tiriogaeth y Saar dan fandad Cynghrair y Cenhedloedd.[2] Cydweithiodd â Robert H. Lord, pennaeth Adran Dwyrain Ewrop, mewn cyfres o ddarlithoedd a gesglir yn y gyfrol Some Problems of the Peace Conference (1920). Gwasanaethodd Haskins yn gadeirydd Cyngor Americanaidd y Cymdeithasau Dysgedig o 1920 i 1926, yn llywydd y Gymdeithas Hanesyddol Americanaidd ym 1922, ac yn llywydd yr Academi Ganoloesol o 1926 i 1927.[1]
Priododd Charles Homer Haskins â Clare Allen ym 1912. Ymddeolodd o Brifysgol Harvard oherwydd salwch ym 1931, a chwe mlynedd yn hwyrach bu farw yn Cambridge, Massachusetts, yn 66 oed.[1][2]